Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion
![](/cy/ibers/amdanom-ibers/bethrydynnineiwneud/canolfangenedlaetholffenomegplanhigion/Nat-Phenomics-Centre-Hero.jpg)
Mae bridio planhigion yn dibynnu ar arsylwi ar wahaniaethau yn y ffordd y mae planhigion yn tyfu, gan nodi’r nodweddion dymunol, megis maint y cynnyrch y gellir ei gynaeafu, y gallu i oddef sychder neu ansawdd y maeth, a deall sut mae’r nodweddion hyn yn cael eu rheoli gan ddylanwadau genetig ac amgylcheddol.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n dwyn ynghyd fiolegwyr, peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol a mathemategwyr i ymchwilio i sut mae genynnau a’r amgylchedd yn rhyngweithio ac yn arwain at nodweddion (neu ffenoteipiau) gwahanol blanhigion.
Mae’r amgylchedd rheoledig yn ein tai gwydr, ein cyfleusterau tyfu awtomataidd gyda’u trwybwn uchel a’n dronau i fonitro caeau, ynghyd â delweddu amlsbectrol, roboteg a dysgu â pheiriannau (cangen o ddeallusrwydd artiffisial) yn caniatáu i ymchwilwyr IBERS gymhwyso technoleg yr 21ain ganrif at gan mlynedd o brofiad o wyddoniaeth tir glas a bridio planhigion.
“EDRYCH AR BLANHIGION Â PHÂR NEWYDD O LYGAID”
Am lawer o hanes dynol mae llawer o’r nodweddion a ddefnyddir wrth fridio planhigion wedi’u dewis gan y llygad. Erbyn hyn, mae technolegau delweddu digidol yn galluogi bridwyr planhigion i arsylwi ar blanhigion â chant o lygaid gwahanol. Er enghraifft, llygaid sy’n gallu gweld mewn sawl sbectrwm, rhoi golygfa o’r awyr dros gaeau, gweld trwy feinweoedd planhigion a hyd yn oed drwy’r pridd i arsylwi ar sut mae strwythurau’r gwreiddiau yn tyfu.
Mae defnyddio’r dechnoleg ddelweddu ddiweddaraf ynghyd â dysgu peirianyddol yn galluogi ymchwilwyr IBERS i gasglu amrywiaeth eang o ddata delweddu o nifer fawr o blanhigion mewn cyfnod byr. Mae technolegau o’r fath yn caniatáu i waith gael ei wneud mewn misoedd a fyddai wedi cymryd blynyddoedd lawer yn flaenorol wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol bridio planhigion.
Gall cyfnodau datblygiadol yn ystod oes planhigyn gael eu cipio mewn tri dimensiwn, a gall newidiadau dros amser gael eu modelu. Mae hyn yn caniatáu inni fesur ystod newydd sbon o nodweddion nad oeddent ar gael i wyddonwyr planhigion a bridwyr o’r blaen. Felly, mae’r ganolfan ffenomeg yn gwneud ymchwil sy’n hybu’n gwybodaeth sylfaenol o wyddor planhigion, yn cyflymu gwaith bridio cnydau ac yn adeiladu setiau data a all gael eu cymhwyso at nifer o gnydau a’u defnyddio i ddatblygu systemau dysgu peirianyddol newydd a chymwysiadau AI er mwyn cyflymu’r cynnydd ymhellach.
➡ Dysgwch fwy am Ffenomeg yn IBERS.
➡ Dysgwch fwy am y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol a'i hanes yma.