3.9 Estyniad Gwaith Cwrs

1. Dim ond mewn achos lle mae amgylchiadau meddygol/personol clir (a ategir gan dystiolaeth ddogfennol annibynnol) sydd wedi effeithio ar allu myfyriwr i gyflwyno gwaith cwrs mewn pryd y gellir caniatáu estyniad.

2. Os caniateir estyniad, fe fydd yn gyfnod rhwng un a phedwar diwrnod ar ddeg calendar, er cyfrifoldebau’r Brifysgol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Serch hynny, mae’n bwysig nodi nad yw’n bosibl caniatáu estyniad a fydd yn golygu bod gwaith yn cael ei gyflwyno ar ôl diwrnod olaf cyfnod yr arholiadau yn y semester dan sylw. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu fod cyfnod hiraf posibl yr estyniad yn llai na phedwar diwrnod ar ddeg calendr. Os na fydd hyn yn ddigon, cynghorir myfyrwyr i ddilyn y drefn Amgylchiadau Arbennig sydd ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193260-cy.html

3. Os nad oes modd cyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r ffurflen, rhaid rhoi rhesymau clir yn esbonio pam na ellir wneud hynny a rhoi amcan i’r Adran pryd y caiff y dystiolaeth ei darparu. Rhaid i’r dystiolaeth gael ei chyflwyno man pellaf erbyn diwrnod olaf cyfnod yr arholiadau yn y semester dan sylw. Mae’n bwysig nodi, os nad oes tystiolaeth ategol yn cael ei chyflwyno sy’n dangos yn glir pam bod angen estyniad, caiff unrhyw estyniad a roddwyd ei ddiddymu a rhoddir marc o sero am yr asesiad yn y Bwrdd Arholi dilynol.

4. Gall y Swyddog Estyniadau roi estyniad heb dystiolaeth ategol, os yw’r myfyriwr wedi egluro’n glir pam nad oedd modd iddynt gyflwyno tystiolaeth.

5. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr beth yw’r penderfyniad ynglŷn â’r cais trwy ebost o fewn 2 ddiwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais.

6. Ni fydd ceisiadau ôl-weithredol am estyniad yn cael eu hystyried. Mewn achos lle methir â chadw at y dyddiad cau, cynghorir myfyrwyr i ddilyn y drefn Amgylchiadau Arbennig (gweler uchod).

7. Mae rhai elfennau a waith i’w asesu na ellir o bosibl caniatáu estyniad ar eu cyfer, er enghraifft, cyflwyniad grŵp neu berfformiad grŵp a asesir. Os oes ansicrwydd a ellir caniatáu estyniad ai peidio dylid holi’r Adran cyn cyflwyno’r ffurflen Estyniad i Ddyddiad Cau Gwaith Cwrs.

Ceisio am estyniad i ddyddiad cau cyflwyno gwaith cwrs

8. Dim ond mewn achos lle mae amgylchiadau meddygol/personol clir (a ategir gan dystiolaeth ddogfennol annibynnol) sydd wedi effeithio ar allu myfyriwr i gyflwyno gwaith cwrs mewn pryd y gellir caniatáu estyniad.

9. Mae tystiolaeth ddogfennol dderbyniol yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

(i) tystysgrif feddygol/iechyd ag arni ddyddiad perthnasol i’r asesiad

(ii) tystysgrif marwolaeth

(iii) llythyr cefnogol/eglurhaol gan un o wasanaethau cymorth y Brifysgol, neu unrhyw sefydliad cymorth allanol addas. I weld manylion llawn y mathau o lythyrau y gellir eu darparu gan y Brifysgol, ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=2490

(iv) os yw gallu myfyriwr i gyflwyno gwaith cwrs mewn pryd wedi ei amharu gan amgylchiadau yn ymwneud â thrydydd person, dylid cyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol sy’n esbonio’r effaith a gafodd hyn ar y myfyriwr. Os nad yw hyn yn bosibl, gall myfyrwyr gyflwyno tystiolaeth yn ymwneud â thrydydd parti os ydynt yn cael caniatâd ysgrifenedig ganddynt e.e. rhiant, brawd/chwaer.

(v) Llythyr Ymgynghoriad Anhwylderau Cyffredin.

