3.5 Gweithdrefnau Marcio a Safoni
1. Mae pob arholiad yn ddarostyngedig i weithdrefn Marcio Dienw’r Brifysgol, a bydd ymgeiswyr yn aros yn ddienw hyd nes y cynhelir y Bwrdd Arholi Cyfadrannol /Adrannol. Bryd hynny, caiff argymhellion Paneli Amgylchiadau Arbennig Athrofaol/Adrannol eu hystyried hefyd er mwyn rhoi sylw i amgylchiadau meddygol neu amgylchiadau arbennig eraill y rhoddodd myfyrwyr wybod amdanynt o dan weithdrefn Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193260-cy.html. Mae polisi tebyg yn berthnasol i waith cwrs ysgrifenedig, yn amodol ar eithriadau a gymeradwyir gan yr athrofeydd lle nad yw’n ymarferol nac yn ddymunol i’r myfyrwyr aros yn ddienw.
2. Mae Cod Ansawdd y DU (Pennod B6) yn nodi bod disgwyl i sefydliadau addysg uwch roi ar waith systemau tryloyw a theg ar gyfer marcio a safoni. Mae angen i’r Brifysgol fod yn siŵr fod prosesau safoni mewnol cadarn, effeithiol a chyson ar waith ym mhob adran ac ym mhob athrofa.
(i) Safoni mewnol ar waith a asesir yw’r broses o sicrhau bod meini prawf asesu’n cael eu gweithredu’n gyson gan arholwyr, bod myfyrwyr yn cael eu trin yn deg drwy gydol y broses asesu, a bod cyd-ddealltwriaeth ynghylch y safonau academaidd y disgwylir i fyfyrwyr eu cyflawni. Safoni yw’r broses o sicrhau bod y marciau a ddyfernir am dasg asesu mewn modiwl o fewn terfynau rhesymol, yng nghyd-destun y meini prawf y caiff gwaith myfyrwyr ei asesu yn eu herbyn. Sylwer y dylai fod meini prawf asesu gwahanol ar gyfer pob elfen asesu mewn modiwl. Gellir cyfyngu safoni i samplo ac ailfarcio nifer cynrychioliadol o ddarnau asesu sy’n rhychwantu’r ystod farcio ymhlith carfan o fyfyrwyr; neu fe all olygu ailfarcio gwaith y garfan gyfan (marcio dwbl); neu fe all olygu codi neu ostwng marciau yn gymesur ar gyfer elfen o’r asesiad.
(ii) Ailfarcio yw pennu marciau am yr eildro i ddarn o waith gan ail arholwr mewnol. Gellir cynnal y broses hon naill ai yn ddall (sef pan nad yw'r ail arholwr yn cael gweld marciau a sylwadau’r marciwr cyntaf) neu heb fod yn ddall (sef pan fo’r ail arholwr yn gallu gweld marciau a sylwadau’r marciwr cyntaf, ac yn ychwanegu ei rai ei hunan).
(iii) Gellir codi neu ostwng marc yn gymesur (scaling) mewn unrhyw elfen asesu, nid dim ond marc arholiad. Bydd amgylchiadau pan fo methiannau yn y broses asesu’n golygu bod yn rhaid codi neu ostwng marciau yn gymesur, er enghraifft gwall argraffu ar bapur arholiad, tarfu ar arholiad neu, mewn labordy gwyddoniaeth, offer ddim yn gweithio nad oedd yn amlwg pan wnaed yr arbrawf. Mae amgylchiadau o’r fath yn brin iawn ond gellir addasu’r marciau os yw hyn yn digwydd.
