Diwrnod Heb Blastig 25.10.18

Yn 2018, enwyd Prifysgol Aberystwyth y Prifysgol cyntaf i ennill statws Prifysgol Ddi-blastig cydnabyddedig.Mae’r ymgyrch, a ddyfarnwyr gan Surfers Against Sewage, yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o eitemau plastig sy’n cael eu defnyddio unwaith cyn eu taflu, megis poteli plastig, cwpanau a chaeadau coffi, bagiau, cyllyll a ffyrc, gwellt a ffyn cymysgu. Er bod rhai eitemau plastig untro yn y Brifysgol o hyd, mae'r cynllun yn cydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i leihau’r defnydd ohonynt ac ymrwymiad parhaus y sefydliad i’w gwaredu.

Byddwn yn cynnal Diwrnod heb Blastig ar Ddydd Iau 25 Hydref a fydd yn cynnwys:

  • Bydd mannau lletygarwch yn cyfyngu gwerthiant nifer o eitemau plastig y gellir ond eu defnyddio unwaith.
  • Stondinau gwybodaeth am blastig y gellir ond eu defnyddio unwaith, ym mhob ardal lletygarwch.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad cyhoeddus:

Y Ddadl Blastig Fawr – Problem neu Gyfle?

Yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau byr gan fusnesau lleol a budd-deilwyr, wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb agored. Ymunwch â’r drafodaeth, clywch beth sydd yn digwydd yn Aberystwyth, a sut gallwch fod yn rhan ohono.

Cynhelir ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth ac Aberystwyth Heb Blastig, Dydd Iau 25 Hydref 2018 – 6-8yh, Lleoliad: Medrus Mawr, Penbryn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gymryd rhan, ebostiwch ded17@aber.ac.uk.