Archwiliad Categori 1

20. Yr aelodau o staff isod gaiff gynnal archwiliadau Categori 1:

(i) Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth, (neu unigolyn a enwebwyd) mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri Rheoliadau'r Gwasanaethau Gwybodaeth, gan gynnwys rheoliadau sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau cyfrifiadurol ac adnoddau cyffredinol y Brifysgol.

(ii) Pennaeth adran academaidd, mewn achosion o fân doriadau i’r Rheolau a’r Rheoliadau sy’n ymwneud â darpariaeth academaidd, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â defnyddio cyfleusterau adrannol.

(iii) Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol, (neu unigolyn a enwebwyd) mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri'r Rheoliadau Chwaraeon.

(iv) Cyfarwyddwyr yr Ystadau (neu unigolyn a enwebwyd), mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri cytundeb trwydded.

(v) Rheolwyr y Cyfadrannau neu unigolion eraill a enwebwyd gan Ddirprwy Is-gangellorion y Cyfadrannau, mewn achosion o fân doriadau i Reol 2.19 Iechyd a Diogelwch, nad yw’n ymwneud ag adrannau academaidd unigol.

(vi) Mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri Rheoliad 3.7 (Rheoliadau ynghylch Undeb y Myfyrwyr) dim ond ar ôl ymgynghori â Llywydd Undeb y Myfyrwyr y bydd y Cofrestrydd Academaidd (neu unigolyn a enwebwyd) yn dod i benderfyniad ynghylch a oes achos o dorri safonau disgyblaeth wedi digwydd, ac a ddylid gosod cosb.

21. Os bydd cyhuddiad yn dod i law, bydd pennaeth yr adran neu unigolyn a enwebwyd yn cynnal asesiad cychwynnol, gan gydlynu â'r Gofrestrfa Academaidd casework@aber.ac.uk fel y bo'n briodol. Bydd pennaeth yr adran yn mynd ymlaen i gynnal archwiliad, gan gynnal cyfweliadau â'r tystion ac ystyried y dystiolaeth ddogfennol. Bydd y myfyrwyr yn cael gwybod am y cyhuddiadau a wneir yn eu herbyn drwy gydol y broses.

22. Os bydd y pennaeth adran neu'r sawl a enwebwyd wedi'i fodloni, ar sail pwysau'r tebygolrwydd, fod y cyhuddiad wedi'i gadarnhau a bod modd gosod y gosb briodol o dan Gategori 1, rhoddir gwybod i'r myfyrwyr yn ysgrifenedig drwy gyflwyno iddynt lythyr yn unol â’r templed safonol. Rhaid anfon copi o'r llythyr hwnnw i'r Gofrestrfa Academaidd casework@aber.ac.uk

23. Os bydd y pennaeth adran neu'r sawl a enwebir yn penderfynu bod difrifoldeb y cyhuddiad yn golygu bod angen archwiliad Categori 2, dylid ymgynghori â'r Gofrestrfa Academaidd cyn cyflwyno'r ffurflen gyhuddo a'r dystiolaeth berthnasol i gyd i casework@aber.ac.uk.

24. Ar ôl archwiliad Categori 1, yr unig gosbau y gellir eu gosod yw'r rhai a restrir yn Atodiad 1.