Materion Uwchraddedigion
ASESIADAU SEMESTER DAU
Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Dau mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi. Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/taught-schemes/ . Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen amgylchiadau arbennig i’r adran(nau) academaidd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol. Dylech cyflwyno eich ffurflen cyn bwrdd arholi yr adran.
Amserlen yr Arholiadau: Cofiwch wneud yn siŵr o’r amserlen arholiadau eich bod yn troi i fyny yn y man iawn ar yr amser iawn. Nid yw camddeall yr amserlen yn rheswm dilys am fod yn absennol ac fe allech fethu'r flwyddyn gyfan o ganlyniad i hyn.
Canlyniadau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb Dydd Iau 26 Mehefin.
Asesiadau Ailgynnig yr Haf
Mae’n hollbwysig eich bod yn gwirio eich canlyniadau ac yn cofrestru eich bwriad os bydd opsiwn gennych i ailsefyll unrhyw fodiwlau (gwaith cwrs neu arholiad) yn ystod cyfnod Asesiadau Ailgynnig yr Haf ym mis Awst.
Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir. Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio. Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin fan bellaf.
-
Gwybodaeth i fyfyrwyr Ymchwil
Darganfod mwy -
Gwybodaeth i fyfyrwyr ar Gyrsiau Gradd Uwch
Darganfod mwy
Cysylltwch â Ni
Tîm | E-bost | Ffôn |
---|---|---|
Materion Gweinyddu Myfyrwyr Uwchraddedig | pgsstaff@aber.ac.uk | (01970) 622272 / 622354 / 622849 |
Ysgol Graddedigion | ysgol.graddedigion@aber.ac.uk | 01970 622219 |
Materion Academaidd - cefnogaeth wyneb yn wyneb
Gwasanaethau Ymholiad Rhithwir
Cyfeiriad
Cofrestrfa Academaidd,
Prifysgol Aberystwyth,
Adeilad Cledwyn,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DD
Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Iau 9yb hyd at 5yp, dydd Gwener 9yb hyd at 4yp.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cewch wybodaeth ddefnyddiol hefyd ar we-ddalennau eich Adran. Fe'u lluniwyd i roi gwybodaeth penodol i'ch cwrs ac argymhellir eich bod yn bwrw golwg arnynt.