Rhagair

1. Drwy gydol y rhan hon o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, ystyr Prifysgol Aberystwyth yw ystyr y gair ‘Prifysgol’. Gallai'r ymadroddion 'Dirprwy Is-Ganghellor', 'Cofrestrydd Academaidd' a ‘Dirprwy Gofrestrydd’ gynnwys aelodau penodedig o'r staff sy'n gweithredu ar ran y swyddogion hynny.

2. Mae’r Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr yn berthnasol i holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unol â'r diffiniadau yn ei Rheolau a'i Rheoliadau.

3. Mae’r Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr yn berthnasol i gamymddwyn an-academaidd lle mae myfyrwyr yn wynebu honiadau o dorri Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol. Nid yw'n berthnasol i gwynion am ymddygiad aelodau o'r staff (a archwilir yn ôl trefn ddisgyblu ar wahân https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/disciplinary/), nac am wasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol (a archwilir drwy Drefn Gwyno'r Myfyrwyr https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/complaints/). Y mae hefyd ar wahân i reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol mewn perthynas â chamymddwyn academaidd, a’r Rheoliad Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

4. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i archwilio i unrhyw gyhuddiadau lle y mae myfyrwyr cofrestredig o dan amheuaeth o dorri safonau disgyblaeth, hyd yn oed os yw'r myfyrwyr wedi, ers hynny, dynnu'n ôl o'r Brifysgol dros dro neu am byth, neu wedi graddio. Byddai canlyniadau unrhyw achosion yn cael eu hystyried pe byddai cais yn cael ei ystyried am gael astudio yn y dyfodol.

5. Mae'r drefn ddisgyblu yn berthnasol i honiadau o gamymddwyn ar y campws neu oddi arno, gan gynnwys lleoliadau gwaith a gweithgareddau allanol eraill.

6. Ar y Brifysgol y bydd baich y profi, a phwysau'r tebygolrwydd fydd safon y profi hwnnw.

7. Ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol ac eithrio mewn achosion a ystyrir gan y Panel Disgyblu lle y gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn i'r myfyrwyr.

8. Bydd y Brifysgol yn ceisio dod â phob archwiliad i ben ymhen 60 diwrnod calendr ar ôl. Mewn achosion lle na ellir cwblhau’r archwiliadau ymhen yr amserlen honno, bydd y Brifysgol yn rhoi esboniad eglur cyfathrebu'n rheolaidd â'r unigolion a gyflwynodd yr adroddiad ac â'r myfyrwyr dan gyhuddiad (gan gynnwys unrhyw oedi oherwydd cyfnodau cau'r Brifysgol).