Desmond Whittall
Graddiodd Des o Aber yn 2000 gyda BEng mewn Peirianneg Meddalwedd a bellach mae’n berchen ar fusnes milfeddygol gyda’i wraig Louisa (cyn-fyfyriwr arall o Aber) yn Texas, UDA.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Y crôls tafarnau, o’r rhai ar lan y môr i’r daith i Ddulyn a drefnwyd ar gyfer y Comp Soc. Hefyd cael llinell ISDN yn ein llety myfyrwyr a meddwl pa mor gyflym oedd hyn ar y pryd...
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Ar ôl treulio 12 mlynedd gyda banc buddsoddi rydym ni bellach yn berchen ar Glinig Milfeddygol a Chyrchfan Anifeiliaid Anwes yn Texas. Rwyf i’n hapusach o lawer nawr gyda mwy o amser sbâr a chyfle i greu ased go iawn i fy nheulu. Nid Cyfrifiadureg yn union, ond yn bendant yn defnyddio’r sgiliau eraill a ddysgais yn Aber. Byddwn i’n argymell i bawb fod yn berchen ar fusnes bach.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Canolbwyntiwch ar yr hyn fydd yn eich gwneud chi’n wahanol; mae eich cyfnod yn Aberystwyth yn gadael i chi ddatblygu rhwydwaith o gysylltiadau a’r sgiliau i’w defnyddio. NI FYDD gradd gyntaf yn unig yn sicrhau swydd i chi, mae gallu siarad am beth y gwnaethoch chi ar wahân i’ch gradd yn rhoi gwell cyfle i chi (ar yr amod eich bod yn gallu gwneud gwaith y cwrs ar yr un pryd).