Hysbysu

12. Caiff myfyrwyr, staff neu aelodau o'r cyhoedd hysbysu'r Brifysgol am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth.

13. Dylid anfon unrhyw adroddiad am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth i'r Brifysgol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo ddod i'r amlwg. Rhaid llenwi ffurflen hysbysu Categori 2, a'i chyflwyno i'r adran berthnasol (y cam archwilio Categori 1) neu i'r Gofrestrfa Academaidd casework@aber.ac.uk trwy gyflwyno’r ffurflen briodol.

14. Ni fydd myfyrwyr, staff nac aelodau o'r cyhoedd o dan anfantais nac yn cael eu hedliw oherwydd iddynt hysbysu'r Brifysgol yn ddidwyll am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth.