Jianzhong Wu
Graddiodd Dr Jianzhong Wu o Aber yn 1991 gyda PhD mewn Astudiaethau Gwybodaeth ac mae’n gweithio fel Cwnselydd i Lywodraeth Fwrdeistrefol Shanghai. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai ac yn 2011 fe’i gwnaed yn Gymrawd y Brifysgol.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Tref Aber yw fy ail gartref. Roedd y tair blynedd gyntaf o astudio yn Aber yn brofiad bythgofiadwy yn fy mywyd. Mae’n dref wybodaeth. Pan drochais fy hun yn fy nhraethawd ymchwil, byddwn i’n aml yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell DILS. Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu gan yr adnoddau gwybodaeth a’r adnoddau dysgu/addysgu cyfoethog yno.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Rwyf i wedi cyhoeddi 30 o lyfrau a channoedd o erthyglau ers gadael Aber. Mae Aber yn dref fywiog ac roedd mynd am dro ar y prom hyfryd yn un o fy hoff bethau. Rwy’n caru Aber am ei bod yn cynnig awyr iach i mi allu meddwl a chanllaw defnyddiol ar gyfer heriau’r dyfodol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
I’r rhai sy’n gwneud y cwrs llyfrgellyddiaeth, mae fy nghyngor yn syml. Byddwch yn barod am newid. Mae eich swydd yn ymwneud â mwy na llyfrau, mae am bobl a chymdeithas hefyd.