IBERS - Beth rydyn ni'n ei wneud

 

Datblygu cnydau yfory

Gan dynnu ar fwy na chan mlynedd o adnoddau genetig, sydd wedi’u diogelu yng nghyfleuster storio ein Banc Hadau, mae’n hymchwilwyr a’n partneriaid masnachol yn ymdrechu’n gyson i ddatblygu mathau newydd a gwell o laswellt, grawnfwydydd a chodlysiau. Gan ddefnyddio’n cyfuniad unigryw o amgylcheddau dan reolaeth o’r radd flaenaf a’n lleiniau maes arbrofol, sydd wedi’u gwasgaru ar draws sawl safle, uchder a chyfandir, rydyn ni wrthi’n gweithio i wneud cnydau’n fwy gwydn trwy gyflwyno mwy o amrywiaeth o gnydau ac adeiladu ymwrthedd gwell i gyfnodau o sychder neu lifogydd.

Gwneud amaethyddiaeth  yn fwy cynaliadwy

Nod ein hymchwil amaethyddol yw gwella cynaliadwyedd ein systemau bwyd a ffermio trwy weithio gyda ffermwyr i helpu i leihau’r angen  am wrteithiau anorganig, lleihau allyriadau wrth gynhyrchu da byw, a datblygu ffynonellau protein amgen yn lle’r soia wedi’i fewnforio a ddefnyddir mewn bwyd i bobl ac anifeiliaid. Rydyn ni hefyd  yn datblygu gwell cnydau biomas i ddal a storio carbon o’r atmosffer yn fwy effeithiol, gan weithio gyda’n gilydd i helpu’r gymdeithas i gymryd y camau hanfodol nesaf tuag at ddyfodol Sero Net. 

Datblygu offer a  thechnolegau galluogi i  wneud i hynny ddigwydd

Mae’n hymchwilwyr wrthi’n barhaus yn datblygu ac addasu offer yr 21ain ganrif i dargedu heriau mewn gwyddoniaeth planhigion, bridio a biotechnoleg. Rydyn ni’n cymhwyso’r offer gwyddonol a’r TG ddiweddaraf fel delweddu aml-sbectrol, roboteg, dysgu â pheiriannau a deallusrwydd artiffisial er mwyn cyflymu bridio confensiynol, a chael mynediad at nodweddion nad oedd yn hygyrch yn flaenorol i fridwyr cnydau. Rydyn ni’n datblygu offer monitro maes y genhedlaeth nesaf i alluogi amaethyddiaeth glyfar a manwl, ac yn gweithio i ddod o hyd i atebion biotechnoleg newydd i droi planhigion yn gynhyrchion a throi gwastraff yn gyfoeth.