10. Ni fydd tystysgrif feddygol/iechyd nad yw’n berthnasol i ddyddiad yr asesiad yn cael ei derbyn.

11. Nid yw’r canlynol yn rhesymau dilys ar gyfer gwneud cais am estyniad:

(i) trafferthion gyda chyfrifiadur neu beiriannau argraffu

(ii) methu â chael gafael ar adnoddau

(iii) salwch lle nad oes tystiolaeth feddygol ar gael

(iv) mwy nag un dyddiad cau ar yr un dydd

(v) methu ateb y cwestiwn neu cael trafferth gyda’r deunydd

(vi) gemau argyfwng, cynyrchiadau perfformio, teithiau astudio adrannol

(vii) gweithgaredd an-academaidd (e.e. hyfforddiant milwrol gwirfoddol).

12. Dim ond Swyddogion Estyniadau yr adrannau sy’n gallu caniatáu estyniad, a hynny ddim ond os oes Ffurflen Gais Estyniad i Ddyddiad Cau Gwaith Cwrs wedi’i llenwi a’i chyflwyno.

13. Mae’r Ffurflen Gais am Estyniad i Ddyddiad Cau Gwaith Cwrs i’w gweld fan hyn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/. Dylid cyflwyno'r ffurflen gais a'r dystiolaeth i'r adran academaidd o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau. Mae’r manylion cyswllt adrannol i’w cael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/officers/. Bydd ceisiadau a dderbynnir lai na thri diwrnod cyn y dyddiad cau yn cael eu hystyried gan Fwrdd Amgylchiadau Arbennig yr Adran/Gyfadran, a chynghorir myfyrwyr i ddilyn y drefn Amgylchiadau Arbennig (https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193260-cy.html). Yr unig eithriad i’r amod hwn fydd achosion lle mae’n amlwg o’r dystiolaeth sy’n cael ei darparu fod yr amgylchiadau meddygol/personol wedi codi o fewn y cyfnod hwn o dri diwrnod.

14. Bydd y Swyddog Estyniadau yn ystyried y cais, ac yn rhoi gwybod am y canlyniad trwy ebost o fewn dau ddiwrnod gwaith i dderbyn y cais.

15. Ni fydd ceisiadau ôl-weithredol am estyniad yn cael eu hystyried. Mewn achos lle methir â chadw at y dyddiad cau, cynghorir myfyrwyr i ddilyn y drefn Amgylchiadau Arbennig (gweler uchod).

16. Er mwyn siarad â’r Swyddog Estyniadau yn uniongyrchol, dylai myfyrwyr ebostio’r Adran i drefnu amser i gwrdd.

Y meini prawf wrth benderfynu caniatáu

17. Wrth benderfynu caniatáu estyniad neu beidio, bydd y Swyddog Estyniadau yn ystyried y cwestiynau canlynol:

A yw’r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd i ategu’r cais am estyniad yn ddigonol /foddhaol?

18. Os mai ‘na’ yw’r ateb i’r cwestiwn hwn, ni chaniateir estyniad.

19. Efallai y bydd y Swyddog Estyniadau yn gofyn am ragor o dystiolaeth i ategu’r cais am estyniad; disgwylir i’r dystiolaeth gael ei chyflwyno cyn dyddiad cau gwreiddiol y gwaith cwrs.

20. Os nad oes modd i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r ffurflen, rhaid rhoi rhesymau clir am hynny a rhoi amcan i’r Adran hefyd pryd y caiff y dystiolaeth ei chyflwyno. Os bydd ar gael, dylai’r dystiolaeth gael ei chyflwyno erbyn diwrnod olaf cyfnod yr arholiadau yn y semester dan sylw. Gall peidio â chyflwyno tystiolaeth ategol erbyn y dyddiad hwn arwain at ddiddymu’r estyniad a rhoddir marc o sero am yr asesiad yn y Bwrdd Arholi dilynol.

Gall y Swyddog Estyniadau roi estyniad heb dystiolaeth ategol, os yw’r myfyriwr wedi egluro’n glir pam nad oedd modd iddynt gyflwyno tystiolaeth.

21. Os mai ‘do’ yw’r ateb i’r cwestiwn hwn, caniateir estyniad. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar yr un adeg o’r dydd ag y byddent wedi gwneud pe na chaniatawyd estyniad. Er enghraifft, os mai 3.00pm ddydd Mercher 3 Tachwedd oedd amser y dyddiad cau gwreiddiol a’ch bod yn cael wythnos o estyniad, bydd angen cyflwyno erbyn yr amser estynedig, sef 3.00pm ddydd Mercher 10 Tachwedd.

Beth yw amseru/hyd/maint yr amgylchiadau meddygol/personol yng nghyswllt y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r gwaith cwrs?

22. Bydd y Swyddog Estyniadau yn ystyried a yw’r amgylchiadau a ddisgrifiwyd wedi effeithio ar eich gallu i gyflwyno eich gwaith cwrs mewn pryd.

23. Amseru: Os yw’r amgylchiadau’n codi ychydig cyn y dyddiad cau, a chymryd yn ganiataol yr ystyrir bod yr amgylchiadau’n ddilys ac nad oedd modd eu hosgoi, fe ystyrir caniatáu estyniad byr. Ond, os bu myfyriwr yn sâl am un diwrnod dair wythnos cyn y dyddiad cau, ni chaniateir estyniad.

24. Hyd: Mewn achos o salwch am wythnos, yn dechrau tair wythnos cyn y dyddiad cau, ystyrir caniatáu estyniad o rai dyddiau. Ond, os yw myfyriwr yn sâl am gyfnod hwy na hynny, yn dechrau tair wythnos cyn y dyddiad cau, ystyrir caniatáu estyniad hirach.

25. Maint: Yn aml mae hyn yn anodd ei asesu gan y gall yr un math o amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd; dylid defnyddio synnwyr cyffredin.

26. Yr egwyddor gyffredinol y bydd y Swyddog Estyniadau yn ei dilyn yw ceisio sicrhau bod cyfnod yr estyniad yn cyfateb i’r cyfnod amser a gollwyd yn gweithio ar yr aseiniad ei hun; efallai na fydd hyn o angenrheidrwydd yn cyfateb i’r cyfnod y bu myfyriwr yn sâl neu’n methu â bod yn y Brifysgol (h.y. gallai fod yn llai na hynny).

27. Caniateir estyniad am gyfnod rhwng un a phedwar diwrnod ar ddeg calendr, er cyfrifoldebau’r Brifysgol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Wrth nodi dyddiau calendr, mae hyn yn golygu bod penwythnosau a chyfnodau gwyliau yn cael eu cynnwys, felly gallai fod angen i fyfyriwr gyflwyno gwaith ar ddydd Sadwrn neu Ŵyl Banc neu yn ystod un o gyfnodau gwyliau’r Brifysgol. Bydd y Swyddog Estyniadau yn rhoi ystyriaeth i’r math o waith a osodwyd i’w gyflwyno wrth osod y dyddiad cau diwygiedig a bydd yn ystyried a yw’n ymarferol ai peidio i’r myfyriwr gyflwyno gwaith y tu allan i oriau arferol swyddfa.

28. Os yw’r Swyddog Estyniadau yn ystyried bod yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rhai mor llym eu bod yn anymarferol cwblhau’r gwaith o fewn i’r cyfnod hiraf y gellir ei ganiatáu, rhoddir cyfarwyddyd i ddilyn y drefn Amgylchiadau Arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid llenwi’r ffurflen Amgylchiadau Arbennig a’i chyflwyno gyda’r dystiolaeth ddogfennol ategol wreiddiol i’w hystyried gan Fwrdd Amgylchiadau Arbennig yr Adran/Cyfadran.

29. Wrth ddod i benderfyniad, bydd swyddogion estyniadau yn ystyried ymrwymiadau astudio eraill y myfyriwr, a’r amgylchiadau meddygol/personol a gyflwynwyd, ac a fyddai’n rhesymol disgwyl i’r myfyriwr fod wedi cwblhau’r aseiniad erbyn y dyddiad cau gwreiddiol. Os BYDDAI, ni ddylid caniatáu estyniad. Os NA, yna dylid caniatáu estyniad.

 

Diweddarwyd Adran 3.9: Medi 2022