Nod dysgu gweithredol yw symud oddi wrth fodel o addysgu trwy drosglwyddo, lle mai'r oll a wna myfyrwyr yw gwneud nodiadau a dilyn cyfarwyddiadau. Yn hytrach, ei nod yw sicrhau bod y myfyrwyr yn rhan o'u proses ddysgu eu hunain. Trwy gyfrwng ystod o dechnegau a dulliau, mae'n annog meddwl ar lefel uwch ac yn galluogi myfyrwyr i fynd ati i greu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth eu hunain (Yr Arolwg Cenedlaethol o Ymwneud Myfyrwyr).
Dengys ymchwil fod gan ddysgu gweithredol nifer o fanteision, gan gynnwys:
- gwella canlyniadau myfyrwyr
- amgylchedd dysgu mwy cynhwysol
- dysgu mwy cynhyrchiol i fyfyrwyr
- gwell cyfleoedd dysgu i grwpiau megis rhai sydd wedi'u tangynrychioli a myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn fenywaidd.
Ymhlith y technegau dysgu gweithredol cyffredin mae defnyddio offer yn y dosbarth megis meddalwedd pôl piniwn neu bleidleisio, gweithgareddau datrys problemau, defnyddio astudiaethau achos, a phrosiectau ymchwil ar y cyd. Gall staff gyflwyno dysgu gweithredol trwy gyfrwng newidiadau bychain i'r dulliau addysgu sydd eisoes wedi’u sefydlu, neu trwy fynd ati i ailddylunio modiwlau neu gynlluniau ar raddfa fawr. Gall rhai o'n hoffer digidol, megis Blackboard, hefyd helpu i wneud dysgu yn fwy gweithredol, yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi.
Wrth gwrs, nid yw dysgu gweithredol yn rhywbeth newydd. Bydd llawer o staff eisoes yn defnyddio dysgu gweithredol yn rhan o'u haddysgu arferol. Fodd bynnag, nod strategol y polisi hwn yw uwchraddio'i ddefnydd, gan gyflwyno diwylliant o ddysgu gweithredol ledled y Brifysgol.
Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:
- cynnal arolwg o’r llinell sylfaen o ran gweithgarwch cyn cam 1
- ymestyn ac ysgogi trafodaeth ledled y Brifysgol am addysgeg dysgu gweithredol
- rhoi cymorth, cymhellion ac anogaeth i staff ddatblygu technegau dysgu gweithredol
- sicrhau bod ein systemau, ein strwythurau a'n hadnoddau yn cefnogi dysgu gweithredol
- cysylltu ein haddysgeg dysgu gweithredol â chanlyniadau cyflogadwyedd myfyrwyr trwy gyfrwng dulliau asesu priodol ac ymwneud â chyflogwyr posibl, ymhlith pethau eraill
Ceir nifer o rwystrau i ddefnydd ehangach. Efallai fod staff yn bryderus ynghylch rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, neu efallai eu bod yn ystyried hynny’n risg. Efallai fod ar eraill angen cymorth a chyngor ynghylch ymwneud â syniadau newydd ac offer newydd i hwyluso cyfleoedd newydd i fyfyrwyr.
Cam 1: Deialog a Chreu
Medi 2019 – Pasg 2020
Yn ystod cyfnod "deialog" o fis Medi 2019 hyd y Pasg yn 2020, bydd y Brifysgol yn cynnal cyfres o seminarau, trafodaethau mewn Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr, grwpiau myfyrwyr a grwpiau ffocws, cynadleddau, cyfarfodydd neuadd y dref a siaradwyr gwadd er mwyn ysgogi ac ehangu'r sgwrs ynghylch y cysyniad o ddysgu gweithredol, sut y gellid ei ymgorffori yn y cwricwlwm, sut y gall ddefnyddio adnoddau sydd ar gael eisoes, technegau ar gyfer datblygu dysgu gweithredol, ymwneud â a chyflwyno adnoddau a meddalwedd digidol ac e-ddysgu, a sut y gellir cynnwys myfyrwyr wrth fynd ati'n ymarferol i ddatblygu'r is-strategaethau. Bydd hyn hefyd yn gyfle i adrannau ddwyn syniadau ynghyd ar gyfer eu his-strategaethau Dysgu ac Addysgu, gyda mentrau a fydd yn sail i'w hymwneud â Strategaeth Ymchwil y Brifysgol.
Cydnabyddir y bydd adrannau ac unigolion yn cychwyn o wahanol leoedd o ran eu hymwneud â dysgu gweithredol. O ganlyniad, bydd pob adran yn cael hyd y Pasg yn 2020 i ddyfeisio is-strategaeth sy'n ddigon uchelgeisiol ac ymestynnol ac a fydd yn codi'r safon o ran dysgu gweithredol o'u safbwynt hwy. Rhaid i is-strategaethau'r adrannau gynnwys myfyrwyr yn natblygiad y prosiect trwy gyfrwng y Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr a grwpiau ffocws arbennig. Rhaid i'r is-strategaethau hefyd osod amcanion uchelgeisiol y gellir eu mesur, a chynnwys holl staff academaidd yr Adran.
Yna bydd panel yn gwerthuso'r is-strategaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon uchelgeisiol a bod digon o gyswllt rhyngddynt a'r egwyddorion, ac yn adrodd yn ôl i'r adrannau ynghylch i ba raddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion strategol y Brifysgol.
Cam 2: Gweithredu
Pasg 2020 – Pasg 2022
Bydd yr holl adrannau yn rhoi eu cynlluniau gweithredu ar waith, gyda chymorth gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a darpariaeth sylfaenol y Gwasanaethau Gwybodaeth. Disgwylir y bydd Pwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau yn goruchwylio is-strategaethau'r adrannau yn rheolaidd ac yn cael diweddariadau ar eu cynnydd. Bydd angen darparu adroddiadau canol tymor i'r panel yn ystod haf 2021. Bydd y gweithgareddau cynnal deialog yn parhau er mwyn cryfhau amgylchedd dysgu ac addysgu lle mae dysgu gweithredol yn cael ei feithrin ledled y Brifysgol.
Cam 3: Cwblhau a Gwerthuso Terfynol
Pasg 2022 – Haf 2022
Bydd yr holl adrannau yn cyflwyno eu hadroddiadau terfynol a bydd y panel yn mesur canlyniadau'r is-strategaethau o ran cwrdd ag amcanion cyffredinol Strategaeth Rhagoriaeth Addysg y Brifysgol. Cyflwynir adroddiad terfynol i'r Senedd a'r Cyngor, yn manylu ynghylch i ba raddau y mae'r Brifysgol wedi cyfoethogi profiad myfyrwyr ac wedi gwella dysgu gweithredol ledled y sefydliad. Bydd effaith y gwelliannau hyn yn parhau i gael ei monitro yn ystod y ddwy flynedd wedi hynny.