Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

1.  Rhagair


1.1.  Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn mynnu bod pob darn o waith cwrs sy'n destun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno ar-lein gan fyfyrwyr.

1.2.  Lle bynnag y bo modd dylai staff roi gradd ac adborth yn electronig trwy Blackboard.

1.3.  Dylai myfyrwyr gyflwyno eu gwaith trwy Blackboard, y rhith-amgylchedd dysgu.

1.4.  Mae PA yn darparu offer Turnitin a Blackboard (gan gynnwys Blackboard Assignment) ar gyfer e-gyflwyno.

1.5.  Mae'r polisi hwn i'w gael ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a chyfeirir ato yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

2. Diffiniadau

2.1.  Mae agweddau'r polisi hwn sy'n ymwneud â chyflwyno yn gymwys i bob gwaith i'w asesu sy'n destun a baratowyd ar brosesydd geiriau. Nid yw'r eitemau yn gysylltiedig â chyflwyno felly'n gymwys i waith arall, er enghraifft:

  • Llyfrau nodiadau
  • Paentiadau, darluniau, a cherfluniau
  • Perfformiadau
  • Cyfraniadau seminar
  • Arbrofion labordy

2.2.  Mae hwn yn bolisi sy'n gymwys i waith a gyflwynir gan israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir.

2.3.  Mae PA yn cydnabod bod rhai aseiniadau'n cael eu cyflwyno trwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol. Mewn achosion o'r fath, rydym yn argymell rhoi marciau ac adborth i fyfyrwyr trwy Blackboard.

3. Defnyddio eich Data

3.1.  Gwasanaethau cwmwl yw Turnitin a Blackboard. Felly mae'r ddau gwmni'n dal gwybodaeth am staff a myfyrwyr.

3.2.  Mae'r wybodaeth yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, y rhai a gofrestrwyd ar fodiwlau a'u swyddogaeth yng nghyswllt y modiwl. Bydd copi o waith a gyflwynwyd, sylwadau adborth a graddau hefyd yn cael eu storio.

3.3.  Hefyd, gallai staff PA ddefnyddio data a gynhyrchwyd o'r ddau wasanaeth yn rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA. Gellir cael gwybodaeth am Ddadansoddi Dysgu yn https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/

4. Cyflwyno gwaith


4.1.  Yr adrannau sy’n gyfrifol am greu pwyntiau cyflwyno ym modiwlau Blackboard i bob e-gyflwyniad. Rhaid i'r pwyntiau cyflwyno gynnwys gwybodaeth berthnasol i fyfyrwyr, gan gynnwys y dyddiad cau i gyflwyno'r aseiniad.

4.2.  Oni bai bod rhesymau penodol i beidio â gwneud hynny, dylai'r dyddiad a'r amser cau fod rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.

4.3.  Dylai myfyrwyr gyflwyno'u gwaith mewn da bryd cyn yr amser a’r dyddiad cau. Ni fydd trafferthion TG yn cael eu hystyried yn 'amgylchiadau arbennig'.

4.4.  Dylai adrannau drefnu sesiwn ymarfer cyflwyno i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf cyn y dyddiad cau cyntaf. Dylai myfyrwyr fanteisio ar hyn i wneud yn sicr eu bod yn deall sut i gyflwyno ac i weld a allant gyflwyno'n iawn o'r cyfrifiadur y byddant yn ei ddefnyddio.

4.5 Dylai myfyrwyr wirio bod eu gwaith wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn arbed copi o'r dderbynneb cyflwyno a'i gadw'n ddiogel (mae canllawiau ar gael ar gyfer Turnirin a Blackboard). Os nad ydynt yn gallu gweld y dderbynneb, dylai myfyrwyr wirio a rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Gwybodaeth a'u hadrannau ar unwaith am unrhyw broblemau.

4.6.  Dylid sefydlu pwyntiau cyflwyno ar TurnItin i ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno sawl gwaith cyn y dyddiad cau ac i weld eu Hadroddiad Tebygrwydd. 

4.7.  Rhaid i'r pwyntiau cyflwyno gael eu gosod i gyflwyno'n ddienw oni bai bod rheswm penodol i beidio â gwneud hynny.

4.8.  Os bydd defnyddwyr wedi'u cloi ni fyddant yn gallu cyflwyno eu gwaith. Os yw cyfrif myfyriwr wedi'i gloi ar yr adeg cyflwyno dylai gysylltu â gg@aber.ac.uk i gael cyngor.

5. Rhoi Gradd ac Adborth

5.1.  Mae polisi PA ynglŷn ag adborth yn rhan o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae'r polisi yn cynnwys gwybodaeth am Egwyddorion Adborth Effeithiol PA.

5.2.  Dylai staff roi adborth i fyfyrwyr o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno. Dydd Llun i ddydd Gwener pan fydd y Brifysgol ar agor yw'r dyddiau gwaith cydnabyddedig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd PA.

5.3.  Rhaid rhoi marciau ac adborth trwy Blackboard. Gall staff ddefnyddio'r offer adborth sydd wedi'u hymgorffori yn Turnitin neu Blackboard i roi gradd ac adborth.