Gall codi neu ostwng marciau yn gymesur hefyd fod yn briodol pan fo elfen asesu benodol wedi rhoi i’r dosbarth cyfan farciau sydd ar lefel wahanol i’w marciau mewn elfennau eraill. Fel arfer, mae hyn yn digwydd mewn arholiad, yn enwedig mewn pynciau rhifiadol, sy’n llawer anos neu’n haws nag a fwriadwyd. Fel arfer, caiff hyn ei ganfod oherwydd bod y marc cymedrig cyffredinol yn wahanol iawn i’r marciau mewn arholiadau eraill. Weithiau, os bydd yn rhaid cyrraedd trothwy o ran y wybodaeth neu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ennill marc rhesymol, bydd hyn yn cael effaith fwy anffafriol ar farciau’r ymgeiswyr gwannaf.
Mewn rhai achosion, mae’r un modiwl yn peri pryder bob blwyddyn mewn o leiaf ran o’r elfen asesu. Mewn achosion o’r fath dylid diwygio dulliau asesu’r modiwl neu ostwng pwysiad yr eitemau sy’n peri trafferthion.
Ni ddisgwylir y caiff marciau eu codi neu eu gostwng yn gymesur mewn achosion pan fo modiwl yn rhoi cyfraddau methu uchel neu farciau anarferol o isel.
(iv) Codi a gostwng syml drwy ychwanegu: ychwanegir canran dybiannol at bob marc. Mantais hyn yw bod yr un cyfle i holl ddosbarthiadau’r myfyrwyr, yn y modiwl ac yn gyffredinol, gael eu newid gan fod yr un rhif yn cael ei ychwanegu i bawb. Yr anfantais yw bod y myfyrwyr gwannaf, ar draws rhychwant cyfan y marciau, yn elwa mwy o ran canran na myfyrwyr cryfach os codir y marc; ond yn dioddef mwy os caiff ei ostwng.
(v) Lluosi yn ôl ffactor: Caiff pob marc ei luosi gan yr un ffactor. Mae gan fyfyrwyr da well cyfle o newid dosbarth oherwydd byddant yn colli neu’n ennill mwy o farciau. Mae hyn yn berthnasol o fewn y modiwl ac yn y rhychwant cyfan.
(vi) Rhyngosodiad llinellol bob yn ddarn: Mae’r marc a geir, yn yr achos hwn mewn arholiad modiwl, wedi’i blotio ar gyfer pob myfyriwr yn erbyn eu marc cyfartalog yn yr holl arholiadau eraill.
Cafodd yr enghraifft benodol hon ei chodi yn gymesur drwy godi marciau ar bwyntiau sefydlog o 0 i 0, 25 i 35, 65 i 70 a 100 i 100 a defnyddio rhyngosodiadau llinellol (linear interpolation) rhwng y pwyntiau sefydlog. Y nod yw sicrhau bod y pwyntiau wedi’u dosbarthu gystal ag y bo modd mewn perthynas â’r llinell groeslinol.
3. Rhaid i’r holl waith sydd wedi’i gyflwyno i’w asesu er mwyn ennill credyd y Brifysgol ar bob lefel fynd drwy broses safoni mewnol sy’n gyson â pholisi safoni’r adran neu’r athrofa. Mae hyn yn berthnasol i bob dull asesu a phob lefel yn yr holl leoliadau lle cyflwynir y modiwl. Yr unig eithriad i hyn yw pan fo’r dulliau asesu’n awtomataidd (h.y. mae’r atebion yn cael eu darllen gan beiriant neu’n optegol), neu mewn asesiadau meintiol lle rhoddir atebion enghreifftiol i’r marciwr. Pan nad yw’r asesu ar ffurf ysgrifenedig, dylid gwneud pob ymdrech i ddefnyddio dull safoni priodol. Rhaid i asesiadau sy’n seiliedig ar ymarfer hefyd fynd drwy’r broses safoni mewnol briodol.
4. Dylid cyfleu’n glir i fyfyrwyr trwy lawlyfrau’r cynllun a’r modiwl sut y mae marciau ar gyfer gwaith a asesir yn cael eu dyrannu, a dylid rhoi meini prawf asesu clir iddynt.
