Cyflogadwyedd
Mae astudio celf a hanes celf yn ysgogi’n greadigol ac yn ddeallusol.
Yn ogystal â bod yn foddhaol ar lefel bersonol, mae’n cynnig llawer o fanteision ymarferol. Mae’n hyrwyddo’r gallu i ddatrys problemau, yn datblygu sgiliau rhyngbersonol ac yn gwella eich gallu i ymateb a llwyddo mewn marchnad sy’n gyfnewidiol.
Mae gwerth mawr i sgiliau trosglwyddadwy yn yr economi bresennol, ac rydym yn eu hyrwyddo’n frwd yn ystod eich astudiaethau yn yr Ysgol Gelf. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys y gallu i gynnal ymchwil ac i ddehongli gwybodaeth, i fynegi syniadau, datblygu meddwl yn feirniadol ac yn rhyngddisgyblaethol, gweithio’n annibynnol neu yn rhan o dîm creadigol, a chynnal ffocws a chymhelliant gan gadw llygad ar eich nod.
Bydd curaduron gwadd, artistiaid sy’n ymweld, a chyn-fyfyrwyr yn rhannu eu profiad ac yn eich cyflwyno i bob math o bosibiiliadau gyrfaol. Ar achlysur agor arddangosfa neu ddiwrnodau agored bydd cyfle ichi wirfoddoli neu gael eich talu i fod yn llysgennad. Bydd hyn yn eich rhoi mewn sefyllfa i gysylltu â’r cyhoedd a rhannu eich gywobdaeth ac arbenigedd.
Dengys tystiolaeth bod y mwyafrif o’n graddedigion yn creu gyrfa yn eu dewis faes. Maent yn sefydlu’u hunain yn artistiaid proffesiynol, haneswyr celf, curaduron a gweinyddwyr. Mae ein graddedigion yn beintwyr proffesiynol, yn ddarlunwyr llyfrau, ffotograffwyr, addysgwyr prifysgol, athrawon ysgolion uwchradd, rheolwyr orielau celf, curaduron arddangosfeydd, ac yn warchodwyr peintiadau îsl, cerameg a gwaith ar bapur. Mae eu cyflogwyr yn cynnwys Cyngor y Celfyddydau, Academi Frenhinol y Celfyddydau, y Tate, Amgueddfa Victoria ac Albert, ac Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol.
Er mwyn gwella eu cyfleoedd gyrfaol, mae ein graddedigion yn cofrestru ar raglenni gradd Meistr y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn mannau eraill.