Eithrio rhag talu Treth y Cyngor: myfyrwyr PhD a MPhil yng nghyfnod ‘ysgrifennu terfynol’ y traethawd ymchwil
Mae myfyrwyr PhD amser-llawn yn cael eu heithrio'n awtomatig rhag gorfod talu Treth y Cyngor yn ystod y cyfnod pan fyddant wedi'u cofrestru yn fyfyrwyr ac yn talu ffioedd (sef 3 blynedd fel rheol). Ar ôl hynny, ni fyddant wedi'u cofrestru yn fyfyrwyr amser-llawn bellach, ac ni fydd hi'n angenrheidiol iddynt breswylio yn Aberystwyth nac astudio'n amser-llawn. Bydd llawer yn dechrau mewn swyddi amser-llawn wrth iddynt gwblhau eu traethawd ymchwil. Felly nid yw'r brifysgol yn rhoi gwybod yn awtomatig i'r Cyngor am eithrio myfyrwyr PhD amser-llawn rhag Treth y Cyngor ar ôl i'w cyfnod cofrestru ddod i ben. Serch hynny, bydd tystysgrifau eithrio yn cael eu darparu ar gais i fyfyrwyr hyd at ddiwedd eu pedwaredd flwyddyn gan fod y cwrs fel arfer yn cymryd 4 blynedd i'w gwblhau ac rydym yn cydnabod y bydd llawer o fyfyrwyr yn dal i astudio'n amser-llawn yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn yr un modd, bydd myfyrwyr MPhil amser-llawn yn cael tystysgrif yn awtomatig yn eu heithrio rhag Treth y Cyngor yn ystod eu cyfnod cofrestru a'r cyfnod pan fyddant yn talu ffioedd (1 flwyddyn fel rheol) ac fe fydd tystysgrifau eithrio yn cael eu darparu ar gais i fyfyrwyr am chwe mis ar ôl hynny gan fod y cwrs fel arfer yn cymryd 18 mis i'w gwblhau.
Sylwer na fydd yr eithriad yn cael ei ddarparu fel rheol ar ôl y 4edd flwyddyn i fyfyrwyr PhD, nac ar ôl 18 mis i fyfyrwyr MPhil, hyd yn oed os cymeradwyir estyniad i'r dyddiad cyflwyno. Seilir y polisi hwnnw ar gyngor cyfreithiol bod yr eithriad yn cael ei roi ar sail hyd y cwrs ac nid ar faint o amser y mae myfyriwr unigol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs.
Os bydd angen tystysgrif eithrio ar fyfyrwyr, dylent gysylltu â'r Uned Tystysgrifau yn y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion: