3.1 Cynlluniau Astudio a Ddysgir
1. Mae’r adran hon yn crynhoi polisi’r Brifysgol ar gynlluniau astudio drwy gwrs. Dylid ei darllen ar y cyd â’r Rheoliadau ynghylch Dyfarniadau Cychwynnol ac Uwchraddedig, a Chynllun Cronni a Throsglwyddo Credydau’r Brifysgol.
2. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn caniatáu cyfrif dwbl wrth ddyfarnu cymwysterau ar sail credydau a gwblhawyd. Yr unig eithriadau a ganiateir yw graddau deuol neu raddau ar y cyd yn seiliedig ar drefniadau cydweithredol ffurfiol. Ym mhob achos arall, bydd ceisiadau i drosglwyddo credyd yn cael eu hystyried yn unol â thelerau’r Cynllun Cronni a Throsglwyddo Credydau (gweler Adran 10 y Llawlyfr).
3. Rhaid i bob blwyddyn mewn cwrs gradd israddedig llawn amser gynnwys modiwlau sy’n werth cyfanswm o 120 o gredydau. Er mai 120 o gredydau fydd y llwyth arferol i fyfyrwyr llawn amser, rhaid i bob myfyriwr llawn amser gofrestru am isafswm o 90 o gredydau i sicrhau statws llawn amser.
4. Bydd myfyrwyr uwchraddedig llawn amser yn astudio am un flwyddyn fel a ganlyn:
- Tystysgrif UR: 60 credyd
- Diploma UR: 120 credyd
- Gradd Meistr: 180 credyd
5. Lle y bo’n bosib bydd modiwlau’n rai dirddwys (yn cael eu dysgu a’u hasesu dros un semester). Caniateir modiwlau lled-ddwys (a ddysgir dros y ddau semester a’u harholi yn yr ail semester) cyhyd ag y bo rhesymau academaidd clir, a chyhyd ag y bo sylw dyladwy wedi’i roi i’r canlyniadau o ran rhoi adborth i fyfyrwyr, yn amodol ar gymeradwyaeth yr athrofa berthnasol. Fel arfer bydd myfyrwyr llawn amser yn dilyn modiwlau sy’n cyfateb i 60 credyd ym mhob semester. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu hyblygrwydd a hwyluso dewis y myfyrwyr, gall Cydlynwyr Cynlluniau Gradd ganiatáu uchafswm o 70 ac isafswm o 50 credyd ym mhob semester. Wrth gyfrif rhaniad y credydau, caiff modiwlau lled-ddwys eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddau semester (e.e. mae modiwl lled-ddwys 30 credyd yn cyfrif am 15 credyd ym mhob semester). Mewn achosion eithriadol gall Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig neu Uwchraddedig y Gyfadran gymeradwyo rhaniad credydau sy’n fwy na 50:70 neu 70:50 os cyflwynir achos sy’n dangos bod y llwyth gwaith yn gytbwys er gwaethaf yr anghydbwysedd o ran credydau neu os bydd amgylchiadau eraill yn golygu bod angen gwneud hyn. Dylai myfyrwyr gadarnhau eu bod yn derbyn yr anghydbwysedd.
6. Mewn cynlluniau israddedig ar y campws, bydd modiwlau fel arfer mewn lluosrifau o 10 credyd. Mewn cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs ar y campws, bydd modiwlau fel arfer mewn lluosrifau o 20 credyd. Gall dysgu o bell a darpariaeth oddi ar y campws fod yn wahanol.
7. Beth bynnag fo’r dull cyflwyno, bydd i bob modiwl 10 credyd lwyth gwaith tybiannol o tua 100 awr, gan gynnwys asesiadau ac astudio annibynnol.
8. Caiff modiwlau eu neilltuo i lefelau 0, 1, 2, S, 3 neu M gyda:
(i) lefel 0 yn ddarpariaeth lefel sylfaen, cyn mynediad i flwyddyn un mewn gradd gychwynnol
(ii) lefel 1 yn flwyddyn gyntaf mewn gradd gychwynnol
(iii) lefelau 2 a 3 yn Rhan Dau gradd Baglor
(iv) lefel S yn flwyddyn ryngosod/intercalaraidd/ddiwydiannol mewn gradd gychwynnol
(v) lefel M yn flwyddyn olaf gradd Meistr integredig (e.e. MEng) a lefel rhaglenni uwchraddedig trwy gwrs.
9. Mae’r lefelau hyn yn cyd-fynd â lefelau 3-7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
10. Bydd cymhwyso am radd Anrhydedd ar lefel Baglor yn ddibynnol ar gronni o leiaf 360 o gredydau ac fel arfer isafswm o 120 o gredydau lefel 3. Ar gyfer gradd Anrhydedd Meistr integredig rhaid cael o leiaf 480 o gredydau gydag o leiaf 120 o gredydau lefel M fel arfer. Dim ond pan nad oes dull arall o hwyluso trosglwyddo credydau, neu gywiro gwallau cofrestru, y caiff eithriadau i’r gofynion hyn eu hystyried, a bydd hynny’n amodol ar gymeradwyaeth y Dirprwy Is-Ganghellor.
11. Bydd cymhwyster am radd Gyffredin yn ddibynnol ar gronni o leiaf 360 o gredydau ac fel arfer isafswm o 60 o gredydau lefel 3. Dim ond pan nad oes dull arall o hwyluso trosglwyddo credydau, neu gywiro gwallau cofrestru, y caiff eithriadau i’r gofynion hyn eu hystyried, a bydd hynny’n amodol ar gymeradwyaeth y Dirprwy Is-Ganghellor.
12. Os yw myfyrwyr yn treulio blwyddyn mewn diwydiant neu dramor fel rhan orfodol o’u gradd, bydd yn rhaid wrth 120 o gredydau ar lefel S hefyd er mwyn bod yn gymwys i gael y radd.
13. Caiff yr asesiad ar gyfer pob modiwl ei gwblhau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gorffen yr addysgu sy’n gysylltiedig â’r modiwl.
14. Cynhelir arholiadau atodol ym mis Awst/Medi bob blwyddyn.
15. Rhaid cynllunio’r asesiadau i brofi a gyflawnwyd deilliannau dysgu’r modiwl a dylid rhoi sylw i’r angen i roi cyfle i’r myfyrwyr i gael profiad o amrywiaeth eang o ddulliau asesu yn ystod eu hastudiaethau, ac i baratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth.
16. Bydd gan bob modiwl Gydlynydd Modiwl dynodedig, a’r adran a’r athrofa y mae Cydlynydd y Modiwl yn perthyn iddynt fydd yn gyfrifol am y modiwl.
17. Bydd un gyfadran yn gyfrifol am bob cynllun gradd Anrhydedd Sengl. Os caiff cynllun Anrhydedd Sengl ei gyflwyno gan ddwy Gyfadran neu fwy, caiff un o’r rhain ei dynodi’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun. Y gyfadran sy’n ei chynnig fydd yn gyfrifol am bob elfen o gynllun Anrhydedd Gyfun neu Brif bwnc/Is-bwnc.
18. Os yw adran yn credu y dylid cyflwyno achos dros gyfyngu nifer y myfyrwyr sy’n astudio modiwl penodol neu sy’n dechrau ar Ran Dau cynllun gradd israddedig, dylid cyflwyno achos clir gan gynnwys datganiad am y meini prawf mynediad i’r gyfadran berthnasol cyn diwedd y sesiwn sy’n rhagflaenu honno lle bydd y cwotâu yn weithredol neu cyn cofrestru dros dro. Mewn achosion lle caiff modiwl ei gymryd gan fyfyrwyr o’r tu allan i’r gyfadran, dylai’r gyfadran sy’n cynnig y modiwl gydgysylltu â’r gyfadran arall/cyfadrannau eraill, ac os yw’r modiwl yn un craidd mewn cynllun gradd, dylai myfyrwyr ar y cynllun hwnnw gael blaenoriaeth.
Diffiniadau
19. Diffinnir modiwlau fel hyn:
(i) Rhagofynion: rhaid i fyfyrwyr eisoes fod wedi astudio unrhyw fodiwlau neu gyrsiau a restrir yma
(ii) Cyd-ofynion: rhaid i fyfyrwyr hefyd astudio neu fod wedi astudio unrhyw fodiwlau a restrir yma
(iii) Elfennau Anghymharus: ni chaiff myfyrwyr hefyd astudio’r modiwlau a restrir yma.
20. Diffinnir cynlluniau fel hyn:
(i) Modiwlau craidd: rhaid i fyfyrwyr astudio’r modiwlau a restrir yma
(ii) Opsiynau: rhaid i fyfyrwyr astudio o leiaf y nifer a ddangosir o’r modiwlau hyn
(iii) Dewis agored: dewis rhydd o fodiwlau yn amodol ar gymeradwyaeth Cydlynydd y Cynllun Gradd.
21. Diffinnir lefelau fel hyn:
AU0/Fframwaith Cymru
Lefel 3: Defnyddio gwybodaeth a sgiliau o fewn ystod o weithgareddau cymhleth gan ddangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau perthnasol; cyrchu a dadansoddi gwybodaeth yn annibynnol a gwneud penderfyniadau rhesymegol, gan ddethol o blith dewis sylweddol o weithdrefnau, mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, a chyfeirio’ch gweithgareddau eich hun, gyda pheth cyfrifoldeb dros gynnyrch pobl eraill.
[Modiwlau a astudir yn y flwyddyn ragarweiniol/sylfaen sy’n arwain at fynediad i gynllun gradd gychwynnol.]
