Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd

Croeso i'r Adran Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd.  Rydym yn adran fawr a blaengar sy’n darparu gwasanaethau proffesiynol, ac mae gennym gylch gwaith eang.  Ein prif nod yw 'Darparu, cynnal a datblygu amgylchedd o ansawdd uchel mewn modd proffesiynol, effeithlon a chost effeithiol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, er mwyn galluogi'r Brifysgol i gyflawni ei nodau a'i hamcanion strategol, heddiw ac yn y dyfodol.'

Strwythur yr Adran

Amcanion cyffredinol yr Adran Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yw:

  • Cefnogi a hwyluso gweithgareddau dysgu, addysgu ac ymchwil.
  • Diogelu adeiladwaith a gwasanaethau adeiladau Prifysgol Aberystwyth er mwyn cynnal gwerth asedau.
  • Darparu gwasanaeth rhagweithiol ac ymatebol wrth reoli adnoddau.
  • Gwella’r dulliau o gyfathrebu â staff a defnyddwyr.
  • Gwneud gwell defnydd o systemau gwybodaeth sy'n monitro perfformiad a chostau i hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau rheoli.
  • Cyflawni’r targedau ariannol a osodir gan y Brifysgol.
  • Datblygu a hyfforddi staff Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
  • Cynnal a datblygu profiad preswyl o ansawdd uchel.
  • Chwarae mwy o ran yng nghamau cynllunio cynnar prosiectau newydd i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw parhaus yn cael ei gydnabod a'i brisio.
  • Meincnodi gweithgareddau a gwasanaethau yn erbyn sefydliadau cyffelyb eraill a defnyddio data HESA i bennu dangosyddion perfformiad allweddol.

Mae croeso i chi gysylltu ag aelodau perthnasol o’r tîm i drafod unrhyw ofynion sydd gennych, a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo lle bo modd. 

Andrea James
Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd

Manylion adrodd:

Ceisiadau cynnal a chadw, materion, adrodd am ddiffygion a cheisiadau am waith bach (£5m - £25m) -

Ffôn 01970 622999

neu e-bost campushelp@aber.ac.uk

Ceisiadau prosiect mawr ac ymholiadau eraill - Ffôn 01970 621951

neu e-bost jxr@aber.ac.uk

Ceisiadau glanhau a porthora - E-bost facstaff@aber.ac.uk

Mewn argyfwng ffoniwch staff Diogelwch - Ffôn 01970 622649