3. Rheoliadau

3.1 Statws a Phreswyliaeth Myfyrwyr

3.1.1 Myfyriwr ydyw unigolyn sydd wedi’i gofrestru gan y Brifysgol ar gwrs astudio cymeradwy. O’i gofrestru, bydd yn fyfyriwr tan i un o’r canlynol ddigwydd:

  • Cadarnhau a chofnodi’n ffurfiol ar AStRA bod y cwrs wedi ei gwblhau’n llwyddiannus.

  • Cadarnhau a chofnodi’n ffurfiol fethu yn academaidd heb gyfle pellach i geisio gwneud yn iawn am y methu.

  • Gwahardd y myfyriwr yn barhaol ar sail ariannol, disgyblaethol neu ar sail arall.

  • Y dyddiad cau terfynol ar gyfer cwblhau cwrs yn dod i ben.

  • Marwolaeth y myfyriwr.

  • Cymeradwyo a chofnodi’n ffurfiol gais gan y myfyriwr i dynnu’n ôl o’r cwrs yn barhaol.

  • Methiant y myfyriwr i ailgofrestru ar gyfer pob sesiwn academaidd yn ôl y gofyn; pennir bod y cyfryw fyfyrwyr wedi tynnu’n ôl yn barhaol oni chyflwynir gwybodaeth i’r gwrthwyneb.

3.1.2 Bydd y Brifysgol yn ardystio statws myfyriwr ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru. Fodd bynnag, ni ellir gwneud hynny ar gyfer y grwpiau canlynol:

  1. Myfyrwyr sydd wedi tynnu’n ôl dros dro neu wedi eu gwahardd dros dro o’r cwrs. Yn ystod y cyfnod o fod wedi tynnu’n ôl neu fod wedi’u gwahardd byddant yn ymgeiswyrar gyfer y radd ond heb eu cofrestru nac yn dilyn eu hastudiaethau. Gall y Brifysgol gadarnhau (at ddibenion eithrio rhag Treth y Cyngor yn y DU, er enghraifft) nad ydynt wedi cwblhau’r cwrs nac wedi ymadael â’r cwrs yn barhaol. Bydd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n cyflawni interniaethau neu flynyddoedd mewn swyddi nad ydynt yn rhan o’r cwrs astudio.
  2. Nid yw myfyrwyr uwchraddedig sy’n ysgrifennu’r traethawd neu’n ailgyflwyno ac sydd wedi cwblhau’r cyfnod cofrestru sy’n ofynnol ar gyfer y radd bellach wedi’u cofnodi yn fyfyrwyr cofrestredig; maent yn ymgeiswyrar gyfer y radd a gellir ardystio i hynny. Gellir darparu tystysgrifau eithrio o Dreth y Cyngor i fyfyrwyr PhD ac MPhil amser llawn am 12 mis a 6 mis yn eu tro mewn perthynas â’u cyfnodau ysgrifennu.

3.1.3 Er mwyn ardystio ei fod yn fyfyriwr amser llawn, rhaid i fyfyriwr fod wedi’i gofrestru’n ymgeisydd amser llawn ar gyfer y radd ar y pryd. Bydd ardystio fel arfer yn cadarnhau’r dull astudio (amser llawn, rhan-amser, dysgu o bell ac ati).

3.1.4 Rhaid i bob myfyriwr amser llawn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r campws ble mae’n astudio a gallu mynychu gweithgareddau sydd wedi’u trefnu o fewn i’r oriau dysgu arferol. Mae hyn yn berthnasol i israddedigion yn ystod y tymor; dylai myfyrwyr hefyd sicrhau eu bod ar gael i ailsefyll arholiadau yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol ym mis Awst i adennill unrhyw gredydau a fethwyd cyn dechrau’r sesiwn academaidd nesaf.

3.1.5 Rhaid i fyfyrwyr Meistr trwy gwrs amser llawn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r campws ar gyfer deuddeg mis llawn y cwrs. Fodd bynnag, gall myfyrwyr adael Aberystwyth yn ystod y cyfnod prosiect/traethawd estynedig, ar yr amod eu bod yn mynychu’r holl sesiynau dysgu, eu bod wedi cwblhau’r gwaith labordy sy’n ofynnol, trefnu goruchwyliaeth o bell, a bod yr adran yn cymeradwyo. Bydd angen i fyfyrwyr Fisa Myfyriwr gysylltu â’r Swyddfa Cydymffurfiaeth i drafod goblygiadau ar gyfer nawdd wrth iddynt adael Aberystwyth.

