Adroddiadau Cydraddoldeb
Fel Prifysgol, ein nod yw meithrin amgylchedd cynhwysol i bawb, gyda diwylliant o fod yn agored ac o barchu ein gilydd, gan fynd ati i ganfod y rhwystrau sy’n atal hynny a chael gwared arnynt. Mae'n ofynnol inni ddeall cyfansoddiad ein staff a'n cymuned o fyfyrwyr fel y gallwn nodi unrhyw ystyriaethau o ran tangynrychiolaeth a mynd i'r afael ag unrhyw anghyfartaledd. Mae hynny oll hefyd yn arfer da.
Mae'r adroddiadau hyn yn darparu data er mwyn inni gael tystiolaeth yn sail i’n dull o fynd ati i ymwneud â chydraddoldeb, ac i helpu i flaenoriaethu camau gweithredu a rhaglenni wedi'u targedu yn y dyfodol er mwyn creu amgylchedd lle na cheir gwahaniaethu.
I weld copïau o adroddiadau blaenorol, ewch i Archif Adroddiad.