3.14 Geirfa Asesu

Geirfa Asesu

Adborth 

Mae egwyddorion adborth yn berthnasol i adborth ysgrifenedig a llafar fel ei gilydd a dylid eu cofnodi'n ffurfiol. Dylid trefnu cyfarfod yn rhan o'r rhaglen Tiwtor Personol i drafod adborth a datblygu cynlluniau gwella i fyfyrwyr unigol.

i. Adborth ar waith cwrs - LlAA 3.2 para 18. Sylwadau ar waith cwrs yn nodi perfformiad myfyriwr yn erbyn y meini prawf marcio. Dylai'r adborth gynnwys y cryfderau a'r gwendidau a nodwyd gan y marciwr o ran y meini prawf a datganiad clir ac ar wahân ynghylch sut y gall myfyriwr wella mewn asesiadau yn y dyfodol a sut y gallant ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd ar yr adborth.

ii. Adborth ar arholiadau ysgrifenedig - LlAA 3.2 para 19. Ni all myfyrwyr gadw eu papurau arholiad; fodd bynnag, dylent allu gofyn am adborth ac eglurhad am unrhyw agwedd ar yr adborth. Gall adborth fod yn gyffredinol i fodiwl neu gwestiwn arholiad a dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol efallai na fydd ar gael ar gyfer cwestiynau unigol.

 

Ail farcio - gweler LlAA 3.5 para 2 (ii)

Ail farcio yw'r broses lle clustnodir marciau am yr eildro i ddarn o waith gan ail arholwr mewnol. Gall y broses hon gael ei chynnal yn ddall (lle nad yw’r ail arholwr yn gweld marciau a sylwadau'r marciwr cyntaf) neu ddim yn ddall (lle gall yr ail arholwr weld marciau a sylwadau'r marciwr cyntaf ac ychwanegu eu marciau eu hunain).  Mae traethodau hir fel arfer yn cael eu hail-farcio.

 

Arholiad – mathau

Mae yna lawer o wahanol fathau o arholiadau, gan gynnwys arholiadau llafar, ysgrifenedig, arholiadau a welir o flaen llaw, llyfr agored, amlddewis, traethawd, ateb byr, seiliedig ar broblemau ac astudiaethau achos.  Nid yw'r rhestr isod yn gynhwysfawr.

i. Arholiad mewn Neuadd - arholiad wedi'i amseru a gynhelir mewn neuadd arholi. Bydd hyn yn cael ei amserlennu yn rhan o amserlen arholiadau'r semester. Efallai y bydd gan fyfyrwyr ag asesiad o anghenion astudio hawl i gael amser ychwanegol yn amodol ar argymhellion yr asesiad.

ii. Arholiad Ar-lein - arholiad wedi'i amseru sy'n cael ei gwblhau ar-lein a'i gyflwyno drwy Turnitin neu Blackboard, gan gynnwys arholiadau gyda chwestiynau amlddewis (mae cwestiynau amlddewis yn fath o asesiad lle bydd angen i fyfyrwyr ddewis yr ateb cywir o restr). Bydd yn ymddangos ar amserlen yr arholiadau ond ni chaiff ei gynnal o reidrwydd mewn neuadd arholi (gweler v isod). Efallai y bydd gan fyfyrwyr ag asesiad o anghenion astudio hawl i gael amser ychwanegol yn amodol ar argymhellion yr asesiad. Ni ellir caniatáu estyniadau ar gyfer arholiadau ar-lein.

iii. Arholiad Llafar/Viva - arholiad lle mae myfyriwr yn ateb ar lafar yn hytrach nag yn ysgrifenedig.

iv. Arholiad Llyfr Agored - arholiad wedi'i amseru lle caniateir i fyfyrwyr fynd â gwybodaeth benodol i mewn i neuadd arholi.

v. Arholiad ar Gyfrifiadur - arholiad wedi'i amseru a gynhelir ar gyfrifiadur mewn neuadd arholi. Bydd hyn yn cael ei amserlennu yn rhan o amserlen arholiadau'r semester. Efallai y bydd gan fyfyrwyr ag asesiad o anghenion astudio hawl i gael amser ychwanegol yn amodol ar argymhellion yr asesiad.

 

Arholiadau

Cynhelir arholiadau ysgrifenedig fel arfer ar ddiwedd cyfnod o ddysgu ac maent yn asesu a yw myfyrwyr wedi cyflawni'r amcanion dysgu arfaethedig. Gall yr arholiadau fod yn arholiadau 'a welir o flaen llaw', lle mae'r myfyrwyr yn gwybod beth yw’r cwestiwn (neu'r cwestiynau) y mae disgwyl iddynt ei ateb/eu hateb o flaen llaw, neu’n arholiadau ‘nas gwelwyd o flaen llaw’, lle mae'r cwestiynau ond yn cael eu datgelu ar ddiwrnod yr arholiad. Mewn arholiad 'llyfr agored', caniateir i fyfyriwr ddefnyddio detholiad o ddeunyddiau cyfeirio yn ystod yr asesiad. Gall y cwestiynau a ofynnir yn rhan o arholiad ysgrifenedig fod yn draethawd, yn ateb byr, yn broblem neu’n gwestiwn amlddewis. Cynhelir arholiadau ysgrifenedig fel rheol (ond nid bob amser) o dan amodau wedi'u hamseru.

 

Asesiad

Term cyffredinol ar gyfer prosesau sy'n mesur dysgu, sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr. Gall yr asesiad fod yn ddiagnostig, yn ffurfiannol neu’n grynodol. Diben asesu yw:

i. helpu myfyrwyr i berfformio hyd eithaf eu gallu drwy gyfrwng asesu sy'n gynhwysol ac sy’n gwella eu dysgu a'u rhagolygon o gael gwaith yn y dyfodol

ii. annog, ysgogi a chynnwys myfyrwyr mewn dysgu cynhwysfawr

iii. darparu mesur teg a dibynadwy o berfformiad, gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr yn erbyn y canlyniadau dysgu ac arddull yr addysgu yn eich pwnc

iv. helpu myfyrwyr i ddatblygu, drwy adborth amserol ac adeiladol, a

v. rhoi hyder i'n rhanddeiliaid fod myfyriwr wedi cyflawni'r safonau angenrheidiol gan roi sail ddibynadwy a chyson ar gyfer y dyfarniad.

 

Asesiad Amgen

Mae asesiad amgen yn helpu myfyrwyr i fodloni canlyniadau dysgu a meini prawf asesu gan ddefnyddio dull asesu gwahanol. Defnyddir y derminoleg hon yn unig ar gyfer asesiadau ar gyfer myfyrwyr ag anghenion cymorth ychwanegol ar gyngor y gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd.

 

Asesiad yn lle Arholiad

i. Asesiad diwedd modiwl a osodwyd yn ystod y cyfnod asesu ar ddiwedd y semester, fel rheol gyda sawl diwrnod i gwblhau'r asesiad. Ni fydd yn ymddangos ar amserlen yr arholiadau ac efallai y bydd gan fyfyrwyr fwy nag un asesiad diwedd modiwl i’w cwblhau yn ystod yr un cyfnod.

ii. Gellir gosod Asesiadau yn lle Arholiadau ‘a welir o flaen llaw’ cyn y cyfnod asesu fel y gellir eu trafod yn ystod diwedd cyfnod addysgu’r Semester.

iii. Ni chaniateir estyniadau ar gyfer Asesiadau yn lle Arholiadau.

iv. Amser Ychwanegol: fel arfer, nid oes gan fyfyrwyr ag Asesiad o Anghenion Astudio hawl i gael amser ychwanegol oherwydd yr amser estynedig sydd ar gael ar gyfer y math hwn o asesiad.  Yn ddiofyn, dylid cynnwys amser ychwanegol mewn Asesiadau yn lle Arholiadau i sicrhau bod yr asesiadau'n gynhwysol.  Mewn achosion eithriadol, gall myfyrwyr sydd ag asesiad o anghenion astudio drafod yr angen am addasiadau rhesymol pellach gyda Chymorth i Fyfyrwyr, a fydd yn eu tro yn cysylltu â'r Gyfadran os ydynt yn credu bod yr achos yn un grymus. Rhaid nodi hyn cyn dechrau'r cyfnod asesu a bydd yn cael ei ystyried gan y Deon Cyswllt, ar y cyd â Chadeirydd perthnasol y Bwrdd Arholi a Chymorth i Fyfyrwyr.

 

Asesiadau/Arholiadau Ymarferol

Bydd trefniadau ar gyfer asesiadau ac arholiadau ymarferol yn cael eu nodi gan yr adran berthnasol.

 

Asesiadau Crynodol

Math o asesiad a ddefnyddir i dystio bod myfyrwyr wedi cyflawni lefel briodol o berfformiad. Fe'i defnyddir i nodi i ba raddau y mae myfyriwr wedi bodloni'r meini prawf asesu a ddefnyddir i farnu amcanion dysgu arfaethedig modiwl neu raglen. Mae'r marciau o asesiadau crynodol yn cyfrannu at farc terfynol y modiwl.

 

Asesiadau Ffurfiannol

Tasg asesu gyda diben datblygiadol. Fe'i cynlluniwyd i helpu myfyrwyr i ddysgu'n fwy effeithiol trwy roi adborth iddynt am eu perfformiad ac ar sut y gellir ei wella neu ei gynnal (neu'r ddau).