3.1.6 Rhaid i fyfyrwyr amser llawn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i Aberystwyth. Yn unol â disgwyliadau Cynghorau Ymchwil, dylai myfyrwyr ymchwil fod yn bresennol am 44 wythnos ymhob blwyddyn academaidd, trwy gydol eu cyfnod fel myfyrwyr cofrestredig. Mae’n bwysig bod myfyrwyr ar gael i gwblhau gweithgareddau gorfodol megis hyfforddiant ymchwil, i fanteisio ar gyfleoedd eraill ar gyfer datblygiad personol a proffesiynol, ac i elwa o fod yn rhan o gymuned o staff a myfyrwyr ymchwil o fewn eu hadrannau a’u cyfadrannau, a’r brifysgol yn ehangach. 

Noder hefyd y gall noddwyr ariannol a fisa osod gofynion preswyl yn ychwanegol i rai’r Brifysgol, ac y bydd yn rhaid i fyfyrwyr eu cadw.

Caniateir rhai eithriadau mewn rhaglenni astudio penodol, yn cynnwys y trefniadau canlynol (DS – nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr):

  • PhD ar fwy nag un safle, lle bydd myfyriwr yn treulio rhan o’r cyfnod astudio mewn prifysgol bartner

  • PhD allanol, lle mae’r myfyrwyr yn astudio mewn man arall yn llawn amser.

  • Prosiectau cydweithredol, lle gall y myfyriwr fyw mewn man arall trwy gydol yr amser.

  • Prosiectau wedi eu cyllido, lle bydd natur yr ymchwil yn mynnu bod y myfyriwr yn byw mewn man arall.

  • Gwaith maes wedi ei gymeradwyo, sy’n golygu bod yn rhaid i fyfyriwr dreulio cyfnodau sylweddol mewn mannau eraill.

Os yw myfyrwyr ymchwil cofrestredig amser llawn yn dymuno treulio mwy na dau fis i ffwrdd o Aberystwyth o fewn blwyddyn academaidd, a hynny am resymau heb fod yn gysylltiedig â’u hymchwil, rhaid iddynt dderbyn caniatád Cyfarwyddwr Ymchwil neu Astudiaethau Uwchraddedig y Gyfadran a Phennaeth Ysgol y Graddedigion. Gall fod amgylchiadau eithriadol dros gyflwyno cais ond mae’n rhaid i fyfyrwyr ddangos:

  • Eu bod yn gallu mynychu’r Brifysgol ar gyfer gweithgareddau gorfodol

  • Eu bod yn gallu cynnal cyswllt agos gyda’r tîm goruchwylio

  • Eu bod yn gallu parhau i wneud cynnydd boddhaol gyda’u hymchwil.

Bydd yr achosion hyn yn cael eu monitro’n ofalus gan y Cyfadrannau yn eu cyfarfodydd monitro rheolaidd. Os na fydd cynnydd boddhaol, bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori i ddychwelyd i Aberystwyth, tynnu’n ôl dros dro, neu gael eu rhwystro rhag parhau â’u hymchwil yn unol â’r Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

3.1.7 Bydd rhaid i fyfyrwyr â fisas ‘Fisa Myfyriwr’ i astudio yn y DU hefyd fodloni gofynion y Swyddfa Gartref ar gyfer byw yn Aberystwyth gyhyd ag y bydd ganddynt Gadarnhad o’u Derbyn i Astudio a rhaid iddynt beidio â byw yn rhywle arall yn y DU. 

3.1.8 Ni fydd y gofynion preswylio hyn yn berthnasol yn achos myfyrwyr sy’n gwneud gwaith maes, ymchwil, profiad gwaith neu weithgarwch cymeradwy arall fel rhan o’r rhaglen sy’n gofyn iddynt fyw yn rhywle arall. At hyn, gellir cymeradwyo rhaglenni cydweithredol a dysgu o bell lle bydd myfyrwyr yn byw yn rhywle arall ar gyfer eu hastudiaethau i gyd, neu ran ohonynt.

3.2 Rheoliadau’n Ymwneud â Neuaddau Preswyl y Brifysgol

Dylai myfyrwyr nodi fod gan Neuaddau Preswyl y Brifysgol reoliadau ychwanegol sydd wedi’u cynnwys yn Nhrwydded Llety’r Brifysgol a’r Llawlyfr Preswylwyr, sydd yn rhan o’r Rheoliadau hyn ac sy’n ddarostyngedig i Drefn Ddisgyblu’r Brifysgol. Am ragor o fanylion gweler https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/weithdrefn-disgyblu-myfyrwyr/

3.3 Rheoliadau Cyffredinol y Brifysgol

3.3.1 Dylai myfyrwyr, ac eithrio’r rhai a nodwyd isod, ddod yn ôl i’r Brifysgol erbyn diwrnod cyntaf pob tymor a chofrestru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Dylai uwchraddedigion a fydd yn cofrestru ar ddiwrnod gwahanol i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gofrestru cyn dechrau ar eu cwrs.

3.3.2 Anogir pob myfyriwr yn Aberystwyth gofrestru â meddyg teulu lleol er mwyn gallu cael gofal iechyd 24 awr. Nid oes raid cofrestru ymlaen llaw. Mae modd cael yswiriant iechyd preifat hefyd. Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd i fyfyrwyr o’r AEE a myfyrwyr o’r tu allan i’r AEE yn y cyhoeddiad Gwybodaeth i Fyfyrwyr.

3.3.3 NODER: Ceir manylion ynglŷn â gofynion presenoldeb mewn dosbarthiadau a chyflwyno gwaith ysgrifenedig yn:


Gallai defnydd twyllodrus o systemau monitro presenoldeb arwain at gamau disgyblu yn unol â’r Rheolau a’r Rheoliadau i Fyfyrwyr.

3.3.4 Rhaid rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ddi-oed os bydd afiechyd heintus mewn tŷ neu fflat, neu os bydd myfyriwr yn ddifrifol wael.

3.3.5 Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i’w hadrannau am unrhyw amgylchiadau arbennig, personol neu feddygol, a allai effeithio ar eu perfformiad academaidd trwy lenwi’r ‘Ffurflen Amgylchiadau Arbennig’, gan sicrhau eu bod yn ei chyflwyno ynghyd â’r holl dystiolaeth ategol briodol ar yr adeg y mae’r amgylchiadau arbennig yn effeithio arnynt.

3.3.6 Rhaid i fyfyrwyr ddiweddaru eu cofnod myfyriwr yn ddi-oed os bydd unrhyw newid i’w cyfeiriad cartref neu eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Rhaid i fyfyrwyr hefyd ddarparu manylion cyswllt brys. Cewch weld cofnodion y myfyrwyr yma: https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/login.php.

3.3.7 Ysmygu

Mae ysmygu wedi’i wahardd ym mhob un o adeiladau’r Brifysgol, ym mhob mynedfa led-gaeedig i adeiladau yn ogystal â’r holl fynedfeydd allanol, ffenestri a mannau eraill lle y gallai’r mwg ddod i mewn i adeilad.

3.3.8 Pwrcasu

Ni chaniateir i fyfyrwyr bwrcasu nwyddau neu wasanaethau ar ran y Brifysgol. Gwneir pwrcasau ar ran Undeb y Myfyrwyr neu gymdeithasau myfyrwyr gan rai a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan, a neb arall.

3.3.9 Ffonau

3.3.9.1 Ni chaiff myfyrwyr ddefnyddio ffonau’r Brifysgol i wneud galwadau preifat.

3.3.10 Diogelu Data

3.3.10.1 Wrth gofrestru, dylai pob myfyriwr nodi sut mae’r Brifysgol yn prosesu eu data trwy ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr:  https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/corporate-information/information-governance/data-protection/student-privacy-notice/

Ni ddylai myfyrwyr greu neu gadw ffeiliau cyfrifiadurol yn cynnwys data sy’n seiliedig ar bobl sy’n fyw i’w defnyddio mewn cyswllt â’u hastudiaethau neu ymchwil heb ganiatâd llawn aelod priodol o’r staff.

3.3.10.2 Pan roddir caniatâd o’r fath dylai myfyrwyr gydymffurfio ag Egwyddorion Diogelu Data ym mhob achos lle defnyddiant neu lle ddônt i gysylltiad â data personol a gofrestrir gan y Brifysgol.

3.3.11.1 Byrddau sglefrio, esgidiau olwyn, llafnau olwyn, beiciau neu gyfarpar tebyg

Gwaherddir defnyddio byrddau sglefrio, esgidiau olwyn, llafnau olwyn a chyfarpar tebyg ar holl eiddo a thiroedd y Brifysgol; dylid defnyddio beiciau ar y ffyrdd yn unig. Gellid caniatáu eithriadau i'r rheoliad hwn i ddigwyddiadau chwaraeon o wneud cais i’r Ganolfan Chwaraeon (ar gyfer adnoddau a reolir gan y Ganolfan honno) neu’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (neu ddirprwy) (ar gyfer pobman arall).

3.3.11.2 Offer electronig personol

Ni ddylid cysylltu offer electronig personol (gliniaduron, er enghraifft) â’r prif gyflenwad pŵer pan fo’n beryglus i iechyd a diogelwch mewn mannau dysgu a lleoedd eraill. Bydd rheolau lleol ar waith mewn ystafelloedd gweithfannau, llyfrgelloedd, cyfleusterau Ystadau, Adnoddau a Llety a mannau sy’n perthyn i adrannau academaidd (megis labordai).

3.4 Rheoliadau’n Ymwneud â Cherbydau

3.4.1 Ffyrdd preifat yw’r ffyrdd ar gampws y Brifysgol a chaniateir parcio cerbydau yno ar y ddealltwriaeth bendant mai cyfrifoldeb y perchenogion yn unig fydd y cerbydau a adewir yno, ac na fydd y Brifysgol yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddigwydd.

3.4.2 Rhaid i fyfyrwyr sy’n dod â cherbydau modur, gan gynnwys beiciau modur, ar un o gampysau’r Brifysgol ufuddhau i’r gyfraith a Rheolau’r Ffordd Fawr sy’n berthnasol i gerbydau’n cael eu gyrru ar y ffyrdd cyhoeddus. Ni chaniateir dod â cherbyd heb drwydded, heb yswiriant, neu un nad yw’n addas i’r ffordd fawr, ar gampysau’r Brifysgol neu ar unrhyw dir arall sy’n eiddo i’r Brifysgol.

3.4.3 Ni chaniateir parcio cerbyd ar gampysau’r Brifysgol nac ar unrhyw ran arall o eiddo’r Brifysgol, ac eithrio mewn mannau awdurdodedig.

3.4.4 Ni chaniateir i fyfyrwyr barcio cerbyd ar unrhyw gampws y Brifysgol neu ar unrhyw dir arall o eiddo’r Brifysgol heb drwydded barcio swyddogol onid awdurdodir fel arall gan dîm Diogelwch Gwasanaethau’r Campws. Bydd y trwyddedau parcio mewn grym am y sesiwn academaidd neu am gyfnod y drwydded llety (fel bo’n berthnasol). Mae’r trwyddedau parcio yn berthnasol i ardaloedd parcio penodol. Rhaid anfon cais am drwyddedau parcio ar gyfer pob sesiwn at dîm Diogelwch Gwasanaethau’r Campws. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.aber.ac.uk/cy/parking

3.4.5 Ni chaniateir i ddysgwyr yrru ar dir y Brifysgol, os oes ganddynt hyfforddwr gyda hwy ai peidio.

3.4.6 Rhaid i yrwyr gadw at y terfyn cyflymder o rhwng 5-20 mya (fel y nodir ar yr arwyddion ffyrdd).

3.4.7 Rhaid i yrwyr cerbydau aros os bydd unrhyw aelod awdurdodedig o Staff y Brifysgol yn rhoi arwydd iddynt wneud hynny.

3.5 Rheoliadau’n Ymwneud â Defnyddio Cyfleusterau Chwaraeon

3.5.1 Mae’n ofynnol i myfyrwyr dalu’r tâl priodol neu feddu ar y statws aelodaeth priodol i fod yn gymwys i ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon.

3.5.2 Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i ddangos eu cardiau aelodaeth ar gais aelod o staff y Ganolfan Chwaraeon.

3.5.3 Mae’n ofynnol fod myfyrwyr wedi gwisgo’n briodol ar gyfer eu camp chwaraeon.

3.5.4 Dylai myfyrwyr sicrhau fod eu hoffer yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau diogelwch corff llywodraethol eu camp arbennig hwy.

3.5.5 Dylai myfyrwyr a chanddynt afiechyd meddygol a allai eu peryglu’u hunain neu eraill wrth ymgymryd â gweithgarwch corfforol hysbysu’r sawl a fydd yn gyfrifol am y gamp arbennig honno.

3.5.6 Ar ôl ymaelodi, disgwylir i fyfyrwyr gadw at delerau ac amodau aelodaeth y Ganolfan. Ceir rheoliadau pellach ynghylch defnyddio cyfleusterau chwaraeon penodol. Mae’r rhain yn rhan o Weithdrefn Disgyblu’r Brifysgol, ac yn ddarostyngedig iddi, a nodir y weithdrefn yn Adran 5 isod.

3.6 Rheoliadau'r Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth i’w cael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/isregs/

3.7 Rheoliadau’n Ymwneud â Thalu Ffioedd Dysgu a Ffioedd Eraill

3.7.1 Mae’n un o amodau cyflwyno gradd neu ddyfarnu diploma neu dystysgrif fod yr holl ffioedd dysgu sy’n ddyledus i’r Brifysgol wedi’u talu.

3.7.2 Cyfrifoldeb unigol pob myfyriwr yw talu pob ffi, dyled neu daliadau eraill sy’n daladwy ar ei ran i’r Brifysgol. Nid yw’r ffaith bod corff sy’n cynrychioli myfyrwyr, neu unrhyw gorff arall, wedi cynghori peidio â thalu neu unrhyw ddull gweithredu arall a all olygu colled ariannol i’r Brifysgol, yn effeithio ar y cyfrifoldeb unigol hwn.

3.7.3 Bydd myfyrwyr nad ydynt yn cael cymorth ariannol tuag at dalu eu ffioedd dysgu yn gyfrifol am dalu cyfanswm llawn y ffioedd hynny, e.e. oddi wrth asiantaeth benthyciadau neu noddwr arall.

3.7.4 Y Brifysgol sy’n gwneud pob cynnig swyddogol i dderbyn myfyrwyr i astudio’n uwchraddedig. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen briodol ac mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni’r Brifysgol bod digon o arian ar gael i dalu’r ffioedd. Bydd y rheol hon yn berthnasol i ymgeiswyr sy’n newydd i’r Brifysgol ac i raddedigion y Brifysgol ei hun.

3.7.5 Ystyrir newid yn y cofrestru, a fydd yn ymestyn cyfnod cwrs uwchraddedig, fel derbyniad newydd a bydd yn amodol ar yr un gwiriadau ag yn 3.7.4 uchod.

3.7.6 Ni chaiff y myfyrwyr hynny y mae’n ofynnol iddynt ail-wneud blwyddyn o ganlyniad i fethiant academaidd neu ryw amgylchiadau eraill, wneud hynny oni allant fodloni’r Brifysgol bod digon o arian ar gael i dalu eu ffioedd.

3.7.7 Ni chaiff unrhyw fyfyriwr na fydd wedi talu ei ffioedd dysgu dderbyn yr arian a ddaw oddi wrth unrhyw gymrodoriaeth, efrydiaeth, ysgoloriaeth neu wobr a ddyfarnwyd iddo/iddi gan y Brifysgol.

3.7.8 Gellir gosod un neu ragor o’r cosbau canlynol ar fyfyrwyr nad ydynt wedi talu eu ffioedd dysgu:

  • dileu’r hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol;

  • dileu’r hawl i drosglwyddo i’r flwyddyn academaidd nesaf;

  • dileu’r hawl i gyflwyno am gymhwyster oddi wrth y Brifysgol

  • dileu’r hawl i fynychu’r seremoni graddio;

  • diddymu cofrestriad yn y Brifysgol.

3.7.9 Gellir gweithredu trwy’r Llysoedd i adennill dyledion myfyrwyr i’r Brifysgol.

3.7.10 Codir llog heb fod yn fwy na’r gyfradd banc arferol ar unrhyw daliadau sy’n ddyledus i’r Brifysgol o’r dyddiad yr oedd y ffioedd yn ddyledus.

3.7.11 Mae ffioedd dysgu i’w talu’n llawn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. O gael caniatâd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, gall myfyrwyr dalu eu ffioedd dysgu drwy randaliad. Gweler http://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/undergraduate-uk/tuition-fees/how-to-pay i weld yr holl opsiynau ar gyfer talu. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i fynnu bod unrhyw symiau dyledus yn cael eu talu ar unwaith, er gwaethaf unrhyw gytundeb i dalu mewn rhandaliadau.

3.8 Rheoliadau’n Ymwneud â Ffioedd am Lety’r Brifysgol

3.8.1 Wrth dderbyn cynnig o le mewn llety o eiddo’r Brifysgol mae myfyriwr yn ymrwymo i gadw’r lle hwnnw am sesiwn cyfan, oni nodir yn wahanol.

Gan hynny mae ymrwymiad ar y myfyriwr i dalu’r ffioedd am holl gyfnod y drwydded. Lle gwneir eithriad, a chaniatáu i fyfyriwr ymadael am resymau cymeradwy’n ymwneud ag iechyd neu les, deil ymrwymiad nhw i dalu’r ffioedd sy’n ddyledus am yr holl gyfnod y bu yn y llety, neu y bu’n gyfrifol amdano.

3.8.2 Wrth dderbyn lle mewn llety o eiddo’r Brifysgol mae myfyriwr yn ymrwymo i gydymffurfio ymhob modd â’r amodau a thelerau a geir yn y Cytundeb Trwydded Llety ar gyfer y flwyddyn academaidd dan sylw. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i fynnu bod unrhyw symiau dyledus yn cael eu talu ar unwaith, er gwaethaf unrhyw gytundeb i dalu mewn rhandaliadau.

3.8.3 Un o amodau’r cytundeb sy’n ymwneud â derbyn myfyriwr i lety o eiddo’r Brifysgol yw bod yr holl daliadau llety wedi eu talu erbyn y dyddiad penodedig.

3.8.4 Gellir codi taliadau ychwanegol i ddigolledu cyfrif y Neuadd am unrhyw golled a ddioddefwyd trwy fethiant myfyriwr neu fyfyrwyr i gyflwyno eu taliadau ar y diwrnod cywir. Mae rhagor o wybodaeth am y taliadau ychwanegol ar wefan Llety’r Brifysgol - https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/

3.8.5 Gellir gosod y cosbau canlynol ar fyfyrwyr nad ydynt wedi talu eu ffioedd llety:

  • Troi allan oherwydd torri amodau’r Cytundeb Trwydded Llety;

  • Colli’r hawl i gael rhagor o lety gan y Brifysgol;

  • Cadw’r blaendal llety;

  • Cyfeirio’r ddyled i asiantaeth casglu dyledion allanol.

3.9 Rheoliadau’n Ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr

3.9.1 Bydd myfyrwyr sy’n defnyddio adeiladau Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw eiddo i Undeb y Myfyrwyr neu fudiad myfyrwyr arall yn y Brifysgol yn rhwym i gadw at Reolau a Rheoliadau’r Brifysgol. Maent hefyd yn rhwym wrth Reolau a Rheoliadau Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad myfyrwyr arall pan ddefnyddir adeiladau Undeb y Myfyrwyr neu eiddo i Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad myfyrwyr arall neu pan fynychir cyfarfodydd neu unrhyw ddigwyddiadau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad myfyrwyr arall.

3.10 Cyfrifon e-bost a logiau gwe

3.10.1 E-bost yw’r brif ffurf a ddefnyddir i gyfathrebu â myfyrwyr a disgwylir i bob myfyriwr ddarllen eu negeseuon e-bost yn rheolaidd.

3.10.2 Mewn amgylchiadau a reolir yn gaeth, gall y Brifysgol gyrchu cyfrifon e-bost myfyrwyr a’u logiau gwe fel rhan o ymchwiliad i gyhuddiadau penodol o ymddwyn yn annheg neu os amheuir bod myfyrwyr wedi mynd yn groes i Reoliadau’r Brifysgol neu wedi torri’r gyfraith.