Denitsa Dineva
Astudiodd Denitsa BSc Busnes a Rheolaeth (2013) ac MSc Marchnata (2015) yn Ysgol Busnes Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl cwblhau ei gradd meistr, bu Denitsa’n gweithio ym maes Cyllid Defnyddwyr yng Ngrŵp Bancio Lloyds cyn penderfynu dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ymgymryd â gradd PhD a gyllidwyd yn fewnol ar y pwnc “Rheoli gwrthdaro mewn cymunedau ar-lein”. Graddiodd Denitsa o Brifysgol Aberystwyth yn 2019 gyda PhD mewn Busnes a Rheoli.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Symudais i Aberystwyth i astudio gradd BSc o fy ngwlad enedigol, Bwlgaria, ac roeddwn i’n teimlo’n gartrefol o’r eiliad gyntaf. Roedd y gymuned yn gynnes ac yn groesawgar, a galluogodd y boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr fi i wneud ffrindiau o bedwar ban byd. Ar ôl treulio cyfanswm o saith mlynedd yn yr Ysgol Busnes, mae gen i lawer o atgofion pleserus o fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cyfarfod â phawb a ddaeth yn rhan o’r daith, gyda phob un wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Cefais gyfeillion oes, ynghyd â chwrdd â fy mhartner a sefydlu perthnasoedd proffesiynol cryf gyda rhai o’r staff academaidd yn yr Ysgol Busnes. Byddaf yn ystyried arfordir gorllewin Cymru’n lle arbennig iawn am byth.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa a sut mae Gradd Aberystwyth wedi helpu?
Ar hyn o bryd, rwyf i’n Ddarlithydd Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd lle’r wyf i’n addysgu ar lefel israddedig ac uwchraddedig, ar bwnc Marchnata Digidol. Yn sicr dysgodd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth sgiliau personol ac academaidd gwerthfawr iawn i fi, sydd wedi fy helpu i ragori mewn swydd ddarlithio broffesiynol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, ond sydd hefyd yn drylwyr yn academaidd, gan wedi fy annog i chwilio’n barhaus am gyfleoedd i ddatblygu a symud ymlaen yn fy ngyrfa.
Pa gyngor sydd gennych chi i fyfyriwr sy’n astudio’r un cwrs â chi nawr?
Byddwn yn cynghori myfyrwyr i fwynhau eu cyfnod yn y brifysgol a gwneud y gorau o’u cyfleoedd o ran gwaith ac astudiaethau. Mae’r amgylchedd dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn wych - mae’r staff academaidd a’r staff cymorth yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, a dylai myfyrwyr presennol fanteisio ar hyn er mwyn dysgu a gwella. Fydd y daith i gwblhau gradd ddim yn hawdd, ac ni ddylai fod, ond mae’n un fydd yn talu ar ei chanfed.