Myfyrwyr Israddedig
O amaeth i astudiaethau plentyndod ac o wleidyddiaeth i wyddorau anifeiliaid, mae llu o gyfleoedd i ymgymryd â’ch astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yma yn Aberystwyth. Cliciwch yma i ddod o hyd i gwrs sy’n eich diddori chi.
Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Yng ngoleuni’r gystadleuaeth yn y farchnad swyddi mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r manteision cysylltiedig yn werth eu hystyried. Mae nifer o’n cyrsiau israddedig yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth hyd at £3,000. Bydd myfyrwyr sy'n astudio dros 5 credyd y flwyddyn drwy'r Gymraeg yn derbyn Ysgoloriaeth Astudio drwy'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.