Enrique Uribe-Jongbloed
Graddiodd Enrique o Aber yn 2013 gyda PhD o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yn ogystal â’i astudiaethau academaidd, manteisiodd Enrique ar y cyfle i ddysgu Cymraeg tra’r oedd yn byw yma.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Yr amseroedd da yn trafod gwleidyddiaeth, iaith, hanes, cerddoriaeth ac yn y blaen gyda chyfeillion da a thiwtoriaid a darlithwyr ysbrydoledig. Cynhaliwyd yr amseroedd da hyn yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhannu peint yn y Cwps, neu mewn seminarau a digwyddiadau yn adeilad Parry Williams. O, a gweld yr haul yn machlud yn y prynhawn o ganolfan y celfyddydau, roedd hynny’n wych.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Rwyf i’n gweithio fel darlithydd ac ymchwilydd yn un o’r deg prifysgol orau yn Colombia. Galluogodd fy noethuriaeth yn Aber fi i wella fy sgiliau ymchwil, a dod yn rhan o gymuned academaidd fwy o faint yn fyd-eang. Ar ôl dysgu rhywfaint o Gymraeg yn Aber, dysgais hefyd werthfawrogi diwylliannau mewn ffordd ddyfnach, ac mae hynny wedi fy helpu yn fy rôl fel cydlynydd Materion Rhyngwladol yn y Gyfadran Cyfathrebu yma yn Universidad de La Sabana.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Mae angen i rywun sy’n dechrau ar PhD ddeall nad yw’n dasg hawdd, ond yn un sy’n dod â boddhad. Mae’n galw am ymroddiad, dogn da o drefn a pharodrwydd i dderbyn syniadau newydd, a digon o amynedd a phersbectif. Allaf i ddim gorbwysleisio’r pwynt olaf yna. Mae’n rhaid cadw’r nod fel cyrchfan, ond hefyd rhaid cofio mai’r daith sy’n ein dysgu ni am fywyd. Peidiwch ag anwybyddu cyfleoedd i ymuno â Chymdeithas yr Uwchraddedigion, dysgu Cymraeg, trafod gwleidyddiaeth leol, mwynhau’r dewisiadau adloniant yng Nghanolfan y Celfyddydau neu yn y dref, a chymryd rhan mewn trafodaethau am ble’r ydych chi’n dod ohono a sut mae’r byd academaidd yn gweithio gartref. Mae cymaint gennym ni i’w ddysgu, ond hefyd cymaint i’w rannu.