Henrietta De Salis

Graddiodd Henrietta o Aber yn 1986 gan ennill gradd LLB yn y Gyfraith ac mae’n Bartner yn swyddfa Willkie Farr & Gallagher yn Llundain.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?

Yn ogystal â mwynhau cwrs y Gyfraith cefais ddigon o amser i chwarae tenis ac i ganu gyda’r Mads (Cymdeithas Cantorion Madrigal Elisabethaidd). Rhoddodd y ddau glwb gyfeillion gwych i mi yn ogystal â chyfle i fynd ar deithiau yng Nghymru, Iwerddon a Ffrainc. Rwy’n cofio dyddiau heulog braf, yn wahanol i’r ffordd y mae Aber yn edrych ar Y Gwyll/Hinterland.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Ar hyn o bryd rwy’n Bartner yn Swyddfa Willkie Farr & Gallagher yn Llundain, rwy’n gyfreithiwr gwasanaethau ariannol; yn rhoi cyngor a chymorth rheoli i fanciau, i gwmnïau gwarantau, i reolwyr asedau a buddsoddi, i gronfeydd ac i gyfryngwyr ar ddeddfwriaeth gwasanaethau ariannol yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop, yn ogystal ag ar faterion cydymffurfio yn y marchnadoedd cyfanwerthu a manwerthu. Mae fy ngwaith blaenorol wedi cynnwys Ymgynghorydd yn y tîm Rheoleiddio Gwasanaethau Ariannol yn Herbert Smith Freehills, Rheolwr Gyfarwyddwr yn yr Adran Gyfreithiol yn Dresdner Kleinwort, a Phennaeth Marchnadoedd Cyfalaf (cyfreithiol) yn Swiss Re.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Byddwn yn cynghori myfyrwyr sydd wrthi’n astudio’r gyfraith nawr i gymryd yr amser i ymchwilio i’r gwahanol fathau o yrfaoedd y gall gradd yn y gyfraith arwain atynt, i geisio cymryd interniaethau i gael blas ar amrywiaeth o gwmnïau neu sefydliadau eraill. Mae’n bwysig dod o hyd i faes sydd o wir ddiddordeb i chi ac amgylchedd lle gallwch chi ffynnu, p’un ai fel cyfreithiwr neu beidio, mewn practis preifat, sefydliad masnachol neu i’r Llywodraeth. Lle bo modd, dewiswch bynciau neu fodiwlau yn eich cwrs a fydd yn addas i’r cyfeiriad yr ydych am ei ddilyn.