Proffiliau LHDT

Amy Daniel

‘Nid wyf wedi teimlo bod fy rhywedd wedi bod yn rhwystr wrth weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y gorffennol, mewn gweithleoedd eraill, rwyf wedi osgoi datgelu fy rhywedd i’m cydweithwyr, gan ddweud ‘fy mhartner’ neu gan ddefnyddio’r rhagenw niwtral ‘nhw’. Ar ôl cyfnod byr o weithio yn Aberystwyth, roeddwn yn darganfod fy mod yn teimlo mai dyma yw fy lle ac roeddwn yn teimlo’n gyfforddus i fod yn onest am fy rhywioldeb. Credaf mai’r rheswm dros hyn yw bod cydweithwyr eraill yn agored o fewn yr adran a oedd yn fodelau rôl wych a oedd yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus i fod yn onest â fy rhywioldeb. Mi fyswn yn annog pawb i fynegi eu hunan ac os nad ydych wedi dod allan, rhowch gynnig arni. Mae hi’n ryddhad anhygoel ac mae'n gymuned wych i fod yn rhan ohoni trwy rwydwaith LGBT.’

Samantha Vallin

‘Rwy’n hynod o lwcus i fod yn gweithio yn yr amgylchedd rydw’i ynddo gan fod gen i gefnogaeth nid yn unig o fewn yr adran a gan fy nghydweithwyr ond gan y Brifysgol ar y cyfan; nid wyf erioed wedi teimlo fod bod yn fenyw lesbiaidd ifanc wedi cael effaith ar fy ngwaith. Rwy’n aelod gweithgar o’r grŵp rhwydwaith LHDT, ac mewn gwirionedd, dyna lle y cyfarfodais fy nghariad yn y cyfarfod cyntaf y mynychais. Tair blynedd yn ddiweddarach, rydym wedi dyweddïo, felly ni allaf gefnogi cyfarfodydd rhwydwaith LHDT digon! Mae’r rhwydwaith LHDT wedi gwneud i mi deimlo fel rhan o gymuned gref sydd yno petawn ei angen ac rwyf wedi creu rhwydwaith gyda chydweithwyr anhygoel o amgylch y brifysgol a thrwy hynny rwyf yn sicr wedi helpu datblygu fy ngyrfa. Rwyf wastad wedi teimlo’n ddigon cyfforddus i fod yn fi fy hun wrth fy ngwaith, ac rwy’n meddwl bod presenoldeb cryf y rhwydwaith a’r gymuned LGBT yn hwyluso hynny.’

Megan Talbot

‘Ni chredaf fod bod yn drawsrywiol yn hawdd yn unrhywle. Mae Trawsphbia yn dal i fodoli, nid yn unig o fewn unigolion ond hefyd o fewn systemau cymdeithasol a hyd yn oed mewn cyfreithiau. Ond gall y bobl sy’n eich amgylchu gwneud byd o wahaniaeth. O fewn Aberystwyth rwyf wedi bod yn ffodus i gael nifer o ffrindiau a chydweithwyr sydd nid yn unig wedi bod yn gefnogol ond sydd wedi bod yn bleser i fod yn eu cwmni. Mi fydd problemau yn dal i godi o bryd i’w gilydd, ond pan fydd rhywun mynegi datganiad yn ddiarwybod maent unai yn lleiafrifol neu maent yn newid eu meddyliau unwaith maent yn dysgu mwy. Daw staff a myfyrwyr yma bob math o gefndir, ac felly, i ryw raddau, mae rhai o’r problemau yn anochel, ond yn gyffredinol, mae pobl yn dueddol o ddysgu dros amser ac maent yn dod yn fwy goddefgar. Rwyf wedi bod yn ffodus pan fydd problemau yn rhai o natur systematig, mae pobl yn barod i ddadansoddi’r broblem ac yn awyddus i’w cywiro unwaith maent yn ymwybodol o’r broblem.’

Bob McIntyre

‘Credaf mai Aberystwyth yw’r man mwyaf croesawus. Nid wyf wedi teimlo’n anghyfforddus nac wedi cyfyngu i fod un rhywbeth oni bai am bwy ydw i. Rwyf yn gallu siarad yn agored am fy mywyd heb ddyfarniad. Rwy’n rhan o rwydwaith LHDT ac rwy’n gyfarwydd â’r holl fecanwaith sydd yn ei le i hysbysu unrhyw fater, ond nid wyf wedi ei angen. Yn ogystal, rwyf wedi mynychu hyfforddiant Stonewall a ddarparwyd gan y Brifysgol, sydd wedi rhoi’r hyder i mi nid yn unig i fod yn falch o bwy ydw i, ond i allu cefnogi eraill hefyd.'