Meini prawf ar gyer arholi ymgeiswyr sy'n aelodau staff
Yr egwyddor sylfaenol wrth arholi ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff yw na ddylai cydweithwyr academaidd arholi ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff, a hynny er mwyn sicrhau na fydd buddiannau’n gwrthdaro. Mae myfyrwyr sydd i’w harholi fel ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff, gyda dau Arholwr Allanol, yn cynnwys pob aelod o’r staff, yn staff academaidd ac eraill. Bydd y grŵp hwn hefyd yn cynnwys unrhyw fyfyriwr sy’n debygol o ymgeisio am swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth neu sydd i’w benodi i swydd adeg yr arholiad (gan gynnwys myfyrwyr ar y Cynllun Ysgoloriaethau Uwchraddedig Cymraeg y mae eu blwyddyn ôl-ddoethurol wedi’i chadarnhau). Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr uwchraddedig sydd wedi bod yn gwneud gwaith Cynorthwyydd Dysgu Uwchraddedig am dâl fesul awr. Bydd unrhyw newid i’r drefn isod yn dibynnu ar ddisgresiwn Pennaeth Ysgol y Graddedigion. Cynghorir yr adrannau i gysylltu â Phennaeth Ysgol y Graddedigion neu â’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion i ofyn am arweiniad mewn achosion ymylol. Bydd deiliaid Ysgoloriaethau AberDoc yn cael eu harholi fel ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff, gyda dau Arholwr Allanol.
Meini Prawf Arholwyr:
1) Dylid enwebu Arholwyr Allanol yn unol â'r Llawlyr Ansawdd Academaidd . Rhaid iddynt fod yn ymwybodol o natur a phwrpas y radd yr arholir yr ymgeisydd ar ei chyfer a meddu ar wybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn nhestun yr ymchwil. Amlinellir meini prawf eraill ar gyfer eu penodi yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Yn ogystal, ni ddylid penodi arholwyr allanol y bu ganddynt gysylltiad helaeth â'r ymgeisydd. Mewn achosion lle bu cysylltiad helaeth, dylid rhoi gwybod am fanylion natur y cysylltiad i Bennaeth Ysgol y Graddedigion ei ystyried yn ystod y broses benodi. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ar gyfer byrddau arholi a’r ffurflen Bwriad i Gyflwyno.
2) Hawl i Weithio yn y DU: O dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 mae’n ddyletswydd ar y Brifysgol i atal gweithio anghyfreithlon drwy wirio dogfennau i gadarnhau bod gan unigolion hawl i weithio yn y DU. Dylai’r adrannau gadarnhau fod gan eu harholwyr arfaethedig hawl i weithio yn y DU cyn enwebu arholwyr. Ni chaiff Arholwyr Allanol NAD ydynt yn gymwys i weithio yn y DU eu penodi.
Fel rheol, dylai’r arholwr mewnol:
• fod yn aelod llawn amser o staff adran(nau) y myfyriwr ond gall ddod o adran gysylltiedig pan fo hynny’n briodol neu’n ofynnol. Gallai fod yn briodol penodi aelodau o staff rhan amser yn arholwyr mewnol os oes ganddynt y profiad angenrheidiol;
• bod â gradd PhD;
• bod â phrofiad o oruchwylio o leiaf un myfyriwr PhD sydd wedi cwblhau’r radd yn llwyddiannus.
Datgan cysylltiad â’r arholwr enwebedig:
Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddatgan a yw’r arholwr allanol enwebedig erioed wedi eu cynghori ar eu hymchwil neu wedi gwneud sylwadau yn benodol ar y gwaith y maent yn ei gyflwyno i’w arholi. Os yw hynny wedi digwydd, rhowch fanylion ynglŷn â natur y cysylltiad. Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n ailgyflwyno i’r bwrdd arholi gwreiddiol wedi’i ailgynnull.