Strategaeth Dysgu ac Addysgu PA, 2019–2022

Strategaeth Rhagoriaeth Addysg Aberystwyth

Dyma Strategaeth Dysgu ac Addysgu gyffredinol Prifysgol Aberystwyth, sef ein Strategaeth Rhagoriaeth Addysg. Law yn llaw â Chynllun Strategol y Brifysgol 2018–2023, ‘I'r Ganrif a Hanner Nesaf’, mae'r Strategaeth Dysgu ac Addysgu yn chwarae rhan holl bwysig yn diogelu ac yn cyfoethogi enw da rhagorol y Brifysgol ym maes dysgu ac addysgu. Bydd y Brifysgol yn cyflawni hyn drwy adeiladu ar sail enw da Aberystwyth yn genedlaethol am gynnig profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr trwy roi ei gwaith â myfyrwyr fel partneriaid wrth graidd y strategaeth, a chydweithio'n agos â mentrau strategol eraill y Brifysgol ym maes ymchwil, cyfrwng iaith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, lles y myfyrwyr a'r staff a chyflogadwyedd graddedigion.   

Mae'r strategaeth yn esgor ar brosiect cyfoethogi sylweddol ledled y sefydliad, yn ogystal â sawl prosiect arall allweddol sy'n ymwneud â gwella profiad myfyrwyr a staff ym maes dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnal y gwaith arloesi parhaus a'r rhagoriaeth yr ydym eisoes yn adnabyddus yn eu sgil. Ar y cyd, bydd y cyfeiriadau hyn yn galluogi'r Brifysgol i atgyfnerthu a chyfoethogi ei huchelgeisiau o ran addysgu digidol, lles myfyrwyr a staff, a sicrhau ansawdd yn gyffredinol, gan adeiladu hefyd ar nodweddion hirsefydlog rhagoriaeth academaidd mewn sefydliad hanesyddol a dwyieithog a arweinir gan ymchwil ac sy'n hyrwyddo gwerthoedd cynhwysiant, cydweithio, trawsnewid, arloesi ac uchelgais.

Cyd-destun

Mae Prifysgol Aberystwyth yn brifysgol fechan i ganolig ei maint sy’n cael ei chydnabod yn eang am ei rhagoriaeth o ran bodlonrwydd myfyrwyr a dysgu ac addysgu:

  • Sgoriau uchel yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (cyntaf yng Nghymru) er 2015
  • Y brifysgol gyntaf yn y DU i gael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn y Times am Ansawdd y Dysgu am ddwy flynedd yn olynol (2018, 2019)
  • Gwobr Aur y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu wedi’i dyfarnu i'r sefydliad (2018)
  • Enillydd rheolaidd yng ngwobrau WhatUni (Aur yn y categori Uwchraddedig am yr ail flwyddyn yn olynol; Arian yn y categorïau Prifysgol y Flwyddyn a Rhyngwladol)

Gweledigaeth

“Gwell ei gweld na’i chlywed. Gwell gwybod na’i gweld. Gwell gwneud na gwybod.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cystadlu â'r goreuon ym maes Dysgu ac Addysgu. Mae bodlonrwydd myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu a safon byw yn y Brifysgol yn gyson uchel, ac mae'r llwyddiant hwnnw'n seiliedig ar ymroddiad ac arbenigedd eithriadol ein staff. Mae'r gwobrau cyson a gawn yn dangos nid yn unig bod Aberystwyth yn brifysgol nodedig, ond hefyd mai Cymru yw'r lle gorau i astudio yn y DU, a bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar sail ein cryfderau er mwyn sicrhau'r profiad addysg gorau posibl i'n hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Yn sgil y gwobrau a gawsom am brofiad y myfyrwyr, yr adnoddau dysgu a rhagoriaeth yr addysgu, gallwn fod yn haeddiannol falch o’r arferion, y dyfeisgarwch a'r trylwyredd y mae staff y Brifysgol yn eu cynnig i'r agwedd hon ar addysgu. Fodd bynnag, er mwyn cadw ein lle ar flaen y gad, mae angen i Brifysgol Aberystwyth ddysgu'n barhaus am y datblygiadau arloesol yn y sector, gan addasu ein technegau addysgu i ddiwallu'r newid yn anghenion carfanau o fyfyrwyr, ac er mwyn hybu'r ethos o fyfyrwyr a staff yn gweithio fel partneriaid mewn amrywiol ffyrdd.

