Terminoleg sy'n ymwneud â hil
Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth hil gydag amryw grwpiau, staff a myfyrwyr. Un o'r pynciau trafod rheolaidd yw'r derminoleg i'w defnyddio wrth drafod hil ac ethnigrwydd.
Yn rhan o'n gwaith tuag at gael achrediad efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, bydd Ian Munton yn cadeirio grŵp bach i drafod hil a diwylliant yn y Brifysgol, a llunio canllawiau dwyieithog ar derminoleg fydd yn un o'u gorchwylion.
Yn y cyfamser, mae’r Weithrediaeth wedi cytuno y bydd Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio'r 'canllawiau ar derminoleg hil' a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerlŷr. Maent i’w gweld yma:
Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Caerlŷr am ganiatáu i ni ddefnyddio'r canllawiau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dermau hil Cymraeg, cysylltwch â cyfieithu@aber.ac.uk neu mae yna crynodeb isod.
Colin McInnnes
Cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Hil
Gorffennaf 2023
Crynodeb
Term | Pryd |
---|---|
ethnig l(l)eiafrifol | Er ein bod yn annog cyfeirio at grwpiau ethnig penodol, lle nad yw hyn yn bosibl defnyddir y term ‘ethnig leiafrifol’ wrth gyfeirio at bob grŵp ethnig ac eithrio gwyn*. |
BAME | Er cysondeb, mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn ei ddefnyddio yn ei gohebiaeth â chyrff allanol ynghylch data (e.e. Marc y Siarter Cydraddoldeb Hil) |
Cefndir Du/ethnig Du | Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Affricanaidd, Caribïaidd neu gefndir Du arall. |
Cefndir Asiaidd/ethnig Asiaidd | Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, Pacistanaidd neu unrhyw gefndir Asiaidd arall. Er ein bod yn annog cyfeirio at grwpiau ethnig penodol, pan ddefnyddir y term mwy cyffredinol ‘Asiaidd’, gall fod yn ddefnyddiol gwahaniaethu a nodi a yw hyn yn ymwneud â phobl o gefndiroedd De Asiaidd ynteu Ddwyrain Asiaidd (lle bo hynny'n berthnasol). |
cefndir ethnig cymysg | Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Asiaidd a gwyn, Du Affricanaidd a gwyn, Du Caribïaidd a gwyn, unrhyw gefndir cymysg arall. |
cefndir gwyn/ethnig gwyn | Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir gwyn Prydeinig neu wyn arall**. |
Categorïau ethnigrwydd |
---|
"Asiaidd / Asiaidd Prydeinig (prif gategori) Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, Pacistanaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall. Pan ddefnyddir y term ‘Asiaidd’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod." |
"Du / Du Prydeinig (prif gategori) Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir Du arall. Pan ddefnyddir y term ‘Du’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod. " |
"Cymysg (prif gategori) Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Asiaidd a Gwyn, Du Affricanaidd a Gwyn, Du Caribïaidd a Gwyn, unrhyw gefndir cymysg arall. Pan ddefnyddir y term ‘Cymysg’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod." |
"Grŵp Ethnig Arall (prif gategori) Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Arabaidd, unrhyw gefndir arall. Pan ddefnyddir y term ‘Grŵp Ethnig Arall’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod." |
"Dewis peidio â dweud Mae hyn yn cyfeirio at unigolion nad oes arnynt eisiau datgelu eu cefndir ethnig. Mae'r Brifysgol yn parchu dewis unigolyn i beidio â datgelu ei ethnigrwydd. Mae'r Brifysgol yn cydnabod cyfyngiadau'r dewisiadau ar gyfer datgelu ethnigrwydd a bydd yn gweithio'n agos gyda’i staff a’i myfyrwyr i ddatblygu a mireinio'r dewisiadau hyn fel eu bod yn cynrychioli ein myfyrwyr a'n staff." |
"Heb ei ddatgan / Anhysbys Mae hyn yn cyfeirio at unigolion nad oes gan y Brifysgol unrhyw wybodaeth am eu hethnigrwydd ar hyn o bryd." |
"Gwyn / Gwyn Prydeinig (prif gategori) Yn cynnwys is-gategorïau gwyn, unrhyw gefndir gwyn arall, Sipsi neu Deithiwr. Pan ddefnyddir y term ‘gwyn’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod. " |
Terminoleg sy'n ymwneud â hil | Terminoleg sy'n ymwneud â hil (Saesneg) |
---|---|
Aflonyddu ar sail hil | Racial harassment |
Anghydraddoldebau hil | Racial inequalities |
Cefndir Asiaidd / Ethnig Asiaidd | Asian / Asian Ethnic background |
Cefndir Du / Ethnig Du / Cymunedau Du | Black / Black ethnic background / Black communities |
cefndir ethnig cymysg | mixed ethnic background |
cefndir gwyn / ethnig gwyn | white / white ethnic background |
Cydraddoldeb Hil | Race Equality |
Cymunedau Ethnig Leiafrifol | Minority Ethnic communities |
Cynllun Gweithredu ar Hil | Race Action Plan |
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol | Black, Asian and Minority Ethnic |
Du, Brodorol a Phobl o Liw | Black, Indigenous and People of Colour (BIPOC) |
Ethnig L(l)eiafrifol | Minority Ethnic |
Ethnigrwydd / Tarddiad Ethnig / Cefndir ethnig | Ethnicity / Ethnic Origin / Ethnic background |
goruchafiaeth / braint / bregusrwydd pobl wyn | white supremacy / privilege / fragility |
Grwpiau / pobl nad ydynt yn wyn | Non-white groups / people |
Grwpiau Ethnig | Ethnic Groups |
Gwrth-Hiliaeth | Anti-Racism |
Hil | Race |
Hiliaeth | Racism |
Hiliaeth sefydliadol | Institutional racism |
Hiliaeth strwythurol a chymdeithasol | Structural and societal racism |
Hiliaeth Systemig | Systemic Racism |
Hunaniaeth ethnig | Ethnic identity |
Lleiafrifoedd sydd wedi cael eu hileiddio | Racialised minorities |
Mae Bywydau Du o Bwys | Black Lives Matter |
microymosodiad(au) | microaggression(s) |
Mwyafrif byd-eang | Global majority |
Rhyddid i lefaru | Freedom of speech |
Sipsi neu Deithiwr | Gypsy or Traveller |
Teithwyr Gwyddelig | Irish travellers |
Trefedigaethedd | Colonialism |