Diogelech Tân

Deaf Alerter

System rhybuddion a negeseuon larwm tân yn seiliedig ar radio.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod system larwm tân newydd sy’n seiliedig ar radio ar gyfer ymwelwyr, myfyrwyr a staff sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Mae’r system ar gael yn y rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol. Mae’r logo uchod hefyd yn nod masnach cofrestredig ac mae sticeri ar ddrysau mynedfeydd adeiladau.

Dyfais fechan yw hon sy’n derbyn tonfeddi radio ac yn dirgrynu, ac yn dangos neges briodol pan fydd yn derbyn signal o drosglwyddydd Deaf Alerter. Pan seinir larwm tân adeilad, mae trosglwyddydd Deaf Alerter yn rhoi’r teclyn rhybuddio ar waith. Bydd y teclyn rhybuddio’n gweithio orau o’i wisgo’n agos i’r corff.

Dangos Neges

Ar ben uchaf y teclyn rhybuddio mae blwch arddangos a fydd yn dangos lleoliad adeilad pan fo’r teclyn rhybuddio’n derbyn rhybudd ymadael mewn argyfwng megis larwm tân yn seinio mewn adeilad.

Rhybudd Clywadwy Parhaol

Nodwedd arall o’r teclyn rhybuddio yw ei fod yn rhyddhau tôn glywadwy a fydd yn helpu timau achub mewn argyfwng i wybod bod gan rywun yn yr adeilad declyn rhybuddio. Mae’r system yn golygu bod modd dod o hyd i unigolion os bydd tân a hwythau ddim yn gallu gadael yr adeilad mewn argyfwng.

Bydd teclynnau rhybuddio ar gael i bob ymwelydd, myfyriwr ac aelod o’r staff sydd eu hangen oherwydd bod nam ar eu clyw. Rhaid cadarnhau pwy yw rhywun cyn rhoi teclyn rhybuddio.

Ymwelwyr

Mae cyflenwad o declynnau rhybuddio ar gael i ymwelwyr mewn mannau gwasanaeth canolog, er enghraifft yn Nerbynfa Penglais, y Ganolfan Chwaraeon, Canolfan y Celfyddydau, Paratoi Data yn Llandinam, a phob desg fenthyca yn y Llyfrgelloedd. Dylai ymwelwyr holi yn y derbynfeydd lle gwelir yr arwydd Deaf Alerter.

Myfyrwyr

Rhoddir teclynnau rhybuddio i fyfyrwyr sydd eu hangen drwy’r Swyddfa Llety neu’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. Mae Night Cradle hefyd ar gael i’r myfyrwyr mewn neuaddau preswyl. Lle ceir trefniadau eraill yn y neuaddau, caiff myfyrwyr wybod beth yw’r broses yno.

Dylai myfyrwyr mewn llety preifat gysylltu â’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Dylai’r myfyrwyr ddychwelyd teclynnau rhybuddio i’r man dosbarthu ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.

Staff

Dylai staff y mae angen teclyn rhybuddio arnynt gysylltu â’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Mae canllaw ar ddefnyddio’r Deaf Alerter ar gael yn y man dosbarthu.

Peidiwch â diffodd y teclyn rhybuddio.

O ddydd i ddydd cynghorir chi i gadw’r teclyn rhybuddio gyda chi bob amser, yn agos at y corff ac wedi’i droi ymlaen. Mae hyn yn golygu y bydd angen newid y batri’n amlach, felly darllenwch y rhan nesaf ar ofalu am y batri.

Batris

Tua deuddydd cyn i’r batri ddod i ben bydd y teclyn rhybuddio’n nodi bod y batri’n isel ac angen ei newid. Y swyddfa ddosbarthu wreiddiol fydd yn trefnu batris newydd; gweler y manylion cyswllt isod.

Colli a Chyfnewid

Unigolion sy’n gyfrifol am gost cyfnewid teclyn rhybuddio sy’n mynd ar goll. Dylid dychwelyd teclynnau rhybuddio diffygiol i’r man dosbarthu. Bydd teclynnau rhybuddio eraill ar gael os bydd y teclyn yn mynd ar goll neu os bydd yn ddiffygiol. Gweler y manylion cyswllt isod.

Perchnogaeth

Bydd teclynnau rhybuddio’n eiddo i’r Brifysgol ac yn eitemau i’w benthyg yn unig. Dylai myfyrwyr ddychwelyd teclynnau rhybuddio ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd. Dylai staff eu dychwelyd pan fyddant yn gadael eu swydd yn y Brifysgol. Dylai ymwelwyr eu dychwelyd pan fydd eu busnes gyda’r Brifysgol ar ben ar ddiwrnod olaf eu hymweliad.

Am fwy o fanylion neu i wneud ymholiadau cysylltwch â: hasstaff@aber.ac.uk (01970) 622073