Statws Elusennol
- Caiff y Brifysgol adennill treth gan Gyllid y Wlad o dan y cynllun Cymorth Rhodd, sy’n sicrhau cynnydd o bron i draean yng ngwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU.
- Mae trethdalwyr ar y gyfradd uwch hefyd yn gymwys i gael didyniadau treth bersonol am roddion i’r Brifysgol.
- Nid yw’r Brifysgol yn talu unrhyw dreth incwm na threth etifeddiaeth ar roddion y mae’n eu derbyn ar ffurf arian neu eiddo. Mae rhodd sy’n cael ei roi i’r Brifysgol mewn Ewyllys yn lleihau’r dreth sy’n daladwy ar yr ystad.
- O roi stociau a chyfranddaliadau i’r Brifysgol, mae’r rhoddwr yn lleihau’i atebolrwydd treth incwm ac mae’r rhodd yn rhydd rhag y dreth ar enillion cyfalaf.
- Mae rhai elusennau wedi’u ‘heithrio’ rhag goruchwyliaeth y Comisiwn Elusennau oherwydd eu bod yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan awdurdod arall, neu’n atebol i awdurdod o’r fath. Er nad ydynt yn ddarostyngedig i awdurdod y Comisiwn Elusennau, mae’r rheolau cyfreithiol sy’n berthnasol i elusennau’n gyffredinol yn berthnasol i elusennau eithriedig.
Atodlen 2 i Ddeddf Elusenau 1993
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1993/ukpga_19930010_en_1
Mae'r sefydliadau a ganlyn, cyhyd ag y bônt yn elusennau, yn elusennau sydd wedi'u heithrio o fewn ystyr y Ddeddf hon, hynny yw –
(a) unrhyw sefydliad, pe na bai Deddf Elusennau 1960 wedi cael ei phasio, a fyddai wedi'i eithrio o bwerau ac awdurdod y Comisiwn neu'r Gweinidog Addysg dan Ddeddfau Ymddiriedolaethau Elusennol 1853 i 1939 (ar wahân i unrhyw bŵer sydd gan y Comisiwn neu'r Gweinidog i gymhwyso'r Deddfau hynny yn gyfan gwbl neu'n rhannol i elusennau sydd wedi’u heithrio fel arall) gan delerau unrhyw ddeddfiad sydd heb ei gynnwys yn y Deddfau hynny heblaw am adran 9 o Ddeddf Cofrestru Llefydd Addoli 1855;1
(b) prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Llundain, Durham a Newcastle, colegau a neuaddau ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Durham a Newcastle, Coleg Queen Mary a Westfield ym Mhrifysgol Llundain a cholegau Winchester ac Eton;
(c) unrhyw brifysgol, coleg prifysgol, neu sefydliad sy'n gysylltiedig â phrifysgol neu goleg prifysgol, y mae Ei Mawrhydi yn datgan drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei bod yn elusen sydd wedi'i heithrio at ddibenion y Ddeddf hon;2
(da) yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm;3
(f) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru;4
(i) cwmni olynol i gorfforaeth addysg uwch (o fewn ystyr adran 129(5) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988) ar adeg pan fo sefydliad a weinyddir gan y cwmni yn cael ei ddynodi dros dro dan yr adran honno;
(k) Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Victoria ac Albert;
(l) Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth;
(m) Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Arfdai;
(n) Bwrdd Ymddiriedolwyr y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew;
(o) Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol ar Lannau Merswy;
(p) ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig ac ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Hanes Natur;
(q) Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol;
(r) Bwrdd Ymddiriedolwyr Oriel Tate;
(s) Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Oriel Bortreadau Genedlaethol;
(t) Bwrdd Ymddiriedolwyr Casgliad Wallace;
(u) Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol;
(v) Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Forol Genedlaethol;
(w) unrhyw sefydliad sy'n cael ei weinyddu gan neu ar ran sefydliad a gynhwysir uchod ac a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw ddiben arbennig neu mewn perthynas â'r sefydliad a enwir yn olaf;5
(x) Comisiwn yr Eglwys ac unrhyw sefydliad a weinyddir ganddo;
(y) unrhyw gymdeithas gofrestredig o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 ac unrhyw gymdeithas neu gangen gofrestredig o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974;
(z) Bwrdd Llywodraethwyr Amgueddfa Llundain;
(za) Bwrdd Llyfrgell Prydain;
(zb) Bwrdd y Gronfa Gymunedol.6
1Yn ymarferol, mae paragraff (a) yn cynnwys:
- prifysgolion Birmingham, Bryste, Caerwysg, Hull, Leeds, Caerlŷr, Lerpwl, Manceinion, Nottingham, Reading, Sheffield a Southampton;
- yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol;
- yr Amgueddfa Forol Genedlaethol;
- Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru ac unrhyw eiddo a freiniwyd ynddo neu a weinyddir ganddo;
- eiddo o fewn Mesur Buddsoddi Arian Eglwysig 1958.
2Gweddill y prifysgolion nad ydynt wedi’u cwmpasu gan (a) a:
- sefydliadau sy'n gysylltiedig â Phrifysgolion Llundain, Manceinion a Chymru;
- rhai ysgolion, colegau a sefydliadau meddygol a meddygol ôl-raddedig.
3Mewnosodwyd gan Atodlen 19, paragraff 175 o Ddeddf Addysg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 1997.
4Mewnosodwyd gan Atodlen 15, paragraff 5 o Ddeddf Addysg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 37, paragraff 120 o Ddeddf Addysg 1996.
5Os nad yw'r ymddiriedolwyr yn sicr a yw eu helusen wedi'i chynnwys o fewn paragraff (w), dylent geisio cyngor y Comisiwn.
6Mewnosodwyd gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol ac ati 1993.