Paul Butterworth
Graddiodd Paul Butterworth o Aber yn 1996 gyda LLB. Bu’n Is-Gomander yn y Llynges Frenhinol cyn gadael yn 2005 i ddilyn gyrfa mewn recriwtio rhyngwladol.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Cefais fy noddi gan y Llynges Frenhinol i fynychu’r brifysgol, felly roeddwn yn ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa lle roedd gen i swydd eisoes. Caniatodd hyn i mi fwynhau bywyd Prifysgol i’r eithaf heb orfod poeni am ddod o hyd i swydd ar l graddio. Un o’r uchafbwyntiau oedd bod yn Gadeirydd Neuadd Alban Davies ac hefyd yn Llywydd Cathsoc am flwyddyn. Mae gan bob cynfyfyriwr o Aber atgofion melys o gerdded i fyny’r Graiglas, ‘Cicio’r Bar’, a mynd i’r disgos yn y Clwb P l-droed. Ar l gorffen yr arholiadau terfynol, treuliais sawl noson ar y traeth yn mwynhau’r tywydd godidog a gobeithio y byddai’n amser hir cyn bod rhaid dychwelyd i’r byd go-iawn!!! Yn Adran y Gyfraith – darlithoedd Camwedd gyda Richard Ireland a’r Athro Dick Kidner, a darlithoedd Contract gyda’r chwedlonol Koffman a McDonald.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?
Ar l graddio, dychwelais i weithio amser llawn yn y Llynges Frenhinol, gan ddilyn cyrsiau proffesiynol mewn mordwyaeth, rhyfela a pheirianneg. Cefais fy anfon i sawl lleoliad ledled y byd, gan gynnwys Ynysoedd y Falklands, Gorllewin Affrica, De America, Ewrop a’r Dwyrain Pell ymysg eraill. Chwaraeais ran yn nigwyddiadau Sierra Leone yn 2000 ac, yn dilyn y cyfnod hwnnw ar y mr, cefais fy mhenodi i swydd proffil-uchel Fflag-lefftenant (neu Aide-de-Camp) i Fflyd y Pencadlywydd. Dyma gyfnod ymateb y Deyrnas Unedig i ymosodiadau 9/11. Fy swydd orau yn y Llynges oedd bod yng ngofal fy llong fy hun, HMS PURSUER, a hefyd yng ngofal Uned Lyngesol Frenhinol Prifysgol Southampton, neu URNU (mae yna Uned Lyngesol Frenhinol Cymru hefyd!). Dilynwyd hyn gan gyfnod yng ngofal llong arall, HMS PURSUER, a leolwyd yn Cyprus i gyflawni gwaith gwrth-derfysgol a diogelwch yn ardal ddwyreiniol M r y Canoldir. Rhoddodd fy ngradd yn y Gyfraith sylfaen ardderchog i mi mewn dadlau rhesymegol, ac fe ddysgais sut i gyfleu safbwynt mewn modd sy’n annog eraill i gyd-dynnu, yn ogystal dealltwriaeth ardderchog o ‘resymoldeb’, a bu ambell dric a ddysgais mewn darlithoedd Trosedd o gymorth wrth gynrychiolu morwyr mewn materion disgyblu! Mae’n parhau i fod o gymorth hyd yn oed heddiw, gan fy helpu i ddeall fy ngwraig, sy’n fargyfreithiwr, pan rydyn ni’n sgwrsio gartref! Gadewais y Llynges Frenhinol yn 2005 fel Is-gomander, a bellach rwy’n mwynhau bywyd fel recriwtiwr rhyngwladol, yn helpu cleientiaid i logi’r uwch-swyddogion gweithredol gorau ar gyfer eu busnesau.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs chi nawr?
Ni fydd gradd yn y Gyfraith BYTH yn wastraff! Hyd yn oed os na ddilynwch chi yrfa yn y maes, bydd y sgiliau bywyd a ddysgwch bob amser yn werthfawr mewn unrhyw gyd-destun masnachol neu bersonol. Mae dadlau rhesymol, meddwl yn rhesymegol a sgiliau cyflwyno yn bethau prin iawn – mae gradd yn y gyfraith yn cynnig sylfaen ardderchog!!!