Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Croeso i IBERS

Athrofa’r Gwyddorau  Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig 

 

Arwynebedd cyfyngedig o dir sydd gan y byd i greu bwyd, tanwydd a dillad i boblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth. Ar sail dros gan mlynedd o hanes o weithio i wella amaethyddiaeth tir glas, nod ymchwil IBERS yw gwneud ffermio yn fwy cynhyrchiol, mwy buddiol i’r gymdeithas a mwy gwarchodol i’n hamgylchedd. 

Yn yr Athrofa, rydyn ni’n cynnal ymchwil sylfaenol a chymhwysol arloesol sy’n sail ar gyfer bridio mathau newydd a gwell o gnydau, gan wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy, a galluogi’r diwydiant i ddatblygu prosesau a chynhyrchion newydd. 

Yma yn y Canolbarth, mae lleoliad unigryw IBERS a’i ecosystem o alluoedd yn caniatáu i’n myfyrwyr a’n hymchwilwyr gyflawni gwaith ymchwil ymarferol a hyfforddiant mewn geneteg planhigion, amaethyddiaeth, ecoleg, biotechnoleg a gwyddor amgylcheddol. Mae hyn yn fodd inni astudio’n hamgylchedd, ein cynefinoedd a’n systemau bwyd  o’r mynydd i’r môr ac o’r fferm i’r fforc. 

Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar wneud cnydau’n fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd cnydau, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon, a deall y rhyngweithio ehangach rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd. 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant i fynd i’r afael â heriau byd-eang, ymgysylltu â’r rhai sy’n ffurfio polisïau a’r gymuned amaethyddol ehangach  er mwyn deall yr hanfodion yn well, ac yna cydweithio i ddod o hyd i atebion a chymhwyso’n biowyddoniaeth i helpu i adeiladu gwell yfory.

Yr Athro  Iain Donnison,
Cyfarwyddwr IBERS