Sam Griffiths
Graddiodd Sam yn 2014 gyda BSc mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-Wybodaeth o Brifysgol Aberystwyth.
Aeth ymlaen i astudio Gradd Meistr mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bellach, mae Sam yn Uwch Hyrwyddwr gyda Cuffe & Taylor, sy’n rhan o Live Nation, cwmni adloniant byw mwyaf y byd.
Ef yw un o’r hyrwyddwyr ieuengaf yn y maes. Mae’n cynhyrchu ac yn hyrwyddo cyngherddau cerddoriaeth artistiaid rhyngwladol mwyaf poblogaidd y byd, yn ogystal â gweithio gyda chwmnïau teledu a ffilm byd-eang i greu adloniant byw o’u rhaglenni/ffilmiau llwyddiannus.
Cyn hyn, bu Sam yn gweithio fel Uwch Raglennydd i Grŵp Ambassador Theatre, y cwmni mwyaf yn y byd o ran perchen a rhedeg theatrau, a chynhyrchu theatraidd. Yn ystod ei gyfnod yno, trefnodd raglenni teithiau cynyrchiadau theatr gerdd a dramâu blanllaw ledled Prydain.
Mae gan Sam brofiad o bob agwedd ar fyd adloniant, fel cynhyrchydd theatr gerdd yn ogystal â gweithio i brif asiantaeth dalent Prydain, United Agents.

Mae’n siaradwr gwadd rheolaidd ar gyrsiau gradd Theatr Gerdd a Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau.
Ym mha ffordd y mae eich cyfnod yn Aberystwyth wedi helpu eich gyrfa?
Rhoddodd gyfle i mi gyfarfod amrywiaeth enfawr o bobl a dysgu gymaint o fy nghwrs astudio penodol, sydd wedi fy helpu yn ofnadwy o ran fy natblygiad proffesiynol.
Rhoddodd Undeb y Myfyrwyr a chymdeithas theatr gerdd “Curtain Call” le i mi feithrin fy sgiliau cynhyrchu theatr a chyngherddau. Cefais gwrdd â phobl o’r un anian o ystod eang o gyrsiau prifysgol, ac rwy’n gweithio gyda llawer ohonyn nhw’n broffesiynol heddiw!
Pa gyngor sydd gennych chi i fyfyrwyr Aber heddiw?
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cwrdd â chymaint o bobl ag sy’n bosib– cymerwch ran mewn cymdeithasau a chwaraeon yn Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o’r myfyrwyr hyn yn dod yn gyfeillion oes ac yn bartneriaid proffesiynol mewn blynyddoedd i ddod. Mae rhwydweithio’n amhrisiadwy felly dechreuwch arni nawr yn Aber!