Erisa Mukwaba
Gadawodd Erisa Aber ym mis Hydref 2011 ar ôl cwblhau MSc mewn Rheoli’r Amgylchedd a graddio ym mis Gorffennaf 2012. Erisa hefyd yw llysgennad answyddogol Aber yn Uganda ac mae’n hapus i gynorthwyo unrhyw gyn-fyfyriwr o Aber gyda lleoliadau a/neu wneud busnes yno. Cysylltwch ag ef ar uganda@alumni.aber.ac.uk
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Rwy’n cofio’r adegau prydferth o gwmpas yr Hen Goleg, yn enwedig gwylio’r golygfeydd hyfryd o Aber gyda’r môr a’r Castell hanesyddol, a’r profiad o ddringo Rhiw Penglais i gyfeiriad PJM ar ôl siopa a sgwrsio gyda marsiandwyr a chyd-fyfyrwyr hyfryd yn nhref Aber.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth, Diwydiant Anifeiliaid a Physgodfeydd (MAAIF) yng Ngweriniaeth Uganda yn Nwyrain Affrica. Mae fy ngwaith yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
- Archwilio ac Ardystio mewnforion ac allforion planhigion, cynhyrchion planhigion, cemegau hadau ac amaethyddol i mewn ac allan o Uganda yn unol â chyfreithiau rhyngwladol a chenedlaethol perthnasol;
- Darparu gwasanaethau ymgynghori i ffermwyr, amaeth-broseswyr, trawsgludwyr, pobl sy’n trin, masnachwyr a’r holl ddelwyr mewn cynnyrch amaethyddol ar weithdrefnau allforio a materion ffytolanweithiol cyffredinol;
- Darparu gwasanaethau ffytolanweithiol a chwarantin i’r diwydiant tyfu blodau yn Uganda;
- Hyfforddi ac arwain staff technegol Llywodraeth Dosbarth Lleol ar fesurau diogelu cnydau;
- Gwirio cydymffurfiaeth meithrinfeydd planhigion masnachol ledled Uganda â safonau cenedlaethol sefydledig;
- Ymwneud ag Archwiliadau Bioddiogelwch Amaethyddol mewn partneriaeth gyda Chyngor Cenedlaethol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Uganda (UNCST);
- Darparu gwasanaethau rheoli amaeth-ecosystem ac amgylcheddol cyffredinol i unrhyw un â diddordeb.
Yn ogystal â rhoi hwb i fy hyder, mae fy ngradd o Aber wedi fy helpu i uno fy ngwybodaeth a sgiliau blaenorol mewn amaethyddiaeth gyda gwybodaeth a sgiliau amgylcheddol i gyfrannu’n synergyddol i’r ymgyrch byd-eang i gynnal y cyflenwad bwyd i’r ddynoliaeth o amgylchedd iach a diogel. Roedd gallu cysylltu ag ymchwil ansawdd uchel yn IBERS yn Aber yn drobwynt yn fy mywyd proffesiynol ac academaidd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Gwrandewch yn ofalus, talwch sylw i fanylion, rheolwch eich amser a pheidiwch byth â chasáu ystadegau. Yn olaf, peidiwch ag anwybyddu cyfraniad adrannau eraill yn Aber os ydych chi am wneud y gorau o’ch rhaglen addysgol.