Dathlwch y Nadolig gyda ni

Ydych chi’n edrych ymlaen at gynulliad Nadoligaidd?  Gyda'r Nadolig yn agosáu'n gyflym, ymunwch â'r Gwasanaethau Croeso am ddathliad cynnes, cyfeillgar ac ymlaciol ar draws ein safleoedd.

 

Partïon Nadolig

Ymunwch â ni yn Ystafelloedd Medrus am ein ciniawau a’n swperau Nadoligaidd. Mwynhewch ein Cerfdy Nadolig traddodiadol gyda bwrdd pwdin a the, coffi a mins peis i orffen. Archebwch fwrdd o flaen llaw ar gyfer eich ffrindiau a'ch teulu ar y dyddiadau canlynol.

Dydd Mercher 11 a dydd Iau 12 Rhagfyr 2024 12.00yp-2.00yp

Rhaid cael bwrdd i 6 o leiaf Bydd bar talu ar gael o 12.00yp tan 1.30yp. Ar ôl archebu, anfonir dolen atoch i'ch gwesteion dalu o flaen llaw am eu pryd bwyd.

 £18.95 Bwydlen Nadolig 24

 

Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024 7.00yh-10.00yh

Ymunwch â ni ar gyfer ein noson parti Nadolig. Rhaid archebu bwrdd i 6 o leiaf. Bydd bar talu ar gael o 6.30yh tan 10.00yh Ar ôl archebu, anfonir dolen atoch i'ch gwesteion dalu o flaen llaw am eu pryd bwyd.

£22.95 Bwydlen Nadolig 24

Noder bod Canolfan Gynadledda Medrus yn cynnal digwyddiadau archebu o flaen llaw a thalu o flaen llaw.

I gadw eich bwrdd, e-bostiwch y gwasanaeth croeso (hospitality@aber.ac.uk), bydd rhagor o wybodaeth a dolen yn cael ei hanfon ynghylch talu.

 

Y Neuadd Fwyd

Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024

Bydd Cerfdy Twrci a'r holl drimins Nadolig ac opsiwn llysieuol / fegan ar gael o 12.00yp -2.00yp oddi ar fwrdd y cogydd.

Gogerddan

Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024

Bydd Cerfdy Twrci a'r holl drimins Nadolig ac opsiwn fegan ar gael o 12.00yp -1.30yp

Pantycelyn

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024

Byddwn yn cynnal noson ar thema'r Nadolig rhwng 5.00yp a 7.00yh. Mae croeso i holl breswylwyr Pantycelyn, a’r rhai nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn.

 

Diolch am eich cefnogaeth trwy gydol 2024 ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2025.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Gwasanaethau Croeso