Troseddau cyfreithiol a honiadau camymddwyn

16. Gall ymddygiad troseddol olygu bod Rheolau a Rheoliadau'r Brifysgol i fyfyrwyr wedi'u torri hefyd. Os bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddfarnu ar ôl cael eu cyhuddo o droseddu, caiff y Brifysgol serch hynny ymateb i honiadau trwy gynnal ymchwiliad o dan ei threfn ddisgyblu myfyrwyr. Efallai y bydd angen cymryd camau hefyd os yw myfyrwyr wedi'u heuogfarnu o drosedd, gan gynnwys achosion lle y mae'r myfyrwyr yn cael eu carcharu.

17. Os bydd yr heddlu neu'r llysoedd yn ymdrin â'r mater dan sylw, fel rheol fe fydd y Brifysgol yn aros am ganlyniad y gweithdrefnau hynny cyn iddi gynnal ei harchwiliad mewnol, gan gadw cyswllt â'r heddlu ac â'r myfyrwyr dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.

18. Efallai y bydd angen cymryd camau dros dro wrth i archwiliad troseddol gael ei gynnal, ac efallai y bydd hynny'n golygu atal myfyrwyr dros dro o'r Brifysgol. Ceir manylion pellach yn Adran 12.2 Gweithredu Dros Dro.

19. Dau fath o archwiliadau sydd:

  • Archwiliad Categori 1
  • Archwiliad Categori 2