Adolygiad Addysg Uwch yng Nghymru 2016: Cynllun Gweithredu
Cyfeirnod |
Argymhelliad |
Dyddiad Targed |
Camau Gweithredu |
(Disgwyliadau B5, B1 a B8) |
Sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan fel partneriaid wrth gymeradwyo ac adolygu rhaglenni, a gwella’r profiad myfyrwyr.
|
Medi 2016 |
Mae Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2016/17 yn cynnwys myfyrwyr fel aelodau panel ar gyfer y prosesau Sicrwydd Ansawdd canlynol ar lefel prifysgol: - Archwiliad Perfformiad Adran ac Athrofa - Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau - Paneli Cymeradwyo Cynlluniau Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cynnal sesiynau yn ystod y flwyddyn er mwyn darparu cyflwyniad / hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n aelodau o baneli, gan gydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr. Mae’r Brifysgol hefyd wedi sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys fel aelodau o Bwyllgorau Dysgu ac Addysgu ar lefel athrofa.
|
(Disgwyliadau B9, B6, a C) |
Sicrhau bod dull cyson o weithredu apeliadau academaidd o fewn ac ar draws athrofeydd. |
Medi 2016 |
Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno templed newydd ar gyfer holl lawlyfrau israddedig yr adrannau ar gyfer 2016/17, sy’n cynnwys adran gyffredin ar apeliadau academaidd. Adolygwyd fersiynau terfynol y llawlyfrau gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau prifysgol.
|
(Disgwyliadau B11, B3 a B6) |
Sicrhau bod pob myfyriwr ymchwil yn derbyn hyfforddiant addas cyn ymgymryd â dyletswyddau dysgu a marcio.
|
Medi 2016 |
Mae rhaglen newydd i gyflwyno’r holl fyfyrwyr ymchwil yn cael ei chynnig fis Medi 2016. Bydd yr elfennau craidd yn orfodol i’r holl fyfyrwyr, a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys elfennau atodol a ddarperir ar lefel adran neu bwnc. Mae’r Brifysgol hefyd yn cyflwyno cofrestr ganolog o fyfyrwyr ymchwil sy’n dysgu. |
(Disgwyliadau C a B9) |
Sicrhau cysondeb y wybodaeth graidd yn y llawlyfrau a ddarperir i fyfyrwyr o fewn ac ar draws yr athrofeydd.
|
Medi 2016 |
Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno templed newydd ar gyfer holl lawlyfrau israddedig yr adrannau ar gyfer 2016/17. Mae’n cynnwys adrannau cyffredin ar feysydd allweddol yn cynnwys gofynion presenoldeb, casglu adborth myfyrwyr, asesu gwaith cwrs a swyddogaeth arholwyr allanol. Adolygwyd fersiynau terfynol y llawlyfrau gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau prifysgol. |
(Cyfoethogi) |
Cadarnhau a rhoi mynegiant eglur i’r blaenoriaethau strategol ar gyfer cyfoethogi cyfleoedd dysgu ar lefel athrofa.
|
Mawrth 2017 |
Mae’r Brifysgol wedi datblygu cynllun cyfoethogi newydd o’r enw ‘Trawsffurfio Asesiad ar gyfer Llwyddiant Myfyrwyr’, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd fis Mawrth 2017. Bydd yn canolbwyntio ar asesu ac adborth, gan asio’n glos gyda mentrau sy’n bodoli eisoes o fewn y Brifysgol, a’r pwyllgorau Dysgu ac Addysgu ar lefel Athrofa. Bydd y cynllun cyfoethogi’n cael ei fonitro gan y Bwrdd Academaidd, sy’n gyfrifol am oruchwylio rhaglen gyfoethogi’r Brifysgol. |
(Disgwyliad B8) |
Y camau i weithredu prosesau adolygu cyfnodol ffurfiol ar lefel rhaglen.
|
Dim dyddiad |
Yn dilyn cynllun peilot o’r drefn Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau (PSR) yn ystod 2015, cymeradwywyd y weithdrefn derfynol gan y Bwrdd Academaidd. Mae’r broses PSR bellach yn weithredol a dosbarthwyd o adolygiadau’r dyfodol i’r Athrofeydd. |