GwaithAber
Ennill wrth ddysgu
GwaithAber yw eich cyfle i ennill incwm wrth astudio. Mae GwaithAber yn cynnig gwaith mewn amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol ac adrannau academaidd. Mae’r cynllun yn cynnig lleoliadau gwaith hyblyg sy'n eich rhoi mewn sefyllfa i drefnu’r gwaith i gyd-daro â’ch amserlen ddysgu.
Gwybodaeth i staff
Mae manteision GwaithAber yn cynnwys:
- Sicrwydd o Gyflog Byw Gwirioneddol yn isafswm i bob swydd a hysbysebir – mae rhai yn talu’n uwch
- Cyfleoedd yn ystod y tymor
- Cyfleoedd am waith yn ystod y gwyliau
- Datblygu sgiliau ymarferol yn deillio o brofiad gwaith mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys Cynnal a Chadw Cyfleusterau, Lletygarwch, Manwerthu a Masnachu, Marchnata, ac Adnoddau Dynol.
Mae nifer o swyddogaethau ar gael trwy gydol y flwyddyn. Cofrestrwch ar gynllun GwaithAber er mwyn gallu gweld pob cyfle sydd ar gael.
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Mae GwaithAber yn gyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth ddysgu.
Os bydd gwaith ar gael yn ystod tymor y Brifysgol, efallai y byddwch yn dewis gweithio hyd at 15 awr yr wythnos, gyda’r posibilrwydd am ragor o oriau gwaith yn ystod y gwyliau. Bydd y cyflog yn ddibynnol ar y swydd. Gall lleoliad y gwaith fod ar unrhyw un o gampysau’r Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg. Gallwch ddewis derbyn gwaith sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.
Cofrestru ar gyfer GwaithAber
I gofrestru ar gynllun GwaithAber, mae angen cwblhau'r camau canlynol:
Cam 1: Yn gyntaf, cyn gwneud cais am unrhyw swydd wag, bydd angen cofrestru ar y cynllun. Gwnewch yn sicr fod fod yr holl ffurflenni’n cael eu llenwi, ac yna gwasgwch 'cyflwyno'.
Cam 2: Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gofrestru, byddwch yn cael e-bost yn gofyn i chi gwblhau gwiriad Hawl i Weithio. Cewch eich gwahodd i ymweld â ni yn y swyddfa, ac fe ddwedwn wrthych beth i ddod gyda chi a’r amser ar gyfer cwblhau eich Gwiriad.
Cam 3: Ar ôl i ni gwblhau cam 2, fe gewch hawl mynediad trwy e-bost i GwaithAber. Ar ôl mewngofnodi byddwch yn gallu gweld pa swyddi sy’n cael eu hysbysebu ac yn gallu gwneud cais am unrhyw un ohonynt.
Os nad ydych yn derbyn yr e-bost hwnnw o fewn awr neu ddwy, cysylltwch â hr@aber.ac.uk a gallwn wirio cynnydd eich cofrestriad.
*Unwaith y bydd y ddau gam wedi eu cwblhau, byddwn yn anelu at eich ychwanegu at GwaithAber o fewn wythnos.*
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn mae croeso i chi gysylltu: hr@aber.ac.uk
Mewngofnodi i GwaithAber
**Gallwch fewngofnodi i GwaithAber pan fydd y bydd y broses gofrestru wedi'i chwblhau (gweler uchod). **
Bydd angen i chi fod ar rwydwaith Prifysgol Aberystwyth hefyd er mwyn gweld y dudalen. Mae hyn yn golygu bod angen i chi naill ai fod ar y campws, neu ddefnyddio VPN y Brifysgol. Gweler yma am fwy o wybodaeth am y VPN:
Rhowch eich enw defnyddiwr myfyriwr (heb @aber.ac.uk ar y diwedd) a'ch cyfrinair PA arferol.
I staff sydd eisiau gwneud cais i hysbysebu ar GwaithAber
Os hoffech hysbysebu swydd ar GwaithAber cysylltwch â'ch Swyddogion/Gweinyddwyr Cyfadran. Bydd modd iddynt hwy eich helpu drwy'r broses.
Bydd angen templed hysbyseb wedi’i gwblhau’n llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn y bydd modd hysbysebu'r swydd. Gweler yma am y templed hysbyseb: