Nodweddion Gwarchodedig
Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dwyn ynghyd dros 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth mewn un Ddeddf unigol fel ei bod yn haws ei defnyddio. Mae’n nodi’r nodweddion personol a warchodir gan y gyfraith a’r ymddygiad sy’n anghyfreithlon. Bydd symleiddio deddfwriaeth a chysoni amddiffyniad ar gyfer yr holl nodweddion a gwmpesir yn helpu Prydain i ddod yn gymdeithas decach, gwella gwasanaethau cyhoeddus, a helpu busnesau i berfformio'n dda.
Y naw prif ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi uno yw:
- Deddf Cyflog Cyfartal 1970
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
- Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
- Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007
Mae pawb ym Mhrydain yn cael eu hamddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw:
Oedran
OEDRAN
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Yn sgil y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech gael eich gwahaniaethu am y rhesymau canlynol:
- Rydych (neu nid ydech) yr oedran neu mewn grwp oedran penodol.
- Gwahaniaethu ar sail canfyddiad – Credai rhywun eich bod (neu nad ydech) yn oedran neu mewn grwp oedran penodol.
- Gwahaniaethu ar sail cysylltiad – rydydch yn cael eich cysylltu gyda oedran neu grwp oedran rhywun.
Beth yw Gwahaniaethu ar sail oedran?
Gwahaniaethu ar sail eich oedran yw pan cewch eich trin yn wahanol ar sail eich oedran. Gall hyn fod yn un o bedwar math gwahanol o wahaniaethu:
- 1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wahanol yn sgil eich oedran gyda’r eithiriad o gyfiawnhad gwrthrychol.
- 2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n berthnasol i bawb OND bod eich grwp oedran penodol dan anfantais.
- 3. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng.
- 4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar sail oedran.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/age-discrimination.
Anabledd
ANABLEDD
Beth yw anabledd?
Dywedai’r Ddeddf Gydraddoldeb 2010 fod anabledd yn gyflwr corfforol neu feddyliol sydd gyda effeithau hir-dymor a effeithir eich gallu i gwblhau tasgau o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyflyrau yn y gorffennol.Mae HIV, cancer a sglerosis ymledol wedi’i gwarchod gan y ddeddf, hyd yn oed os nad ydy eich cyflwr yn eich rhwystro rhag gwblhau tasgau o ddydd i ddydd.
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Yn sgil y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech gael eich gwahaniaethu am y rhesymau canlynol:
- Mae gennych anabledd.
- Gwahaniaethu ar sail canfyddiad – Pan gredai rywun bod gyda chi anabledd.
- Gwahaniaethu ar sail cysylltiad – rydydch yn cael eich cysylltu gyda anabledd.
Beth yw gwahaniaethu yn sgil anabledd?
Rydych yn cael eich gwahaniaethu yn sgil anabledd pan fydd rhywun yn eich trin yn wael neu rydych dan anfantais yn sgil rhesymau sy’n gysylltiedig â’ch anabledd. Gall fod yn weithredidad unigol, yn bolisi/rheol neu bodolaeth fagl corfforol neu’n un sy’n rhwystro cyfathrebu sydd yn gwneud mynediad yn anodd neu’n amhosibl.
Dyma 6 prif fath o wahaniaethu anabledd:
- 1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wael i’w gymharu â rhywun arall yn sgil eich anabledd.
- 2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad neu gyflogwr bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n effeithio yn negyddol ar bobl anabl i’w gymharu a phobl heb anabledd.
- 3. Methu gwneud newidiadau rheymol: Mae gan gyflogwyr a sefydliadau gyfrifoldeb i gynnig swyddi, addysg a gwasanaethau sy’n gallu cael eu mynedi gan bobl anabl yn yr un modd a phobl heb anabledd. Mi fydd gwahaniaethu os nad ydi cyflogwr neu sefydliad yn gallu gwneud newidiadau rhesymol.
- 4. Gwahaniaethu yn sgil anghenion anabl: Y mae hi’n anghyfreithlon i drin rhywun anabl yn wael yn sgil rheswm sy’n gysylltiedig a’u anabledd, er enghraifft: yr angen am gi tywys neu amser oddi ar y gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol.
Mewn rhai achlysuron lle gall gyflogwr neu sefydliad ddangos rheswm dilys gall wahaniaethu yn erbyn anabledd fod yn gyfreithlon, gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.
- 5. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau.
- 6. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar sail anabledd.
Mae hi’n anghyfreithlon i sefydliad neu gyflogwr ofyn am fanylion iechyd ac anabledd ymgeisydd nes i’r ymgeisydd dderbyn y swydd, ond mae eithriadau dan amgylchiadau penodol.
Mae hi’n gyfreithlon i drin rhywun anabl yn well na rhywun heb anabledd, yn ogystal â thrin rhywun gyda anabledd pennodol yn well na rhywun anabl arall mewn amgylchiadau penodol.
Ewch i’r wefan https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/disability-discrimination am fwy o wybodaeth ynglun â gwahaniaethu yn sgil anabledd.
Hunaniaeth Rhywedd
AILBENNU RHYWEDD:
Beth yw ailbennu rhywedd?
Mae holl unigolion sy’n uniaethu gyda rhyw sy’n whanol i’r rhyw a gofrestrwyd yn enedigol yn rhannu nodweddion ailbennu rhywedd.
Yn sgil Deddf Cydraddoldeb 2010, ni ddylai pobl trawsrwyiol (transsexual a transgender) gael eu gwahaniaethu o achos i’w hunaniaeth rhyw.
Beth yw gwanahiaethu o achos i ailbennu rhywedd?
Mae cael eich trin yn wahanol yn sgil bod yn drawsrhywiol (transsexual yn unig – yn ol y ddeddf – sydd angen newid!!) yn cyfri fel cael eich gwahaniaethu o achos i ailbennu rhywedd. Mi all hyn fod yn un achos neu yn reol/polisi a osodwyd gan gyflogwr neu sefydliad.
Ewch i https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/gender-reassignment-discrimination i ddarllen mwy o fanylion.
Priodi/Partneriaeth Sifil
PRIODAS A PHARTNERIAETH SIFIL
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Os rydych wedi priodi (perthynas rhwng dyn a dynes neu parneriaeth o’r un rhyw) neu mewn perthynas sifil (rhwng dau o bobl o’r un rhyw), rydych yn cael eich gwarchod gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Beth yw gwanahiaethu ar sail priodas neu berthynas sifil?
Os cewch eich trin yn wahanol oherwydd eich bod wedi priodi neu mewn parneriaeth sifil, rydych yn cael eich gwahaniaethu. Dyma dri math o wahaniaethu yn sgil priodas neu bartneriaeth sifil:
1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wahanol yn sgil eich bod wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, gyda’r eithiriad o gyfiawnhad gwrthrychol.
2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n rhoi pobl wedi priodi neu bartneriaeth sifil dan anfantais.
3. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau.
4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar y sail o briodas neu bartneriaeth sifil.
Beichiogrwydd/Mamolaeth/Tadolaeth
Hil
HIL
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Ni ddylech brofi gwhaniaethiad yn sgil lliw eich croen, eich grwp ethnig, eich cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth dan Ddeddf Gydraddoldeb 2010.
Beth yw gwhaniaethu ar sail hil?
Pan cewch eich trin yn wahanoil ar sail eich hil mewn un achos neu yn sgil reol neu bolisi yn seiliedig ar hil. Dyma pedwar brif math o wahaniaethu:
- 1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wahanol yn sgil eich hil.
- 2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n rhoi pobl o’ch hil chi dan anfantais, gyda’r eithiriad o gyfiawnhad gwrthrychol.
- 3. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng ar sail eich hil. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau.
- 4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar y sail eich hil.
Mi all triniaeth gwahanol fod yn gyfreithlon mewn amgylichaiadu penodol:
- Gofyniad galwadigaethol: pan fydd hil penodol yn hanfodol ar gyfer swydd penodol.
- Pan fydd sefydliad yn gweithredu’n gadarnhaol er mwyn hybu a datblygu grwp hil sydd ddim wedi’u gynrychioli neu dan anfantais.
Ewch i https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/race-discrimination am fwy o fanylion a gwybodaeth.
Crefydd/Cred
CREFYDD NEU GRED
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech gael eich gwahaniaethu yn sgil y rhesymau canlynol:
- Rydych yn dilyn, neu ddim yn dilyn, crefydd pendol.
- Rydych chi yn, neu ddim yn dal cred athronyddol penodol.
- Gwahaniaethu ar sail canfyddiad – Pan gredai rywun eich bod yn dilyn crefydd benodol neu yn dal cred penodol.
- Gwahaniaethu ar sail cysylltiad – rydych yn cael eich cysylltu gyda crefydd neu gred penodol.
Caiff gred athronyddol penodol ei warchod gan y ddeddf os ydi’r gred yn un dilys, yn un cymhellol, un difrif ac un sy’n weithredol mewn cydestyn dynol er enghraifft newid hinsawdd dyno lei warchod dan y Ddeddf. Ni fydd cred sy’n amharchus neu’n anddemocrataidd sy’n effeithio ar hawliau eraill er enghraifft cred sy’n hilyddol.
Beth yw gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred?
Pan cewch eich trin yn wahanol i bobl eraill am resymau sy’n seiliedig ar eich crefydd neu gred mewn mewn un achos neu yn sgil reol neu bolisi yn seiliedig ar grefydd neu gred penodol. Dyma bedwar prif mathau o wahaniaethu yn sgil crefydd neu gred:
- 1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wahanol yn sgil eich crefydd neu gred.
- 2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n rhoi pobl o grefydd neu gred penodol dan anfantais.
- 3. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng ar sail eich crefydd neu gred. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau.
- 4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar y sail eich crefydd neu gred.
Rheolau gwisg o fewn gweithle: Yn sgil Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae gan bawb yr hawli wisgo dillad neu symbol sy’n arddangos eich crefydd neu gred o fewn eich gweithle. Ar y llaw arall, mae gan eich cyflogwr yr hawl i’ch rhwystro rhag wisgo dilledyn neu symbol os yw hi’n hanfodol i’r swydd.
Ewch i https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/religion-or-belief-discrimination am fwy o wybodaeth a manylion.
Testunau Crefyddol
Mae testunau crefyddol yn destunau sy'n gysylltiedig â thraddodiad crefyddol. Mae rhai o'r testunau hyn ar gael yn hawdd ar-lein i unigolion eu defnyddio.
Mae croeso i staff a myfyrwyr e-bostio cydraddoldeb@aber.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau neu geisiadau sy'n ymwneud â hyn.
Y Beibl https://www.biblegateway.com/versions/
Yr Torah https://www.jewishvirtuallibrary.org/book-of-bereishit-genesis
Y guru Granth Sahib http://www.srigranth.org/servlet/gurbani.gurbani
Y Koran https://quran.com/?local=en
Mae'r ysgrythurau Hindŵaidd yma: https://www.sacred-texts.com/hin/ (Mae'r safle hwn hefyd yn cynnwys testunau o lyfrau sanctaidd eraill.)
Rhyw
RHYW
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Ar sail y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech brofi gwhaniaethu ar sail eich bod yn ddyn neu’n ddynes am y rhesymau canlynol:
- Rydych yn, neu ddim yn ryw penodol.
- Gwahaniaethu ar sail canfyddiad – Pan gredai rywun mai’r rhyw arall ydech chi.
- Gwahaniaethu ar sail cysylltiad – rydych yn cael eich cysylltu gyda rhywun o ryw penodol.]
Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw?
Yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech brofi wahaniaethu ar sail eich rhyw mewn un achos neu yn sgil reol neu bolisi yn seiliedig ar eich rhyw. Dyma bedwar prif mathau o wahaniaethu ar sail rhyw:
1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn waeth na rhwyun o’r rhyw arall.
2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n weithredol i’r ddau ryw ond yn golygu bod eich rhyw chi dan anfantais.
3. Aflonyddwch: Mae tri gwahanol math o aflonyddwch sy'n gysylltiedig gyda rhyw:
3.1. Pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng ar sail eich rhyw. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau.
3.2. Aflonyddwch Rhywiol: Pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu ddarostwng gan eu bod yn eich trin yn rhywiol.
3.3. Pan fydd rhywun yn eich trin yn anheg gan eich bod wedi gwrthod caniatáu ymddygaeth aflonyddwch rhywiol.
4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar y sail rhyw.
Yn yr eithriadau canlynol, mae hi’n gyfreithiol i gyflogwyr neu sefydliad i wahaniaethu ar sail eich rhyw:
- Gofyniad galwadigaethol: Lle mae bod yn ryw penodol yn hanfodol ar gyfer swydd.
- Gweithredu’n gadarnhaol er mwyn hybu a datblygu rhyw penodol sydd ddim yn cael ei gynrychioli digon neu dan anfantais.
Mae adranau eraill megis y Fyddin, Sefydliaddau chwaraeon gystadleuol neu sefydiadau grefyddol yn gallu gwahaniaethu ar sail rhyw.
Ewch i https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/sex-discrimination am fwy o fanylion a gwybodaeth.
Cyfeiriadedd Rhywiol
Proffiliau Staff LGBT |
CYFEIRIAD RHYWIOL
Pwy sydd yn cael eu gwarchod?
Yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylech gael eich gwahaniaethu yn sgil y rhesymau canlynol:
- Rydych yn wahanriwol, yn hoyw, yn lesbiaid neu’n ddeurywiol.
- Gwahaniaethu ar sail canfyddiad – Pan gredai rywun eich bod yn ogwydd/gyfeiriad rhywiol penodol.
- Gwahaniaethu ar sail cysylltiad – rydych yn cael eich cysylltu gogwyd/ cfeiriad rhyw penodol.
- Mi fydd eich dewis chi o sut yr ydech yn cyflwyno eich gogwydd/ cyfeiriad rhywiol yn cael ei warchod.
Beth yw gwahaniaethu ar sail gogwydd/cyfeiriad rhwyiol?
Pan cewch eich trin yn wahanol i bobl eraill am resymau sy’n seiliedig ar eich gogwydd/ cyfeiriad rhywiol mewn un achos neu yn sgil reol neu bolisi yn seiliedig ar gogwydd/ cyfeiriad rhywiol penodol. Dyma bedwar prif mathau o wahaniaethu yn sgil gogwydd/ cyfeiriad rhywiol:
1. Gwahaniaethu uniongyrchol: Pan fydd rhywun yn eich trin chi yn wahanol yn sgil eich gogwydd/ cyfeiriad rhywiol.
2. Gwahaniaethu anuniongyrchol: Pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithredu sy’n gweithredu I bawb on yn golygu bod pobl o gogwydd/ cyfeiriad rhywiol penodol dan anfantais.
3. Aflonyddwch: pan fydd unigolyn yn eich gwaradwyddo, eich sarhau neu darostwng ar sail eich gogwydd/ cyfeiriad rhywiol. Ni all aflonyddwch gael ei gyfiawnhau mewn unrhyw sefyllfa.
4. Erledigaeth: Pan fyddwch yn cael eich trin yn wael yn sgil cwyn rydych chi wedi eu wneud (neu gan eich bod wedi cefnogi cwyn rhwyun arall) oherwydd eich bod wedi profi gwahaniaethu ar y sail eich gogwydd/ cyfeiriad rhywiol.