AU1/Fframwaith Cymru
Lefel 4: Datblygu dull cadarn o gaffael sylfaen eang o wybodaeth; defnyddio ystod o sgiliau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth a’i defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i benderfynu ar ddatrysiadau i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy; a gweithredu o fewn ystod o gyd-destunau amrywiol a phenodol, i sicrhau canlyniadau penodol.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod blwyddyn gyntaf cynllun gradd llawn amser neu’r hyn sydd gyfwerth.]
AU2/Fframwaith Cymru
Lefel 5: Cynhyrchu syniadau drwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gyda meistrolaeth ar sgiliau arbenigol a chreu ymatebion i broblemau sydd wedi’u diffinio’n glir a phroblemau haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth; datblygu’r gallu i ddefnyddio crebwyll sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod ail flwyddyn cynllun gradd llawn amser neu’r hyn sydd gyfwerth.]
AU3/Fframwaith Cymru
Lefel 6: Adolygu’n feirniadol, atgyfnerthu ac ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau arbenigol ar draws maes astudio; gwerthuso’n feirniadol gysyniadau a thystiolaethau newydd o ystod o ffynonellau; trosglwyddo a defnyddio sgiliau diagnostig a chreadigol a defnyddio crebwyll sylweddol mewn ystod o sefyllfaoedd; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu a chyflawni canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod trydedd flwyddyn a/neu flwyddyn olaf cynllun gradd safonol llawn amser neu’r hyn sydd gyfwerth.]
AUM/Fframwaith Cymru
Lefel 7: Dangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau; defnyddio sgiliau uwch i gynnal ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch; derbyn atebolrwydd dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth a, dan amgylchiadau addas, cynghori eraill.
[Modiwlau a astudir fel arfer ym mlwyddyn olaf cynllun gradd Meistr integredig cychwynnol llawn amser neu fel rhan o gynllun Meistr trwy Gwrs, gan gynnwys y traethawd estynedig neu’r hyn sydd gyfwerth.]
AUD/Fframwaith Cymru
Lefel 8: Gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i faes ymchwil arbenigol gan ddangos meistrolaeth dros faterion methodolegol a chymryd rhan mewn deialog feirniadol â chymheiriaid; derbyn atebolrwydd llawn dros ganlyniadau.
[Mae hyn yn cynrychioli gwaith ymchwil ar lefel ddoethurol.]
Strwythur Cynlluniau Gradd Israddedig
Rhan Un
22. Mae Rhan Un yn cynnwys 120 o gredydau, i’w cymryd yn ystod blwyddyn gyntaf astudiaethau myfyrwyr llawn amser. Bydd myfyrwyr rhan amser yn cwblhau Rhan Un dros ddwy flynedd gan gytuno ar nifer y credydau sydd i’w cymryd ym mhob sesiwn.
23. Eithriadau i ofynion Rhan Un:
(i) Bydd myfyrwyr Cymraeg (Dechreuwyr) sy’n dymuno symud ymlaen i radd Anrhydedd yn y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd yn dilyn rhaglen Rhan Un dros ddwy flynedd
(ii) Myfyrwyr ar gynlluniau gradd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen ar lefel 0 cyn symud ymlaen i Ran Un.
24. Ar gyfer pob cynllun astudio, caiff nifer y modiwlau craidd, opsiynau a dewis agored eu gosod ar gyfer Rhan Un, er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer Rhan Dau eu graddau. Mewn cynlluniau a achredir yn allanol, caiff strwythurau eu llywio hefyd gan eithriadau/achredu.
25. Bydd llawer o gynlluniau gradd yn caniatáu ychydig iawn o ddewis yn Rhan Un oherwydd gofynion y pwnc a/neu gyrff proffesiynol ac achredu allanol. Lle y bo’n bosib, serch hynny, dylid ystyried Rhan Un fel cyfle i fyfyrwyr roi cynnig ar fodiwlau y tu hwnt i’w pwnc Anrhydedd. Dylid cadw hyn mewn cof wrth gynllunio’r cynlluniau gradd ac yn y cyngor a roddir i fyfyrwyr wrth gofrestru. Os bydd y gofynion craidd yn caniatáu hynny, dylai myfyrwyr allu dewis modiwlau fydd yn caniatáu iddynt symud ymlaen mewn mwy nag un cynllun gradd, gan eu galluogi i newid eu cynllun gradd os ydynt yn penderfynu yn ystod Rhan Un nad ydynt am barhau i ddilyn eu dewis gwreiddiol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr holl fodiwlau a gymerir yn cyfrif at ddibenion symud ymlaen.
