Annibyniaeth

15. Ni fydd gan yr aelodau hynny o staff a fydd yn chwarae rhan yn yr archwiliadau a'r penderfyniadau unrhyw gyswllt blaenorol â’r achos. Bydd y myfyrwyr dan gyhuddiad yn cael gwybod pwy fydd yr archwilwyr ac aelodau'r Panel, a byddant yn cael cyflwyno gwrthwynebiadau i'r Gofrestrfa Academaidd casework@aber.ac.uk ar sail gwrthdaro buddiannau. Bydd y gwrthwynebiad yn cael ei ystyried gan y Cofrestrydd Academaidd ac fe gaiff y myfyrwyr y cyfle i apelio yn erbyn y canlyniad.