Asbestos

Mwyn sy’n digwydd yn naturiol yw asbestos ac fe’i defnyddiwyd yn eang yn y diwydiant adeiladu tan ganol y 1980au oherwydd ei nodweddion ardderchog ar gyfer ynysu a diogelu rhag tân. Gall fod asbestos yn unrhyw adeilad a godwyd cyn 2000. Ni ddylai presenoldeb asbestos ynddo’i hun fod yn destun pryder. Dim ond wrth iddo gael ei ryddhau i’r awyr a’i anadlu i mewn y gall beryglu iechyd pobl.

Gofynion Cyfreithiol

Mae gan y Brifysgol oblygiadau o dan Reoliadau Rheoli Asbestos 2012 i gymryd camau gweithredol i ganfod, cofnodi a rheoli asbestos sydd, neu all fod yn bresennol. Cyfrifoldeb yr Adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd yw’r broses hon, a dylid cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos ar y safle at yr adran hon.

Deunyddiau sy’n cynnwys Asbestos

Gall fod yn anodd i ganfod asbestos, gan ei fod yn aml yn cael ei gymysgu â deunyddiau eraill. Gall asbestos fod yn rhan o unrhyw adeilad a godwyd neu a adnewyddwyd cyn y flwyddyn 2000, a gellir dod o hyd iddo yn unrhyw un o’r isod:

  • To a muriau;
  • Boileri a phibellau;
  • Nenfydau;
  • Muriau/paneli mewnol;
  • Teils llawr;
  • Addurn nenfwd Artex;
  • Teils nenfwd;
  • Deunyddiau llawr;
  • Systemau awyru;
  • Offer domestig;
  • Hen flancedi tân;
  • Tanciau dŵr;
  • Soffit.

Gwaherddir defnyddio asbestos bellach ond os yw’r deunyddiau asbestos sydd yno mewn cyflwr da, gellir eu gadael ar yr amod y cedwir golwg arnynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau na fyddant yn torri.

Ystyriaethau Cyffredinol

Dylai’r staff sy’n debygol o ddod ar draws Deunyddiau sy’n Cynnwys Asbestos oherwydd natur eu gwaith, ddilyn y canllawiau perthnasol :

  • Gwybod lle mae’r asbestos ac osgoi amharu arno;
  • Rhagdybio bod deunyddiau yn cynnwys asbestos (oni bai fod rhesymau da dros beidio);
  • Gwirio cofnod ysgrifenedig eich sefydliad o leoliad asbestos (y Gofrestr Asbestos a’r Cynllun Rheoli Asbestos, sydd ar gael drwy’r Adran Ystadau, Cyfleuesterau a Phreswylfeydd);
  • Gwirio’r gofrestr yn rheolaidd ar gyfer gwybodaeth newydd;
  • Dilyn holl gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch;
  • Os gwelwch fod yr asbestos yn torri, stopiwch weithio a rhoi gwybod i’ch goruchwyliwr ar unwaith.