5.4.  Rhaid rhoi marciau ac adborth yn electronig i waith na chafodd ei gyflwyno'n electronig hefyd. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i gadw'r adborth mewn un lle, a gweld manylion eu marciau ar draws y modiwl. Mae hefyd yn caniatáu trosglwyddo marciau o Blackboard i AStRA. Os nad yw'n bosib rhoi adborth yn electronig, bydd staff yn rhoi gwybodaeth glir i fyfyrwyr ynglŷn â sut a phryd y bydd yr adborth yn cael ei roi.

6. Traethodau Hir

6.1.  Dylai pob traethawd hir israddedigion ac uwchraddedig trwy gwrs gael eu cyflwyno'n electronig.

6.2.  Dylai adrannau sy'n dymuno gweithio gyda chopïau papur gytuno ar ffordd i gadw trefn ar hynny, mewn trafodaethau â Chofrestrydd y Gyfadran.

6.3.  Does dim angen i draethodau hir israddedigion gael eu rhwymo.

7. Cyfnod Cadw

7.1.  Mae dogfennau a gyflwynir yn cael eu cadw yn Blackboard am bum mlynedd.

7.2.  Cedwir marciau yn Blackboard am bum mlynedd.

7.3.  Gall myfyrwyr weld yr adborth a'u marciau am aseiniadau tan y bydd eu cyfrif PA yn cau neu tan ddaw'r cyfnod pum mlynedd i ben (p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf).

7.4.  Os bydd myfyrwyr yn dymuno cadw copïau o'r gwaith a gyflwynwyd a/neu'r adborth ar ôl iddynt adael PA dylent eu lawr lwytho cyn gadael. Ni all y brifysgol warantu darparu copi o unrhyw waith a gyflwynwyd ar ôl i fyfyriwr adael.

8. Hawlfraint

8.1.  Myfyrwyr sy'n cadw hawlfraint i'w gwaith gwreiddiol a gyflwynwyd i Turnitin.  Mae gwybodaeth am ddatganiad hawlfraint Turnitin i'w weld ar wefan Turnitin.

8.2.  Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd staff yn dymuno gosod aseiniad nad yw'n ychwanegu'r cyflwyniadau i gronfa ddata ganolog Turnitin. Gellir defnyddio hyn i aseiniadau drafft neu aseiniadau sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol.

9. Trafferthion TG

9.1.  Pe byddai'r system gyfrifiadurol yn methu ar raddfa sylweddol am fwy na dwy awr rhwng 9am a 5pm ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos waith, byddai dyddiadau cau cyflwyno a marcio'r diwrnod hwnnw'n cael eu hymestyn 24 awr.

9.2.  Os mai Blackboard sy'n methu, bydd hyn yn effeithio ar bob dyddiad cau (Blackboard Assignments ac offer Blackboard erailll a ddefnyddir i asesu yn ogystal â Turnitin).

9.3.  Os mai Turnitin sy'n methu, dim ond aseiniadau Turnitin a effeithir.

9.4.  Bydd yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu (Yr Uned) yn monitro pob achos o'r fath. Bydd Rheolwr yr Uned yn argymell gweithredu'r cynllun methiant TG. Cymeradwyir hyn wedyn gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth a'r Cofrestrydd Academaidd. Yna, anfonir y penderfyniad at Gofrestryddion y Cyfadrannau sy'n gyfrifol am gysylltu â'r holl fyfyrwyr perthnasol.

9.5.  Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn anfon negeseuon trwy Newyddion GG, Twitter, Facebook.

9.6  Pan fydd y system yn gweithio unwaith eto, bydd Cofrestrydd y Gyfadran yn trefnu i ddiweddaru pob pwynt cyflwyno gan roi'r dyddiad a'r amser cau newydd.

10. Hygyrchedd

10.1.  Mae marcio ar-lein yn golygu treulio amser ychwanegol o flaen cyfrifiadur ar adegau penodol o'r flwyddyn Dylai staff ac adrannau gofio dilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch PA er mwyn osgoi cynyddu perygl Anaf Straen Ailadroddus (RSI) neu roi straen ar y llygaid. Mae gwybodaeth ynglŷn â defnyddio cyfarpar sgrin arddangos i'w chael ar wefan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

10.2.  Mae Turnitin yn rhoi gwybodaeth am hygyrchedd eu cynnyrch ar eu gwefan. Mae gwybodaeth ynglŷn â chael mynediad i Blackboard hefyd i'w chael ar eu gwefan. Os yw staff yn cael trafferthion wrth gael mynediad i Turnitin dylent gysylltu â Phennaeth yr Adran a staff yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.

10.3.  Er gwaethaf lobïo helaeth, nid oes fersiwn Gymraeg o Turnitin i'w gael. Ond, gellir defnyddio Turnitin i gyflwyno papurau yn y Gymraeg a'u gwirio am debygrwydd (mae nifer o brifysgolion yng Nghymru'n defnyddio Turnitin). Os yw staff yn dymuno rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio dylent ddefnyddio offer 'Blackboard Assignment'.

Cefnogaeth

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cymorth a hyfforddiant i staff ynglŷn ag e-gyflwyno. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalennau gwe E-gyflwyno'r UDDA.

 Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2023 gan Bwyllgor Gwella Academaidd a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Ionawr 2024.