Ricardo Espirito Santo
Graddiodd Ricardo o Aber gyda gradd mewn Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd yn 2006.
Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?
Yn ystod fy astudiaethau, rwy'n cofio bod Aber bob amser yn hael iawn gyda'i adnoddau uwch i fyfyrwyr, bod y llyfrgelloedd yn hynod ddiddorol a chynhwysfawr, a bod yr amgylchedd gwaith yn dda ym mhobman. Yn gymdeithasol dwi'n cofio awyrgylch tra bywiog y bywyd nos Aber, y cymdeithasau a'r clybiau fel y clwb dringo a’r clwb cyfrifiadureg, a'r partïon niferus oedd yn digwydd ym mhobman. Un o fy hoff atgofion o Aber yw glan y môr a’r troeon yn cerdded ar hyd y tywod a’r traeth cerrig.
Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?
Rwyf wedi bod yn datblygu fy ngyrfa fel datblygwr meddalwedd ym Mhortiwgal a hynny ers cyn gorffen fy ngradd. Mae fy addysg yn Aberystwyth wedi bod yn amhrisiadwy i’m paratoi ar gyfer heriau bywyd bob dydd a rhoi sylfaen gadarn i mi yn y maes hwn.
Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Rhowch groeso i’r hyn sydd gan Aber i'w gynnig ac mi fydd y tu hwnt i’ch disgwyliadau. Mwynhewch eich gradd cymaint ag y gallwch. Dewiswch eich modiwlau, bob amser, trwy gydbwyso'r hyn y dylech ei wneud â'r hyn y gallwch ei wneud.
Gwnewch ffrindiau da a'u cadw am oes. Teithiwch a dysgwch.