Michael Morgan
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Rwy’n trysori atgofion melys o gicio’r bar, y sesiynau canu gwych, chwarae i’r tim pêl-droed cyntaf ond yn bennaf yr holl hwyl a’r ysbryd cymunedol. Doeddwn i ddim yn academydd mawr mewn unrhyw ffordd ond doedd fy ngradd yn Aber serch hynny’n ddim llai na phasbort gwych i mewn i yrfa foddhaus a gwerth chweil.
Rwy’n credu mai i Aber mae’r diolch am ddarparu sail ar gyfer cyfeillgarwch oes gan fod fy ngwraig a fi wedi mwynhau gwyliau gyda chyd-breswylwyr o Bantycelyn (cyfaill am 54 o flynyddoedd) a’i wraig.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd chi?
Graddiais mewn Ffiseg yn 1965 ac ar ôl 18 mis yn y diwydiant cyfrifiadurol ymunais â chwmni llaeth cymharol fach. Tyfodd y cwmni bach hwnnw i fod yn Grŵp bwyd mawr ac wrth iddo dyfu roeddwn i’n gwneud cynnydd hefyd i’r graddau mai fi oedd prif gyfarwyddwr Bwrdd Northern Foods erbyn diwedd y 1980au, gyda’r cwmni yn rhif 60 yn y FTSE 100
Gadewais Northern yn 2000 ar ôl 33 o flynyddoedd i fod yn Bartner Sylfaenu Praesta LLP, sefydliad Coetsio Gweithredol mawr yng ngorllewin Llundain, ac ymddeolais oddi yno yn 2010.
Ochr yn ochr â fy ngyrfa busnes bûm i’n ymwneud yn helaeth â’r sectorau Cyhoeddus ac Elusennol gan gynnwys bod yn Is-Gadeirydd Awdurdod Iechyd Rhanbarthol Gogledd Lloegr a Swydd Efrog oedd yn cwmpasu saith miliwn o bobl ac am 10 mlynedd roeddwn i’n aelod o’r Panel Ymgynghori ar Ddedfrydu oedd yn cynghori Grŵp yr Arglwydd Prif Ustus ar ddedfrydu yn y llysoedd.
Ar hyn o bryd rwyf i’n Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol gydag Ymddiriedolaeth Thera, elusen fawr sy’n cyflogi dros 3000 o bobl gan gefnogi cleientiaid ag Anabledd Dysgu.
Rwy’n rhestru’r uchod nid er mwyn honni unrhyw arbenigrwydd ond i dalu teyrnged i’r dechreuad a gefais yn Aber. Fel llawer o bobl eraill o gefndir dosbarth gwaith, tŷ cyngor, i mi roedd Aber yn gymuned agosatoch, oedd yn sicrhau cyfle gwych i gymysgu gydag amrywiaeth o gyd-fyfyrwyr o bob cefndir ac ennill hyder ynof i fy hun yn hytrach na dibynnu ar amgylchiadau.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Manteisiwch ar yr hwyl a’r ysbryd cymunedol sydd yn Aber – rwy’n amau a fyddai amgylchedd Coleg mor agos â hyn yn bosibl mewn llawer o brifysgolion eraill.