Er mwyn datblygu graddedigion sy'n ddigidol ymwybodol, yn ymwneud yn weithredol, yn sensitif i ddiwylliant ac yn gyflogadwy ledled y byd, dyma’r nodau fydd yn llunio uchelgais greiddiol Strategaeth Dysgu ac Addysgu newydd Prifysgol Aberystwyth, sef Strategaeth Rhagoriaeth Addysg Aberystwyth. Y nod yw cyflawni i’r eithaf: fel y dywed Cynllun Strategol y Brifysgol, mae arnom eisiau grymuso myfyrwyr i gyflawni eu haddewid, i feddwl yn rhydd, yn annibynnol ac yn feirniadol, ac i wneud hynny mewn amgylchedd dwyieithog sy’n gefnogol, yn gynhwysol ac yn greadigol. Nod pennaf y Strategaeth Dysgu ac Addysgu hon fydd ysgogi ac ymestyn trafodaeth ar draws y campws cyfan ynglŷn ag agweddau a dulliau addysgu amrywiol – beth a olygir wrth wneud rhywun yn rhan weithredol o’u proses ddysgu? Beth yw'r berthynas rhwng ein haddysgu a'n hymchwil? Sut gallwn ni ddyfnhau'r berthynas â myfyrwyr fel partneriaid? Sut gallwn ni ymestyn ein defnydd o'r cwmpas digidol yn ein haddysgu? Sut gallwn ni gyfuno'r digidol â dulliau eraill mwy corfforol ac ymgorfforol o ddysgu? – a sbarduno ein huchelgais dros y tair blynedd nesaf i barhau i fod yn sefydliad a gydnabyddir yn rhyngwladol am ddyfeisgarwch addysgu, partneriaethau dysgu a lles cyffredinol.

Mae'r Cynllun Gweithredu cyffredinol sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth Rhagoriaeth Addysg yn amlinellu cyfres o feysydd i'w cyfoethogi a'u datblygu, a meysydd sydd eisoes yn rhan o weithgareddau parhaus y Brifysgol ym maes addysgeg a phrofiad myfyrwyr. Disgwylir y bydd yr holl feysydd y mae'r strategaeth yn eu cwmpasu yn coleddu darpariaeth a phrofiad cyfrwng Cymraeg, ynghyd â gweithgareddau a phrofiad y gymuned uwchraddedig, er bod cyfran fawr o'r ddau faes hyn yn dod o dan gwmpas strategaethau eraill ar wahân. Er hynny, yr ydym yn deall bod gwahanol strategaethau yn gorgyffwrdd, a lle gellir creu cysylltiad (h.y. rhwng ymchwil ac addysgu) y gobaith yw y gellir datblygu'r rhain yn brosiectau penodol.

Diben a Nodau

Diben y strategaeth yw sefydlu fframwaith ar gyfer y gweithgareddau a fydd yn cyfoethogi amgylchedd dysgu ac addysgu dwyieithog y Brifysgol dros y tair blynedd nesaf. Nod y strategaeth yw rhoi i’r Brifysgol gyfuniad o fentrau newydd yn ogystal â rheoli'r datblygiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd er mwyn ymateb i'r newid yn nisgwyliadau myfyrwyr ac mewn arferion dysgu:

  • Cynnal a datblygu enw da'r Brifysgol am ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu
  • Dyfnhau ac ymestyn y berthynas â myfyrwyr fel partneriaid
  • Datblygu amgylchedd dysgu ac addysgu iach a chefnogol i’n myfyrwyr a’n staff newydd a phresennol fel ei gilydd, a'r amgylchedd hwnnw'n un arloesol sy’n ysbrydoli ac yn galluogi dysgu trawsnewidiol
  • Darparu prosiect cyfoethogi â'r nod o gynnwys staff a myfyrwyr mewn dysgu gweithredol
  • Sicrhau pontio llyfn a chroesawgar o'r ysgol i'r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr newydd, a chyfoethogi'r ymwneud â myfyrwyr presennol ledled y Brifysgol, gan wella cyfraddau cadw
  • Sicrhau bod graddedigion y Brifysgol yn parhau i fod wedi'u paratoi'n dda ar gyfer eu bywydau mewn cyflogaeth yn y dyfodol
  • Sicrhau bod portffolio'r Brifysgol yn parhau i fod yn berthnasol trwy adnewyddu'r portffolio yn sgil darpariaeth newydd a chael gwared ar gynlluniau sydd wedi dyddio

Mesur Llwyddiant

Mae'r strategaeth yn cwmpasu ystod o wahanol feysydd gweithgarwch, rhai ohonynt yn feintiol ac eraill yn ansoddol. Byddwn yn mesur llwyddiant y strategaeth gan ddefnyddio amrywiol fesurau meintiol unigol sy'n bodoli mewn perthynas â strategaeth y Brifysgol a'r dangosyddion perfformiad allweddol sydd ganddi eisoes. Bydd y rhain yn cynnwys dangosyddion perfformiad perthnasol sy'n cwmpasu:

  • Gwelliannau yn sgoriau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a sgoriau gwerthuso modiwlau
  • Gwelliannau yn arolwg y Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Gwelliannau o ran cyflogaeth ar lefel graddedigion neu astudiaethau pellach
  • Gwelliannau yng nghyfradd cadw myfyrwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn
  • Gwelliannau yng nghyfraddau graddau Anrhydedd Da y Brifysgol
  • Cynnydd ym modlonrwydd myfyrwyr uwchraddedig
  • Sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar gyfer y dyfodol

Er mwyn rhoi'r strategaeth ar waith, mae'r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Gweithredu cyffredinol sy'n cysylltu ein Strategaeth Rhagoriaeth Addysg â blaenoriaethau strategol y Brifysgol. Bydd y rhestr hon o weithgareddau yn cael ei monitro gan Fwrdd Academaidd y Brifysgol a Phwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau. Bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso'n flynyddol ac yn cael ei chysylltu â set glir, sefydledig o dargedau a fydd yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.