Gweithio ar eich pen eich hun

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn diffinio pobl sy’n gweithio ar eu pen eu hun fel rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hun heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol. Dylid osgoi gweithio ar eich pen eich hun lle bo modd, oherwydd gall achosi risgiau uwch. Serch hynny, ceir rhai sefyllfaoedd lle na ellir osgoi gweithio ar eich pen eich hun.

Cyd-Destun Cyfreithiol

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i asesu pob risg i iechyd a diogelwch, gan gynnwys y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun. Dylid cynnal yr asesiad hwn cyn ymgymryd ag unrhyw waith o’r fath. Os yw’r asesiad risg yn dangos nad yw’n bosib i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel gan weithiwr ar ei b/phen ei hun, yna bydd rhaid sefydlu trefniadau eraill.

Dogfennau

Mae’r dogfennau canlynol ynglŷn â Gweithio ar eich pen eich hun ar gael yn y Llyfrgell Ddogfennau:

  • P007 Polisi Gweithio ar eich pen eich hun
  • G005 Canllaw ar gyfer Gweithio ar eich pen eich hun

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Asesiad Risg

Mae’r camau i’w cymryd wrth asesu gweithio ar eich pen eich hun yn cynnwys:

  • Adnabod y perygl
  • Gwerthuso’r risg
  • Camau rheoli
  • Monitro ac arolygu

O’r asesiad cychwynnol hwn, mae’r pethau y gellir eu hystyried i sicrhau nad yw pobl sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain mewn perygl yn cynnwys:

  • Asesu’r ardaloedd o risg gan gynnwys trais, codi a chario, addasrwydd meddygol yr unigolyn i weithio ar eu pennau eu hunain, ac a yw’r gweithle ei hun yn cyflwyno risg iddynt;
  • Y gofynion ar gyfer hyfforddiant, lefel y profiad, a sut orau i fonitro a goruchwylio;
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd, gan gynnwys cael systemau mewn lle er mwyn cadw mewn cysylltiad â nhw.

Mesurau Rheoli

Bydd addasrwydd y camau rheoli yn amrywio yn ôl ffactorau megis lleoliad, natur y gweithgaredd, a’r unigolyn/unigolion dan sylw. Mae enghreifftiau o’r mathau o gamau rheoli y gellid eu hystyried yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • Gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant benodol (gweithdrefnau argyfwng, gweithdrefnau y tu allan i oriau gwaith, hyfforddiant diogelwch personol);
  • Cadarnhau dros y ffôn wrth gychwyn a gorffen gwaith, gan osod amser penodol ar gyfer tasgau;
  • Mwy o systemau neu weithdrefnau cyfathrebu (cyswllt rheolaidd drwy ffôn symudol, a drefnwyd ymlaen llaw);
  • Mwy o oruchwylio;
  • Mwy o ddiogelwch (teledu cylch cyfyng, mynediad diogel, larymau personol);
  • Defnyddio systemau gwaith diogel (“Trwydded i Weithio” i reoli cwmpas y gweithgareddau);
  • Os bydd gweithio ar eich pen eich hun yn golygu rhyngweithio ag eraill, ystyriwch gyfarfod yn rhywle niwtral;
  • Systemau cyfaill;
  • Mwy o oleuadau wrth fynedfeydd, allanfeydd a meysydd parcio; a
  • Lleihau uchder cloddiau a pherthi mewn meysydd parcio ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd.

Hyfforddiant

Mae’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cynnig cwrs hyfforddi 2 awr ar asesu risg sy’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal asesiad risg digonol, rhoi camau rheoli priodol ar waith a monitro ac adolygu casgliadau’r asesiad. Mae’r cwrs yn esbonio holl gamau’r broses o gynnal asesiad risg digonol ac mae’n darparu templed gwag i’w ddefnyddio wrth gynnal asesiadau risg yn y gweithle gan gyfeirio at enghreifftiau sydd ar gael ar wefan y Brifysgol.