Cyrsiau Hyfforddiant ag Achrediad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn un o ddarparwyr hyfforddiant ag achrediad y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH) yn y Canolbarth. Ystyrir bod y Sefydliad yn arwain y blaen ym maes hyfforddiant iechyd a diogelwch, ac mae ei gyrsiau yn cael eu cydnabod a'u parchu'n rhyngwladol. Mae ein hyfforddwyr iechyd a diogelwch profiadol yn falch iawn o allu cynnig dau o gyrsiau hyfforddiant y Sefydliad y ceir canmol mawr iddynt, a hynny ym maes rheoli’n ddiogel a gweithio’n ddiogel.