 

Cwestiynau amlddewis

Mae cwestiynau amlddewis yn fath o asesiad lle gofynnir i fyfyrwyr ddewis yr ateb (neu’r atebion) gorau posibl allan o ddewisiadau ar restr. Mae arholiadau amlddewis wedi'u cynllunio i brofi gwybodaeth ac fel arfer yn cael eu cynnal gan ddefnyddio Blackboard.

 

Cyflwyniadau

Efallai y bydd angen i fyfyrwyr roi cyflwyniad llafar, gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu ar Teams, neu drwy gyflwyno sleidiau a naratif. Dylai cyflwyniadau gael eu marcio'n annibynnol gan ddau aelod o staff, dylai’r marcwyr gytuno ar y marc a darparu adborth clir i’r myfyriwr.

 

Cyfweliad i bennu Dilysrwydd y Gwaith - gweler LlAA Rheoliad B ar YAA para 10

Os oes ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, er enghraifft, os amheuir bod y gwaith wedi'i gael gan fanc traethodau neu wedi'i gynhyrchu trwy feddalwedd DA, gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi benderfynu cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith. Diben y cyfweliad yw profi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd ac i roi cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef/gwaith hi yw'r gwaith dan sylw, cyn ymchwiliad gan banel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

 

Cymedroli - LlAA 3.5 paragraff 2 (i)

Cymedroli gwaith a asesir yn fewnol yw'r broses o sicrhau bod meini prawf asesu'n cael eu cymhwyso'n gyson gan arholwyr, bod myfyrwyr yn cael eu trin yn deg drwy'r broses asesu, a bod dealltwriaeth gyffredinol o'r safonau academaidd y disgwylir i fyfyrwyr eu cyrraedd. Cymedroli yw'r broses o sicrhau bod y marciau a ddyfernir ar gyfer tasg asesu mewn modiwl o fewn terfynau rhesymol, yng nghyd-destun y meini prawf yr asesir gwaith y myfyrwyr yn eu herbyn. Noder y dylai meini prawf asesu ar wahân fod ar waith ar gyfer pob elfen asesu wahanol o fewn modiwl. Gellir cyfyngu cymedroli i samplu ac ail farcio nifer gynrychioliadol o ddarnau o waith asesedig ar draws yr ystod marciau gan garfan o fyfyrwyr; neu gall gynnwys ail farcio gwaith y garfan gyfan (marcio dwbl); neu gall gynnwys graddio marciau ar gyfer elfen asesu.

 

Gwaith cwrs

Aseiniadau a osodir yn ystod y modiwl, i asesu un neu fwy o'r ganlyniadau dysgu, er enghraifft (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr):

i. aseiniad ysgrifenedig, gan gynnwys traethawd

ii. adroddiad

iii. traethawd hir (darn estynedig o waith ysgrifenedig, fel rheol y gwaith ysgrifennu ar gyfer prosiect y flwyddyn olaf)

iv. portffolio (casgliad o waith sy'n ymwneud â phwnc neu thema benodol, sydd wedi'i lunio dros gyfnod o amser)

v. cynnyrch y prosiect (cynnyrch o waith y prosiect, yn aml o natur ymarferol, ac eithrio traethawd hir neu adroddiad ysgrifenedig), ac

vi. ymarfer a osodir (cwestiynau neu dasgau a gynlluniwyd i asesu sut mae gwybodaeth yn cael ei chymhwyso, a sgiliau dadansoddi, datrys problemau neu werthuso). Mae'n cynnwys profion (ysgrifenedig neu ar gyfrifiadur) o wybodaeth neu waith dehongli nad ydynt yn cael eu cynnal o dan amodau arholiad.

 

Prawf

Cwestiwn neu gyfres o gwestiynau sy'n ymwneud â maes astudio penodol, a gynhelir mewn ffordd debyg i arholiad ffurfiol ond a gedwir yn y slot arferol ar yr amserlen.

 

Profion Dosbarth

Asesiad parhaus, sydd fel rheol yn digwydd o fewn y cyfnod addysgu yn ystod pob semester.

 

Traethawd Hir/Adroddiad y Prosiect Ymchwil

Darn sylweddol o waith ysgrifennu sy’n deillio o ymchwil y mae myfyriwr wedi'i wneud. Traethodau hir yw ffrwyth gwaith annibynnol myfyriwr, a gwblheir dan arweiniad arolygwr. Gall gwahanol feysydd pwnc ddilyn confensiynau gwahanol o ran ysgrifennu traethodau hir.

 

 

08/2024