Rhan Dau
26. Mae Rhan Dau yn cynnwys 240 o gredydau mewn cynlluniau llawn amser 3 blynedd neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan amser, neu 360 o gredydau mewn cynlluniau 4 blynedd neu gyfatebol. Bydd rhai rhaglenni hefyd yn cynnwys blynyddoedd cyfannol neu ryngosod dewisol mewn diwydiant neu dramor sy’n cyfateb i 120 o gredydau eraill. Bydd canlyniad y radd yn deillio o gredydau Rhan Dau yn unig a bydd pob modiwl ar ôl Rhan Un yn cyfrannu at asesiad y radd derfynol.
27. Fel yn Rhan Un, caiff modiwlau craidd, opsiynau a dewis agored eu diffinio ar gyfer pob cynllun astudio. Caiff y cynnwys a’r strwythur eu gosod yn y gronfa ddata astudio ar-lein ac ym manyleb rhaglen ar-lein pob cynllun, sy’n cynnwys deilliannau dysgu. Mewn cynlluniau a achredir yn allanol, bydd y strwythurau hefyd yn cael eu llywio gan eithriadau/achredu. Bydd cydlynwyr cynlluniau gradd yn sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cynllunio a’u cynnal er mwyn sicrhau bod canlyniadau dysgu’n cael eu bodloni, a bod myfyrwyr yn cael eu cofrestru ar y modiwlau priodol.
28. Gallai gofynion cynlluniau gradd gynnwys rheolau ychwanegol, er enghraifft er mwyn diffinio nifer y credydau y gellir eu cymryd y tu allan i bwnc Anrhydedd. Gellid defnyddio rheolau o’r fath i annog myfyrwyr i ddefnyddio credydau mewn meysydd pwnc cysylltiedig, o fewn terfynau diffiniedig i sicrhau bod deilliannau dysgu cynlluniau’n cael eu bodloni. Er enghraifft gallai adran sy’n cynnig nifer o raglenni Anrhydedd Sengl gyfyngu’r dewis o opsiynau i fodiwlau o’r adran honno ar wahân i nifer penodedig sy’n dod o adrannau eraill o fewn, neu’r tu allan i’r adran. Rhaid i unrhyw reolau o’r fath sicrhau bod deilliannau dysgu’r cynllun yn cael eu bodloni, a bydd angen cymeradwyaeth gan yr aelod perthnasol o staff ar gyfer pob cofrestriad myfyriwr.
29. Os yw myfyrwyr yn dymuno gwyro oddi wrth reolau’r cynllun neu’r athrofa, rhaid cael cymeradwyaeth Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig neu Uwchraddedig yr Athrofa.
Cynlluniau Anrhydedd Gyfun a Phrif bwnc/Is-bwnc
30. Mae’n bosib (gweler y rheolau uchod) cynnwys modiwlau o adrannau/pynciau eraill yn rheolau’r cynlluniau unigol. Gellir cyflwyno dau faes pwnc neu ragor mewn cynllun Anrhydedd Sengl integredig rhyngddisgyblaethol. Trydedd ffordd o alluogi myfyrwyr i astudio pynciau gwahanol yw cynlluniau Anrhydedd Gyfun neu Brif bwnc /Is-bwnc lle gellir astudio dwy raglen wahanol gyda’i gilydd e.e. Hanes ac Almaeneg.
31. Mae’r rheolau ar gyfer cynlluniau Anrhydedd Gyfun fel a ganlyn:
(i) Rhan Un: modiwlau gofynnol y pynciau yn y cynllun gradd ar Lefel 1 gydag o leiaf 40 a dim mwy na 60 o gredydau yn y naill bwnc a’r llall
(ii) Rhan Dau: isafswm o 100 o gredydau ym mhob pwnc ar Lefel 2/3.
32. Mae’r rheolau ar gyfer cynlluniau Prif bwnc /Is-bwnc fel a ganlyn:
(i) Rhan Un - modiwlau gofynnol y pynciau yn y cynllun gradd ar Lefel 1 gyda 40 o gredydau yn yr Is-bwnc a dim mwy na 80 o gredydau yn y Prif Bwnc
(ii) Rhan Dau – isafswm o 60 o gredydau yn yr Is-bwnc a dim mwy na 160 o gredydau yn y Prif Bwnc ar Lefel 2/3.
33. Ni ddylid cymryd modiwlau Lefel 1 yn Rhan Dau oni bai ei bod yn amhosib osgoi hynny, er enghraifft er mwyn cynnwys yr holl fodiwlau sydd eu hangen ar gyfer achrediad mewn cynllun Anrhydedd Gyfun. Yn yr amgylchiadau hynny, gall myfyriwr, drwy ymgynghori â Chydlynydd y Cynllun Gradd, ofyn caniatâd Deon Cysylltiol Astudiaethau Israddedig y Gyfadran i ddilyn dim mwy, fel arfer, na gwerth 20 credyd o fodiwlau Lefel 1 yn Rhan Dau.