Jennifer Jenkins
Graddiodd Jennifer o Aber yn 2004 gyda BA mewn Drama.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Roedd Aber yn gartref oddi cartref. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r tirlun a byw mewn lle bach gyda phopeth naill ai i fyny neu i lawr y rhiw. Roedd ymdeimlad hyfryd o gymuned ym mhobman ar y campws ac yn y dref. Gwnes i gyfeillion oes a chwrdd â chynifer o bobl ddiddorol. Yn academaidd, roedd yn ysgogi: yn enwedig gyda gwaith caled y cynyrchiadau drama. Mae gen i atgofion gwych hefyd o fy nyddiau yn Dim Prob a’r gerddorfa symffonig.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Rwy’n gweithio’n llawrydd yn dysgu Saesneg fel iaith dramor. Rwy’n dysgu plant ac oedolion yn breifat ac mewn sefydliadau. Fe ddes i Chile gyntaf yn ystod prosiect ar flwyddyn i ffwrdd gan fwriadu dychwelyd i’r DU. Ond roedd cynlluniau eraill gan ffawd, gan i mi ddilyn fy nghalon ac aros yn Chile, ac roedd hynny’n golygu mai dysgu Saesneg oedd y dewis gyrfa mwyaf amlwg i mi. Astudiais Ddrama yn Aber ac er nad ydw i’n dysgu Drama, yn bendant mae elfen theatrig i ddysgu gan fod un o fy myfyrwyr wedi dweud wrthyf y dylwn i fod yn actor! Helpodd fy ngradd drama fi i ddatblygu’r sgiliau pobl hollbwysig yna sy’n hanfodol ym mhob gyrfa, ond yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n gweithio gyda myfyrwyr o bob oed. I raddau, rhaid i fi actio ychydig mewn rhai dosbarthiadau. Weithiau rwy’n esbonio rhywbeth yn gorfforol yn hytrach nag yn eiriol ac ar adegau, er mwyn cymell fy myfyrwyr, rhaid i fi actio fel clown i gael eu sylw neu wneud iddyn nhw chwerthin. Yn bersonol rwy’n credu bod drama yn gefndir gwych i unrhyw athro.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Darllenwch gymaint â phosib! Mae llawer o theori drama’n ddifyr, yn enwedig pan fydd yn bwydo elfennau ymarferol drama. Mae’n amhosibl gwneud y mwyaf o’r ochr ymarferol, fodd bynnag, os nad oes gennych chi’r sail ddamcaniaethol honno. Mwynhewch y posibiliadau eang mae drama yn eu cynnig i chi. Dyw pawb ddim yn dod o hyd i swydd sy’n cysylltu’n uniongyrchol â drama ond mae gradd drama’n gallu rhoi llawer o brofiad i chi mewn meysydd gwahanol y gallwch ei gymhwyso i lawer o swyddi gwahanol. Hefyd, manteisiwch ar bob cyfle a gewch chi i gymryd rhan mewn cynyrchiadau a gweld cynyrchiadau. Roeddwn i ar y criw ar gyfer cynhyrchiad myfyrwyr Cymraeg ac ar gyfer cynhyrchiad proffesiynol gan David Ian Rabey. Roedd yn waith caled, ond mae’r profiad bob amser yn fuddiol. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd profiad yn troi’n gyfle at y dyfodol neu beth y gall ei ddysgu i chi.