Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu Prifysgol Aberystwyth
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i bob un o dudalennau blackboard.aber.ac.uk.
Cynnyrch masnachol yw Blackboard, sydd wedi ei gynllunio a'i ddatblygu'n unol â Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.0. Mae manylion ynghylch hygyrchedd rhyngwyneb y defnyddiwr ar gael ar wefan Blackboard.
Rydym ni'n awyddus i’r gwasanaeth hwn fod ar gael i gymaint â phosibl o ddefnyddwyr. Mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrîn
- dewis arddull cyferbynnedd uchel
- cwympo dewislen y cwrs er mwyn tacluso'r dudalen a'ch helpu i ganolbwyntio ar y dasg sydd ar y gweill.
I gael mwy o fanylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.
Mae Blackboard yn argymell defnyddio JAWS wrth agor Blackboard gyda Firefox, neu ddefnyddio VoiceOver ar Safari os ydych yn defnyddio Mac. Mae mwy o wybodaeth ar gael am ddarllenwyr sgrin a Blackboard.
Pa mor hygyrch yw'r system hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o Blackboard yn gwbl hygyrch:
- nid yw meddalwedd darllen sgrîn yn gweithio'n llwyr gyda'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn
- nid oes capsiynau ar y rhan fwyaf o recordiadau Panopto o ddarlithoedd
- rhai dewislenni cwrs sydd wedi eu haddasu i gynnwys cefndiroedd patrwm gwead [textured] neu gyferbynnedd lliw sâl
- rhywfaint o'r testun sydd wedi ei greu gyda'r golygydd cynnwys
- rhai delweddau sydd wedi eu huwchlwytho heb destun amgen
- rhai dogfennau sydd wedi eu huwchlwytho i'r rhith-amgylchedd dysgu nad ydynt yn hygyrch
I gael mwy o fanylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych chi angen gwybodaeth am Blackboard mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu mewn braille, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Gall defnyddwyr Blackboard:
- Newid Maint Testun yn y porwr y maent yn ei ddefnyddio i agor Blackboard.
- Dewis Gosodiad Cyferbynnedd Uchel
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Y drefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).