Manteision
Cyflogadwyedd
Mae’r gallu i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgìl fanteisiol iawn yn y gweithle. Mae astudio drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi, nid yn unig dros ymgeiswyr di-Gymraeg ond hefyd ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg ond nid ydynt wedi datblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefel raddedig.
Pam mae sgiliau dwyieithog yn bwysig i gyflogwyr?
- Yn y sector cyhoeddus, mae gofyn statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg
- Gan fod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus, maent yn disgwyl yr un lefel o wasanaeth yn y sector preifat
- Cwsmeriaid/cleientiaid yn gwerthfawrogi cael gwasanaeth yn Gymraeg
- Darparu profiad Cymreig, sy’n cynnwys gweld a chlywed y Gymraeg, yn arf marchnata
- Ehangu’r farchnad darged
- Denu cwsmeriaid/cleientiaid newydd a’u chadw
- Gwella delwedd y cwmni/sefydliad
- Cyfrifoldeb cymdeithasol - cefnogi iaith a diwylliant y gymuned
- Dangos parch at gwsmeriaid/cleientiaid a’r gymuned ehangach
- Dilyn arfer da a dangos ansawdd uchel y busnes/gwasanaeth
- Hybu cydraddoldeb
Dosbarthiadau llai o faint
Mae darlithoedd a seminarau cyfrwng Cymraeg yn tueddu bod yn weddol fach, sy’n golygu dosbarthiadau cyfeillgar a rhagor o gefnogaeth gan y tiwtor. Byddwch yn dod i nabod eich cyd-fyfyrwyr a’ch tiwtor yn well. Mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr mewn dosbarthiadau bach yn tueddu cael marciau uwch na myfyrwyr mewn dosbarthiadau mawr.
Datblygu sgiliau trawsieithu - gwell dealltwriaeth o’r pwnc
Hyd yn oed os ydych chi’n astudio drwy’r Gymraeg, bydd angen i chi wneud defnydd o ddeunyddiau dysgu yn Saesneg (ac ieithoedd eraill os ydych chi’n astudio ieithoedd modern neu astudiaethau Celtaidd). Mae’r broses o drawsieithu (defnyddio gwybodaeth a geir mewn un iaith mewn iaith arall) wrth ysgrifennu nodiadau ac asesiadau yn eich cynorthwyo i ddeall a dehongli deunydd darllen yn well. Nid yw’n bosib copïo heb ddeall wrth drawsieithu!
Cefnogaeth ariannol
Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n astudio dros 5 credyd y flwyddyn drwy'r Gymraeg yn derbyn Ysgoloriaeth Astudio drwy'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.
Mwynhad
Mae dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn gyfeillgar a byddwch chi’n ymuno â chymuned fywiog o fyfyrwyr sydd hefyd yn astudio drwy’r Gymraeg.
Addysg o’r ansawdd orau
Byddwch chi’n derbyn addysg o’r ansawdd orau gan arbenigwyr yn eu pwnc sy’n defnyddio’r gorau o ddulliau dysgu traddodiadol a newydd.
Dulliau dysgu arloesol
Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg yn defnyddio nifer o dechnegau blaengar, megis cipio darlithoedd, deunyddiau dysgu amlgyfrwng, fideo-gynadledda, sesiynau preswyl ag ymarferwyr proffesiynol ac adnoddau ar lein, i gefnogi dulliau dysgu mwy traddodiadol, megis darlithoedd a’r llyfrgell.