5. Rhaid i dystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod y broses safoni mewnol wedi digwydd, gan gynnwys tystiolaeth o unrhyw farciau sydd wedi’u codi/gostwng yn gymesur a’r rhesymeg dros ddewis unrhyw ddull penodol, fod ar gael i’w harchwilio gan arholwyr allanol (gweler isod) ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.
6. Mae’r gofyniad i sefydlu gweithdrefnau safoni mewnol cadarn yr un mor berthnasol i gynlluniau cydweithredol sy’n arwain at ddyfarniadau Prifysgol Aberystwyth. Rhaid i drefniadau ar gyfer safoni mewnol gynnwys o leiaf un aelod o staff y Brifysgol, a rhaid cytuno ar y trefniadau gyda’r sefydliad partner a’u nodi’n glir yn y Llawlyfr Gweithredu.
7. Dylid marcio gwaith cwrs yn unol ag amserlen briodol er mwyn i fyfyrwyr gael eu marciau dros dro ac adborth ar yr elfennau asesu mewn da bryd. Mae marciau yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau gan y Byrddau Arholi ar ddiwedd pob semester.
8. Ni ddylai’r marciau ar gyfer elfen o fodiwl gael eu huwchraddio’n awtomatig os cwympant ar ‘9’. Dylai marc terfynol y modiwl sefyll, heb uwchraddio’n awtomatig y marciau hynny sy’n cwympo ar ‘9’.
9. Dylid cwblhau’r broses safoni mewnol bob amser cyn cyflwyno marciau i’r Byrddau Arholi. Rhaid cofnodi’r marciau terfynol wedi’u safoni ar AStRA erbyn y terfyn amser a nodwyd gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion cyn pob un o Fyrddau Arholi’r Senedd.
10. Ni ddylid rhoi marciau modiwl i fyfyrwyr hyd nes y bydd y marciau hynny wedi cael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi. Gellir dychwelyd gwaith wedi’i asesu i’r myfyrwyr cyn y Bwrdd Arholi os yw’r gwaith hwnnw wedi bod drwy’r broses marcio mewnol, cyhyd ag y bo’r myfyrwyr yn cael eu hysbysu’n glir fod y marc neu’r radd a roddwyd yn amodol ar gadarnhad.
11. Dylai’r holl asesiadau a gwblhawyd gael eu marcio’n annibynnol yn gyntaf gan aelodau o staff sydd â phrofiad priodol. Dylid dangos tystiolaeth o’r gwaith marcio ac amlinelliad o sut y dyrannwyd y marciau ar bob asesiad.
12. O ran ffurfiau asesu nad ydynt yn ysgrifenedig, e.e. arholiadau llafar, cyflwyniadau, neu berfformiadau, dylai o leiaf ddau arholwr mewnol fel arfer wneud y gwaith marcio cyntaf ar yr asesiad a chytuno ar y marc terfynol ar gyfer pob darn o waith. Dylai’r arholwr allanol fedru gweld y sylwadau y cytunodd yr aseswyr arnynt, a dylid rhoi’r sylwadau hyn yn adborth i’r myfyriwr.
13. Os yw proses safoni mewnol y modiwl yn seiliedig ar ailfarcio, dylai’r holl asesiadau gael eu hailfarcio.
14. O ran modiwlau sy’n defnyddio dull samplu i safoni, dylai safonwr mewnol y modiwl (sef aelod o’r staff academaidd heblaw’r marciwr neu’r marcwyr cyntaf) naill ai adolygu’r marcio neu ailfarcio sampl o asesiadau wedi’u cwblhau. Dylai samplau:
(i) fod yn gynrychioliadol o bob lleoliad lle cyflwynir y modiwl, a phob dull astudio (sylwer y bwriedir y ddarpariaeth hon ar gyfer modiwlau lle mae carfan o fyfyrwyr yn astudio mewn lleoliad gwahanol, neu drwy ddull astudio gwahanol, yn hytrach nag ar gyfer myfyrwyr unigol sy’n ail-wneud modiwlau yn fewnol neu’n allanol yn rhan amser)
(ii) bod wedi’u tynnu o ystod lawn y marciau, ac adlewyrchu’r marciau hynny, gan gynnwys achosion ffiniol a graddau methu
(iii) bod yn briodol eu maint mewn perthynas â maint y garfan (o leiaf 10% ac o leiaf 5 ohonynt)
(iv) cynnwys pob un o elfennau asesu’r modiwl.
Os oes tystiolaeth glir o’r sampl a ddewiswyd bod anghysondebau difrifol yn y marciau sy’n cael eu dyfarnu, dylai Cydlynydd y Cynllun neu’r Modiwl (neu’r sawl sy’n cyfateb) drefnu bod yr holl aseiniadau y mae hyn yn effeithio arnynt (naill ai mewn band graddau penodedig, neu yng ngharfan gyfan y myfyrwyr) yn cael eu trafod gan y marcwyr i benderfynu sut i symud ymlaen neu sut i drefnu iddynt gael eu hailfarcio, fel y bo’n briodol.
15. Er nad yw’r Brifysgol yn mynnu y dylid ailfarcio’r holl draethodau hir (neu gyfwerth) yn ddall, ystyrir bod hyn yn arfer da.
16. Rhaid i bolisïau safoni mewnol nodi’n glir y weithdrefn sydd i’w dilyn er mwyn datrys unrhyw anghydweld rhwng y marcwyr cyntaf a’r ail farcwyr a phennu marc terfynol i ddarn o waith.
17. Os yw proses safoni mewnol y modiwl yn seiliedig ar godi a gostwng marciau yn gymesur, dylai’r marciwr mewnol a’r safonwr gofnodi, o leiaf, y wybodaeth ganlynol i’w chymeradwyo yn y Bwrdd Arholi Cyfadrannol/Adrannol:
(i) Y dull a ddewiswyd i godi neu ostwng marciau yn gymesur
(ii) Y rheswm dros godi neu ostwng y marciau
(iii) Y dystiolaeth a ystyriwyd wrth wneud y penderfyniad
(iv) Y cyfiawnhad dros godi neu ostwng marciau yn gymesur
(v) Y berthynas rhwng y marciau gwreiddiol a’r marciau arfaethedig wedi’u codi/gostwng
(vi) Esboniad o ganlyniadau codi neu ostwng y marciau yn gymesur
(vii) Esboniad o sut y bydd y mater hwn yn cael ei gywiro yn y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd angen codi/gostwng marciau yn gymesur eto.
18. Dylai myfyrwyr gael un marc wedi’i gadarnhau ar gyfer eu gwaith a aseswyd, fel y cytunwyd gan yr arholwyr mewnol, a rhaid i’r adborth a roddir ar eu perfformiad yn y gwaith a aseswyd fod yn gyson â’r marc terfynol a bennwyd.
19. Pan ddefnyddir dull samplu wrth safoni’n fewnol, gall y sampl o waith sydd wedi’i safoni fod yr un sampl â’r un a anfonir at yr arholwr allanol. Os nad yw’r sampl a anfonir at yr arholwr allanol yn cynnwys dim gwaith sydd wedi’i samplu drwy’r broses safoni mewnol (er enghraifft, pan ddewisir sampl ar hap o bob rhan o’r bandiau marciau), dylid ei hanfon gyda gwybodaeth ychwanegol am y broses safoni mewnol a ddilynwyd. Sylwer mai gwaith arholwr allanol yw cadarnhau bod y marcio a’r safoni mewnol wedi’u cynnal yn briodol, nid marcio gwaith. O’r herwydd, mae’n hanfodol fod arholwyr allanol yn gallu gweld tystiolaeth fod y broses safoni mewnol yn gweithio’n foddhaol. I gael disgrifiad llawn o swyddogaeth Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gweler pennod 5 y Cod Ansawdd.