Georgi Enchev
Graddiodd Georgi yn 2011 gyda BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ar ôl byw yng ngwledydd Bwlgaria, Canada ac Unol Daleithiau America, mae Georgi ar hyn o bryd yn ehangu ei brofiad rhyngwladol eto trwy astudio Economeg Tsieina yn ninas Beijing.
Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?
Heddiw, er fy mod filoedd o filltiroedd i ffwrdd ac mewn amgylchedd hollol wahanol, rwy'n aml yn hel atgofion am fy amser yn y dref fach honno ar arfordir Cymru. Mae atgofion gorau fy mywyd yn dod o Aberystwyth - cefais fy ffurfio gan y profiadau a’r bobl a gwrddais i yno. Mae gen i gof byw am y rhan fwyaf o’m hamser yno oherwydd teimlais yn wir fy mod wedi tyfu’n oedolyn tra’n gwrando ar fy narlithoedd gwleidyddiaeth ryngwladol ar gampws Penglais neu’n treulio amser gyda fy ffrindiau yn y caffis a'r tafarndai yn y dref. Roeddwn i’n eithaf ifanc pan ddechreuais i yn Aberystwyth, ac felly roedd pob eiliad yn wers bywyd i mi yn ogystal â bod yn gyfle i ddysgu mwy am bwnc roeddwn i’n hynod frwdfrydig yn ei gylch, ac yn parhau i fod felly.
Yn union fel nifer fawr o'r myfyrwyr, cefais brofi y rhan fwyaf o bethau da bywyd am y tro cyntaf yn Aberystwyth. Efallai mai fy hoff atgofion yw’r rhai o flwyddyn olaf fy astudiaethau gradd israddedig. Rwy'n cofio, fel petai’n ddoe, y diwrnod y gwnaethon ni gyflwyno ein traethodau estynedig. Ar ôl i ni gyflwyno ein papurau i'r adran, fe aethom ni i gyd i'r traeth ar un o’r diwrnodau mwyaf heulog a chynnes a welais i erioed yn Aberystwyth. Bu’r dathlu yn hir i’r nos a mwg coed tân yn ein hamgylchynu ac arogl barbeciw ar awyr hallt y môr. Roedd pob un ohonom yn teimlo fel pe bai'r byd yn ei gynnig ei hun i ni i’w goncro. Mae Aberystwyth, yn wahanol iawn i unrhyw brifysgol arall yn y byd, yn rhoi i chi’r teimlad o allu mwynhau pob dydd yno a dathlu bod yn fyfyriwr.
Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?
Ar ôl i mi raddio, penderfynais fy mod am aros yng Nghymru felly symudais i Gaerdydd a dechrau gweithio yn y sector bancio. Dim ond am gyfnod byr y parhaodd hyn, fodd bynnag, gan mai'r hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud oedd parhau i astudio a datblygu'r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu yn Aberystwyth. Ar ôl byw yng ngwledydd Bwlgaria, Canada ac Unol Daleithiau America a chyn i mi symud i'r DU, roeddwn i'n teimlo'r angen i herio fy hun eto ac ymgymryd â diwylliant arall ar gyfer fy astudiaethau uwchraddedig. Dyma pryd y symudais i lle rydw i nawr - Beijing, Tsieina. Yn wir, oherwydd y sgiliau a ddysgais wrth fyw yn Aberystwyth, llwyddais i addasu'n gyflym i'r deinamig newydd hwn a’r amgylchoedd tra gwahanol. Ar y cychwyn, treuliais semester yn gwella fy ngwybodaeth o Tsieinëeg, ac yn wir yn Aberystwyth y dechreuais ddysgu’r iaith am y tro cyntaf. Ar ôl cwblhau hyn, cofrestrais ar raglen meistr Economeg Tsieina ym Mhrifysgol Renmin Tsieina. Er y gall ymddangos yn wahanol iawn i'r wleidyddiaeth ryngwladol a astudiais yn fy ngradd baglor - mae cysylltiad cywrain iawn rhwng y ddau. Wedi'r cyfan, dwy ochr yr un geiniog yw gwleidyddiaeth ac economeg.
Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Rwyf wedi cyfnewid bod yn fyfyriwr mewn tref o ugain mil i fod yn fyfyriwr mewn dinas o dros bum miliwn ar hugain. Mae cyfle gen i nawr i ddysgu’n uniongyrchol gan un o'r gwledydd sy'n datblygu gyflymaf ac sydd yn creu’r penbleth mwyaf i feddylwyr yn y Gorllewin. Er hyn, mae'n debyg na fyddwn i wedi dod yma a llwyddo oni bai am yr oriau hir a dreuliais yn astudio yng nghorneli llyfrgell Hugh Owen, a chael fy nghynnal gan gwpaneidiau di-ri o gaffein a yfwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae pawb sy'n graddio o Aberystwyth yn gadael cyngor i'w cyd-fyfyrwyr presennol a newydd, yn y gobaith y cânt amser llawn cystal â hwy - tra eu bod hefyd mor barod â phosibl ar gyfer y byd y tu hwnt i dirwedd bryniau Ceredigion. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth fyfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yw - astudiwch yn ddiwyd, ond mwynhewch eich amser yno hefyd a threuliwch amser y tu allan i furiau'r llyfrgell. Dim ond un peth mae’r rhan fwyaf o’m ffrindiau yn difaru am Aberystwyth - peidio a gwneud cymaint ag yr oedden nhw eisiau ei wneud heblaw am astudio. Yn olaf, mae'n bwysig cofio nad yw gadael y brifysgol o reidrwydd yn golygu torri'r holl gysylltiadau â'r lle hwnnw. A dweud y gwir, dyna'r amser pan gawn gyfle i roi rhywbeth yn ôl i Aberystwyth o'r diwedd a pharhau i'w sefydlu fel y lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr.