Elizabeth Ross
Graddiodd Elizabeth Ross o Aber yn 1996 gyda BA mewn Saesneg a Drama ac aeth yn ei blaen i ennill Diploma Uwchraddedig mewn Newyddiaduraeth Darlledu o Brifysgol Caerdydd yn 1998. Bellach mae'n Uwch-gynhyrchydd gyda WGBH News yn Boston, Massachusetts, ar y rhaglen "Innovation Hub", sy'n cael ei darlledu ar radio cyhoeddus cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau.
Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Mae gen i gynifer o atgofion arbennig: astudio ar gampws bendigedig gyda golygfeydd trawiadol o'r môr a'r bryniau; gwneud cynifer o ffrindiau gwych yn y brifysgol a hefyd yn Eglwys San Mihangel; gwneud fy ngwaith radio cyntaf oll yn Radio Bronglais, gorsaf radio'r ysbyty, ac yn ddiweddarach yn Radio Ceredigion; cerdded i fyny ac i lawr Rhiw Penglais sawl gwaith y dydd i gyrraedd darlithoedd Llenyddiaeth Saesneg ar ben y rhiw a dosbarthiadau Drama ar ei waelod - sôn am ymarfer corff!
Beth ydych chi'n ei wneud yn awr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich cynorthwyo?
Dechreuais fy ngyrfa ym maes newyddiaduraeth fel Newyddiadurwr Rhanbarthol i'r BBC yn gweithio ym maes radio a theledu yn BBC Cymru yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda WGBH News yn Boston, lle rwyf yn Uwch-gynhyrchydd ar gyfer y rhaglen "Innovation Hub", sy'n cael ei darlledu ar radio cyhoeddus yr Unol Daleithiau.
Des i'r Unol Daleithiau yn gyntaf yn sgil rhaglen cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol Aberystwyth, a chael y cyfle gwych i astudio am flwyddyn ym Mhrifysgol Illinois, Urbana–Champaign, a oedd yn brofiad anhygoel.
Yn sgil fy nghyrsiau gradd yn Aberystwyth, dysgais sut i feddwl yn feirniadol, a datblygais sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio da. Rwy'n defnyddio'r pethau hynny oll yn ddyddiol yn fy ngwaith.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Manteisiwch ar bob cyfle a phrofiad dysgu posibl, daliwch ati i fod yn chwilfrydig, a darllenwch gymaint â phosibl. Rwy'n gweld eisiau'r Llyfrgell Genedlaethol a'r holl lyfrau oedd ar gael yno, a'r staff amyneddgar a chyfeillgar fu'n fy nghynorthwyo i ddod o hyd iddynt. Cofiwch gael digonedd o hwyl hefyd, a rhoi cynnig ar rai o'r clybiau gwych sy’n cael eu hyrwyddo yn ystod Wythnos y Glas.
Fyddech chi'n argymell Aberystwyth i eraill, a pham?
Heb os - roedd fy nghyfnod yn Aber yn brofiad anhygoel ac yn baratoad gwych ar gyfer popeth oedd o'm blaen.